Fe’ch gwahoddir yn gynnes i sesiwn flynyddol yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae’r sesiwn am 4 o’r gloch brynhawn Llun, y 5ed o Awst, ar stondin Prifysgol Bangor. Byddwn yn rhoi trosolwg o rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a’n projectau presennol, gan gynnwys yr ap Geiriaduron, safoni termau i ysgolion,… Parhau i ddarllen Gwahoddiad i sesiwn Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr yn yr Eisteddfod
Hacio’r Iaith yn Steddfod Gen 2013 #steddfod2013
Pwy sy’n dod i Steddfod eleni? Mae Hacio’r Iaith ar y maes yn cynyddu bob blwyddyn. Cymuned agored o bobl proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith sydd yn trin a thrafod sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio gyda thechnoleg a pha fath o hwyl sydd yn bosib yn y maes/meysydd. Enw lleoliad Hacio’r Iaith… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith yn Steddfod Gen 2013 #steddfod2013
Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd
BBC heddiw yn dweud: BBC Cymru Wales yn cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu “Cymru Fyw” – gwasanaeth ar-lein newydd yn Gymraeg fydd yn gyfoes ac unigryw Mae BBC Cymru Wales heddiw wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd sylweddol yn eu gwasanaethau digidol ar-lein yn Gymraeg gyda chynlluniau i ddatblygu gwasanaeth newydd o’r enw Cymru Fyw. Bydd y gwasanaeth,… Parhau i ddarllen Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd
Cerdd Nid at Ddant Pawb..
“Be ti lan i Dai?” medd y robot yn y peiriant fel rhyw fath o atgof o “Ghost in the Machine” Jung-aidd via Sting yr 80au. Yr ateb byr byddai : “Colli fy nghyfrinair, myn uffach i”. Yr ateb hwy : >>> MA yn y Cyfryngau Creadigol Ymarferol yn Adran Astudiaethau Theatr Ffilm a Theledu… Parhau i ddarllen Cerdd Nid at Ddant Pawb..
Windows 8 ar dabled: Fel dy dad mewn clwb nos
Os buaswn yn gallu disgrifio Windows 8 ar cyfrifiadur tabled, dychmygwch dyn canol oed yn dawnsio mewn clwb nos. Er ceisiai ei orau, nid yw’n gallu dal fyny gyda rhai mwy ifancach ac ystwyth. Chyn bo hir, fe wneith niwed ei hyn a chael ei gario allan o’r clwb. Yn syml, Windows 8 yw eich… Parhau i ddarllen Windows 8 ar dabled: Fel dy dad mewn clwb nos
XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg
Mae XBMC yn feddalwedd canolfan amlgyfrwng a difyrrwch digidol(!). Mae ar gael ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux a nawr yn Gymraeg! 🙂 Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwylio rhaglenni oddi ar y we, lluniau personol a chasgliadau o gerddoriaeth. Mae’n feddalwedd perffaith ar gyfer creu peiriant sy’n ganolfan amlgyfrwng gan gynnal nifer… Parhau i ddarllen XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg
Haclediad #29: Yr Un Preifat
Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd… Parhau i ddarllen Haclediad #29: Yr Un Preifat
WordPress 3.6 RC1
Mae WordPress RC1 ar gael nawr ar wefan cy.wordpress.org gyfer ei brofi. Y disgwyl yw y bydd y fersiwn terfynol ar gael ymhen rhyw bythefnos. Mwynhewch 🙂 Gwybodaeth bellach gan WordPress Sylwadau ar yr addasiad Cymraeg i post@meddal.com, os gwelwch chi’n dda.
Ethan Zuckerman: Saesneg ac ieithoedd y we
Erthygl berthnasol gan yr ymchwilydd Ethan Zuckerman
Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg
Mae Kevin Donnelly wedi dadansoddi’r Cofnod er mwyn cyfrif pa ganran o sylwadau ac areithiau a anerchwyd yn Gymraeg. Y ganran yn y trydydd Cynulliad? Dim ond 9.9%. Mae rhagor o wybodaeth yn ei gofnod blog yn ogystal â’i gorpws a pheriant chwilio o’r enw Kynulliad3. Pam mae’r ganran mor isel? Oes gwleidydd Cymraeg o gwmpas sydd yn… Parhau i ddarllen Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg