Cais am gymwynas! Oes gyda chi farn ar y gefnogaeth ddigidol i gymunedau ieithyddol yn Ewrop, a’r Gymraeg yn benodol? Mae project Cydraddoldeb Ieithyddol Ewrop yn gofyn i chi gyfrannu at eu holiadur byr. Holiadur: https://european-language-equality.eu/language-surveys/ Diolch!
Categori: Amrywiol
WordPress 5.9 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: WordPress 5.9 Adeiladwch y wefan rydych chi wedi bod eisiau ei chael erioed –… Parhau i ddarllen WordPress 5.9 Newydd
LibreOffice 7.2 Newydd
LibreOffice 7.2 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion… Beth sydd i’w weld Yn LibreOffice 7.2, mae ffenestr llamlen newydd o dan y ddewislen Cymorth… Parhau i ddarllen LibreOffice 7.2 Newydd
WordPress 5.8 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd blociau a phatrymau gwefannau. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad: Tri Phwerdy Hanfodol Rheoli Teclynnau gyda Blociau Ar ôl misoedd o waith caled, mae grym blociau wedi dod i’r… Parhau i ddarllen WordPress 5.8 Newydd
WordPress 5.7 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y golygydd a lliwiau newydd i’r rhyngwyeb. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y chwith ar eich… Parhau i ddarllen WordPress 5.7 Newydd
Newid thema Hacio’r Iaith
Dw i wedi newid y thema y wefan am y tro achos oedd yr hen thema (P2 + newidiadau) yn achosi gwallau ar WordPress a PHP8.
Yr ap Profi ac Olrhain ar gael yn Gymraeg i bawb!
Mae’r ap Profi ac Olrhain Covid-19 y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, nawr ar gael yn Gymraeg. Yn y fersiynau blaenorol, roedd ar gael ar sail iaith system y ffôn neu ddewis iaith yn y fersiynau diweddaraf o’r iPhone ac Android. Roedd modd i mi ei osod yn Gymraeg yn ddiweddar ar ffôn yn rhedeg fersiwn Cymraeg… Parhau i ddarllen Yr ap Profi ac Olrhain ar gael yn Gymraeg i bawb!
Fideo Gwrando ar leisiau ar Common Voice Cymraeg
Mae dilysu’r clipiau yn hanfodol i gael y dechnoleg i weithio ar ei orau. Dyma fideo’n dangos sut i gyfrannu tuag at wrando a dilysu clipiau llais Common Voice Cymraeg. Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu, ffrindiau a chydweithwyr. Diolch! #DefnyddiaDyLais
Fideo Recordio Llais i Common Voice Cymraeg
Mae angen llawer iawn o bobl gyfrannu eu lleisiau i Common Voice Cymraeg a dyma gyflwyniad fideo ar sut mae gwneud. Oes, mae angen *LLAWER IAWN IAWN* o ddata. 🙂 Mae croeso i chi rannu’r fideo yma gyda theulu ffrindiau a chydweithwyr. Diolch! #DefnyddiaDyLais
Ymgyrch #DefnyddiaDyLais Common Voice Cymraeg
Mae staff mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ymuno mewn her fawr dros y ‘Dolig i gyfrannu 50 awr o leisiau at Common Voice Cymraeg, sy’n datblygu’r Gymraeg ym maes technoleg clyfar. Bydd staff ac aelodau yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Nant Gwrtheyrn, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin,… Parhau i ddarllen Ymgyrch #DefnyddiaDyLais Common Voice Cymraeg