Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wegan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau.
Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.
Dyma’r cyflwyniad:
WordPress 5.9
Mae Golygu Gwefan Gyfan ar gael
Chi sy’n rheoli eich gwefan gyfan, o fewn Gweinyddiaeth WordPress
Dywedwch helo wrth Twenty Twenty‑Two
A dywedwch helo wrth y thema bloc rhagosodedig cyntaf yn hanes WordPress. Mae hyn yn fwy na dim ond thema rhagosodedig newydd. Mae’n ffordd newydd sbon o weithio gyda themâu WordPress.
Mae themâu bloc yn rhoi ystod eang o ddewisiadau gweledol yn eich dwylo, o gynlluniau lliw a chyfuniadau ffurfdeip i dempledi tudalennau a hidlwyr delwedd – i gyd gyda’i gilydd, yn y rhyngwyneb golygu gwefan. Trwy wneud newidiadau mewn un lle, gallwch chi roi’r un edrychiad a theimlad i’ch Twenty Twenty‑Two â’ch brand neu wefannau eraill – neu fynd â golwg eich gwefan i gyfeiriad arall.
Mae’r thema Twenty Twenty‑Two eisoes ar gael i chi. Daeth wedi’i osod gyda WordPress 5.9, a byddwch yn dod o hyd iddo gyda’ch themâu gosodedig eraill .
Mae eich blwch paent personol yn disgwyl amdanoch
Mae rhagor o themâu bloc a adeiladwyd ar gyfer nodweddion golygu gwefan gyfan yn y Cyfeiriadur Thema ochr yn ochr â’r thema Twenty Twenty‑Two, sy’n aros i chi eu harchwilio. Mae rhagor i ddod!
Pan fyddwch yn defnyddio unrhyw un o’r themâu newydd hynny, nid oes angen y Cyfaddaswr arnoch mwyach. Yn lle hynny, mae gennych holl bŵer y rhyngwyneb Arddulliau o fewn y Golygydd Gwefan. Yn union fel yn Twenty Twenty‑Two, chi sy’n adeiladu golwg a theimlad eich gwefan, gyda’r offer angenrheidiol mewn rhyngwyneb hyblyg sy’n dod yn fyw yn eich dwylo.
Y bloc Llywio
Mae blociau nawr yn rhan o lywio gwefan, calon profiad y defnyddiwr.
Mae’r bloc Llywio newydd yn rhoi’r pŵer i chi ddewis: dewislen ymatebol gyson neu un sy’n addasu i faint sgrin eich defnyddiwr. Beth bynnag rydych chi’n ei greu, rydych yn gwybod ei fod yno i’w ailddefnyddio ble bynnag yr ydych chi’n dymuno, p’un ai mewn templed newydd sbon neu ar ôl newid themâu.
Rhagor o welliannau a diweddariadau
Ydych chi wrth eich bodd yn blogio neu’n cynhyrchu cynnwys? Mae mân newidiadau newydd i’r llif cyhoeddi yn eich helpu i ddweud mwy, yn gyflymach.
Gwell rheolaeth ar flociau
Mae WordPress 5.9 yn cynnwys offer teipograffeg newydd, rheolyddion cynllun hyblyg, a rheolaeth well dros fanylion fel bylchau, ffiniau, a mwy – i’ch helpu chi i gael nid yn unig yr edrychiad, ond y sglein sy’n dangos eich bod chi’n poeni am fanylion.
Grym patrymau
Mae Cyfeiriadur Patrymau WordPress yn gartref i ystod eang o batrymau bloc a adeiladwyd i arbed amser i chi ac i ychwanegu ymarferoldeb gwefan craidd. Hefyd, gallwch eu golygu yn ôl eich anghenion. Angen rhywbeth gwahanol yn y pennyn neu’r troedyn ar gyfer eich thema? Cyfnewidiwch ef ag un newydd mewn ychydig o gliciau.
Gyda golwg sgrin lawn bron yn gyflawn, sy’n eich tynnu chi i mewn i weld manylion cain, mae’r Archwiliwr Patrymau yn ei gwneud hi’n hawdd cymharu patrymau a dewis yr un y bydd eich defnyddwyr yn ei ddisgwyl.
Golwg Rhestr wedi’i hailwampio
Yn 5.9, mae’r Golwg Rhestr yn gadael i chi lusgo a gollwng eich cynnwys yn union le rydych chi ei eisiau. Mae rheoli dogfennau cymhleth yn haws hefyd: mae rheolaethau syml yn caniatáu ichi ehangu a chau adrannau wrth i chi adeiladu’ch gwefan – ac ychwanegu angorau HTML i’ch blociau i helpu defnyddwyr i fynd o amgylch y dudalen.
Bloc Oriel gwell
Gallwch drin pob delwedd mewn bloc Oriel yr un ffordd ag y byddech chi’n ei drin yn y bloc Delweddau.
Gallwch creu arddull i pob delwedd yn eich oriel, un gwahanol i’w gilydd (gyda thocio gwahanol neu ddeuliwio, er enghraifft) neu eu gwneud i gyd yr un peth. A newid y cynllun gyda llusgo a gollwng.
WordPress 5.9 i ddatblygwyr
Yn cyflwyno themâu bloc
Ffordd newydd o adeiladu themâu: Mae themâu bloc yn defnyddio blociau i ddiffinio’r templedi sy’n strwythuro’ch gwefan gyfan. Mae’r templedi a’r rhannau templed newydd wedi’u diffinio yn HTML ac yn defnyddio’r arddull cyfaddas sy’n cael ei gynnig yn theme.json. Mae mwy o wybodaeth ar gael yn y nodyn themâu bloc .
Taflenni arddull lluosog ar gyfer blociau
Nawr gallwch gofrestru mwy nag un ddalen arddull fesul bloc. Gallwch eu defnyddio i rannu arddulliau ar draws blociau rydych chi’n eu hysgrifennu, neu i lwytho arddulliau ar gyfer blociau unigol, felly dim ond pan fydd y bloc yn cael ei ddefnyddio y caiff eich arddulliau eu llwytho. Darllenwch ragor am ddefnyddio taflenni arddull lluosog mewn blociau.
Cloi blociau
Nawr gallwch gloi unrhyw floc (neu ychydig ohonyn nhw) mewn patrwm, dim ond trwy ychwanegu priodoledd clo i’w osodiadau yn block.json – gan adael gweddill y patrwm yn rhydd i olygyddion gwefan eu haddasu i’w cynnwys.
Bloc Oriel wedi’i ail ddychmygu
Mae’r newidiadau i floc yr Oriel sy’n cael ei restru uchod yn ganlyniad i’w ail lunio bron yn llwyr. Ydych chi wedi adeiladu ategyn neu thema ar swyddogaethau bloc yr Oriel? Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen nodyn cydnawsedd bloc yr Oriel.
Dysgwch ragor am y nodweddion newydd yn 5.9
Am gychwyn arni gyda 5.9 ond ddim yn gwybod ble i ddechrau? Ewch i learn.wordpress.orgam yr adnoddau cynyddol ar nodweddion newydd WordPress 5.9.
Darllenwch y Field Guide am ragor o wybodaeth!
Darllenwch y fersiwn ddiweddaraf o’r WordPress Field Guide. Mae’n amlygu’r nodiadau datblygwr ar gyfer pob newid y byddwch angen bod yn ymwybodol ohonyn nhw. WordPress 5.9 Field Guide.