Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Gyda Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, dan ofal Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor ar 14 Tachwedd 2020, dyma restr o rai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith all helpu i roi syniadau ichi o haciau Cymraeg gallwch chi ddatblygu. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu adnoddau technoleg iaith a seilwaith ieithyddol… Parhau i ddarllen Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

NODYN CALENDR: Hacio’r Iaith *27 Ionawr 2018*

Dalier sylw!  Ar wahoddiad S4C bydd Hacio’r Iaith 2018 yn cael ei gynnal yn Tramshed Tech, Stryd Pendyris, Grangetown, Caerdydd. Felly rhowch ddydd Sadwrn y 27 Ionawr yn eich dyddiaduron, bwciwch lety / ffoniwch ffrind sydd efo soffa a dechreuwch feddwl am rywbeth i’w gyflwyno / rhannu / esbonio / rhoi demo ohono ar y… Parhau i ddarllen NODYN CALENDR: Hacio’r Iaith *27 Ionawr 2018*

Haclediad 61: Social Justice Warriars

Mae’r hydref yma, mae’n amser prynu shares mewn carthenni a pumpkin lattes… a cwtsho lan gyda’r Haclediad am awr fach. Heno ar y sioe bydd Bryn, Sions a Iestyn yn trafod swigen confirmation bias Cymraeg, sut i ymladd carnage carnifal, ac yn recordio’r holl beth cyn cyhoeddiadau Apple am yr iPhone X ac 8, soz.… Parhau i ddarllen Haclediad 61: Social Justice Warriars

55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017

Unwaith y flwyddyn mae nerds tech-ieithyddol Cymru yn cwrdd fyny mewn digwyddiad brawychus fel the Purge… Ond yn lwcus iawn nid dyna oedd Hacio’r Iaith 2017, mae’r purge wythnos nesa. Ymunwch â Sions, Bryn a Iestyn yn fyw ar leoliad o riviera trofannol Bangor! Ffansi gadael i ni wybod os chi’n joio? Gadewch review i… Parhau i ddarllen 55: Nerdageddon yn Hacio’r Iaith 2017

Haclediad 50 – Canol Oed

Croeso i bennod restrospectif (a hyd yn oed mwy random nac arfer) arbennig o’r Haclediad yn dathlu cyhoeddi ein hanner canfed podlediad. Bydd Bryn, Sioned ac Iestyn yn mynd a chi nôl trwy’r archif, ond yn trafod stwff heddiw hefyd fel bwtler Google, Android pay a minimaliaeth. Diolch enfawr i chi gyd am wrando dros… Parhau i ddarllen Haclediad 50 – Canol Oed

Haclediad 49: Haciaith 2016

Mentrodd 66% o griw’r Haclediad i ddigwyddiad byw Hacio’r Iaith 2016 yng Nghaerdydd – ar cyfan gewch chi di’r podlediad ma! Buodd Bryn a Sioned yn cyfweld creawdwyr Macsen, llais AI cynta’ Gymraeg, yn ogystal â bwyta llawer gormod o Jelly Babies…

Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin!

Haclediad newydd i’ch clustiau mewn llai na 6 mis? Be sydd, yn wir, haru ni? Tro yma bydd Iestyn, Bryn a Sioned yn trafod iPhones newydd (dyna sioc), Apple yn 40, rhwydwaith cymdeithasol kawaii ru hwnt newydd Nintendo, pa hawl sgen yr FBI i’ch gwybodaeth chi a cheir widawiw Tesla. Hyn oll a mwy yn… Parhau i ddarllen Haclediad 48: OMB Haclediad arall syth bin!

Haclediad 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd

Croeso i Sioe ho-ho-hollol Nadoligaidd yr Haclediad – tro yma byddwn yn taflu’r sgript mas trwy’r ffenest ac yn holi’n daer ar Siôn Corn am anrhegion tech sgleiniog, pethau newydd i’w chwarae â nhw, a heddwch ar ddaear lawr (yn amgz). Felly dowch, tiwniwch mewn a byddwch lawen, mae Bryn, Iestyn a Sions yn dymuno… Parhau i ddarllen Haclediad 46: Ho-Ho-Hollol Nadoligaidd

Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn

Ydy, mae hi wedi bod yn rhy hir, mae’r Haclediad yma wedi hiatus hafaidd hir. Wedi damwain Bionic Bryn, mae’r criw nôl yn dod â’r diweddaraf o fyd tech i’ch clustiau, gyda’r gymysgedd arferol o fwydro a chabinet diodydd llawn. Tro ’ma bydd popeth o deganau sgleiniog newydd Apple i sinema 3D a cheir clyfar… Parhau i ddarllen Haclediad 44 – Premiere Tymor 3: Dychwelyd i’r byd a Bionic Bryn