Haclediad #29: Yr Un Preifat

Y tro yma ar yr Haclediad, yn ogystal â thrafod pa cocktail yn union mae Iestyn wedi paratoi, a pha ‘vintage’ o chwisgi sy’ gan Bryn; byddwn ni’n edrych ar sefyllfa band eang Cymru, cymryd cipolwg ar wythnos ddigidol Caerdydd a holi beth yn union mae chwibanu Edward Snowden yn golygu i ni. Mae hefyd llawer, llawer mwy i’ch clustiau chi fwynhau ar y traeth/Costa del Ardd Gefn yn Haclediad 29!