WorddPress 6.2 Newydd

WordPress

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu 0 wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wefan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau.

Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad:

Croeso i WordPress 6.2

Mae WordPress 6.2 yn cynnwys mwy na 292 gwelliant a 394 atgyweiriad i fygiau. Mae’r dudalen hon yn tynnu sylw at y nodweddion diweddaraf ers rhyddhau WordPress 6.1 ym mis Tachwedd 2022. O uchafbwyntiau cyflym i adnoddau datblygwyr, mae llawer i’w gweld.

Archwiliwch a golygwch eich gwefan o’r Golygydd Gwefan

Mae rhyngwyneb wedi’i ddiweddaru yn rhoi mwy o reolaeth i chi dros eich profiad golygu gwefan. Porwch trwy ragolygon llawn o’ch templedi a’ch rhannau templed, yna neidiwch i olygu eich gwefan o ble bynnag rydych chi’n dewis.

Rheolwch eich dewislen mewn mwy o ffyrdd gyda’r bloc Llywio

Mae profiad bar ochr newydd yn ei gwneud hi’n haws golygu llywio eich gwefan. Ychwanegu, dileu ac aildrefnu eitemau dewislen yn gyflymach – ni waeth pa mor gymhleth yw’ch dewislenni.

Darganfyddwch brofiad llyfnach i’r Mewnosodwr Bloc

Mae dyluniad wedi’i adnewyddu yn rhoi mwy o welededd a mynediad haws i’r cynnwys sydd ei angen arnoch chi. Defnyddiwch y tab Cyfryngau i lusgo a gollwng cynnwys o’ch Llyfrgell Cyfryngau presennol yn gyflym. Dewch o hyd i batrymau yn gyflymach gyda golygfa hollt sy’n eich galluogi i lywio categorïau a gweld rhagolygon i gyd ar unwaith.

Dewch o hyd i’r rheolyddion rydych chi eu heisiau pan fydd eu hangen arnoch chi

Mae bar ochr eich gosodiadau bloc wedi’i drefnu’n well gyda thabiau ar gyfer Gosodiadau ac Arddulliau. Felly mae’r offer sydd eu hangen arnoch yn hawdd i’w hadnabod a’u cyrchu.

Adeiladwch yn gyflymach gyda phenynnau a throedynnau ar gyfer themâu bloc

Darganfyddwch gasgliad newydd o batrymau pennyn a throedyn i ddewis ohonyn nhw. Defnyddiwch nhw gydag unrhyw thema bloc fel man cychwyn cyflym o ansawdd uchel ar gyfer templedi eich gwefan.

Archwiliwch gyfryngau Openverse o’r Golygydd

Mae llyfrgell Openverse yn catalogio dros 600 miliwn o ddelweddau stoc a sain sydd â thrwydded agored am ddim – a nawr mae wedi’i integreiddio’n uniongyrchol i’r Golygydd.

Canolbwyntiwch ar ysgrifennu gyda modd Dim Tarfu

Ar yr adegau hynny rydych chi eisiau bod ar eich pen eich hun gyda’ch syniadau. Gallwch nawr guddio’ch holl baneli a rheolyddion, gan eich gadael yn rhydd i ddod â’ch cynnwys yn fyw.

Profwch y Golygydd Gwefan, nawr allan o beta

Yn sefydlog ac yn barod i chi blymio i mewn ac archwilio: 6.2 yw eich gwahoddiad personol i ddarganfod beth all y genhedlaeth nesaf o themâu WordPress – a Bloc – ei wneud.

Llyfr Arddulliau

Defnyddiwch y Llyfr Arddull newydd i gael trosolwg cyflawn o sut mae pob bloc yn llyfrgell eich gwefan yn edrych. Y cyfan mewn un lle, i gyd ar olwg.

Copïo a gludo arddulliau

Perffeithiwch y dyluniad ar un math o floc, yna copïwch a gludwch yr arddulliau hynny i flociau eraill i gael dim ond y golwg rydych chi ei eisiau.

CSS Cyfaddas

Pwerwch eich gwefan unrhyw ffordd y dymunwch. Ychwanegwch CSS i’ch gwefan, neu’ch blociau, i gael lefel arall o reolaeth dros edrychiad a theimlad eich gwefan.

Lleoli gludiog

Dewiswch gadw blociau grŵp lefel uchaf wedi’u gosod ar frig tudalen wrth i ymwelwyr sgrolio.

Mewnforio teclynnau

Dewisiadau i fewnforio’ch hoff declynnau o themâu Clasurol i themâu Bloc.

Ffontiau lleol mewn themâu

Mae themâu WordPress rhagosodedig yn cynnig gwell preifatrwydd gyda Google Fonts nawr wedi’u cynnwys.


Dysgu rhagor am WordPress 6.2

Ewch i learn.wordpress.org am diwtorialau fideo, gweithdai ar-lein, cyrsiau a chynlluniau gwersi ar gyfer trefnwyr Meetups, gan gynnwys nodweddion newydd yn WordPress.

Edrychwch ar y fersiwn diweddaraf o’r WordPress Field Guide. Mae’n gyforiog o nodiadau datblygwr manwl i’ch helpu chi i adeiladu gyda WordPress.

Darllenwch Nodiadau Rhyddhau WordPress 6.2 i gael rhagor o wybodaeth am y gwelliannau a’r materion a drwsiwyd, manylion gosod, nodiadau ac adnoddau datblygwr, rhyddhau cyfranwyr, a’r rhestr o newidiadau ffeil yn y datganiad hwn.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel App