Cysgliad am Ddim

Dyw hi ddim yn hawdd ysgrifennu Cymraeg cywir a dyna lle mae Cysgliad mor ddefnyddiol. Mae’r casgliad o raglenni – gwirydd sillafu, thesawrws a geiriadur ar gael am ddim ar gyfer defnyddwyr Windows.  Ar gyfer defnyddwyr ar offer symudol iOS, Android yn ogystal â chyfrifiaduron MacOS a Linux mae Cysill ar Lein ar gael i’w ddefnyddio am ddim ar y we.

Hefyd, yn fuan yn y Flwyddyn Newydd – Cysill fel ychwanegyn i Google Docs a Word Online. Mwy i ddod!

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel App