XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg

xbmclogo1

Mae XBMC yn feddalwedd canolfan amlgyfrwng a difyrrwch digidol(!). Mae ar gael ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux a nawr yn Gymraeg! 🙂

Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwylio rhaglenni oddi ar y we, lluniau personol a chasgliadau o gerddoriaeth.  Mae’n feddalwedd perffaith ar gyfer creu peiriant sy’n ganolfan amlgyfrwng gan gynnal nifer helaeth o reolyddion pell a rhyngwyneb trawiadol o hardd. Mae yna ddegau o ategion ar gael ar ei gyfer sy’n estyn ei allu yn sylweddol. Mae’n ddelfrydol ar gyfer y theatr cartref. Mae fersiynau ar gael ar gyfer y Raspberry Pi sy’n caniatáu i chi greu cyfrifiadur amlgyfrwng bychan a rhesymol iawn ei bris.

Mae’n gallu chwarae ystod eang o fformatau ffeiliau sain a fideo ac yn gallu ffrydio amlgyfrwng o fewn rhwydweithiau. Gall chwarae CD a DVD. Mae gallu cynhyrchu rhestrau ar gyfer darparu llyfrgelloedd o ddeunydd gan ddangos cloriau, disgrifiadau a chelf selogion. Mae yna swyddogaethau rhestrau chwarae a sioeau sleid, y tywydd a rhithwelediadau sain.

Mae yna ddegau o ategion sy’n estyn gallu’r ganolfan yn bennaf yr ategion sy’n darparu gwasanaethau teledu iPlayer BBC, ITV, Sianel 4 a 5 Lloegr. Mae ategyn hefyd ar gael ar deledu Iwerddon a sianeli ar draws Ewrop a’r byd… Nid yw’n darparu cefnogaeth ar gyfer gwefannau masnachol sy’n gofyn am ddiogelu cyfrwng. Byddai’n dda cael ategyn S4C ar ei gyfer. Unrhyw gynigion?

Mae’r rhaglen ar gael o wefan xbmc.org ac mae’r rhyngwyneb Cymraeg ar gael yn yr adran Appearance>International.

7 sylw

  1. I’r rhai sy’n defnyddio ac yn hoffi chwaraewr VLC, mae hwnnw hefyd nawr ar gael yn Gymraeg – ar Windows, Mac ac Android. Caiff ei ryddhau yn y fersiynau safonol nesaf, ond mae’r cyfieithiadau ar gael yn y “nightlies” o yma: http://nightlies.videolan.org

    Gwerthfawrocaf unrhyw adborth er mwyn gwneud newidiadau cyn iddynt gael eu rhyddhau yn ffurfiol.

  2. Dwi’n ei ddefnyddio i wylio rhaglenni o America, ond doeddwn i ddim yn ymwybodol bod na ategyn RTE – oes na linc plis? Hoffwn ei ddefnyddio i wylio GAA 🙂

  3. Dw i newydd sylwi fod yr acronym wedi’i gymysgu yn y teitl ac felly hefyd yn URL y cofnod. Buasai ei cywiro yn gwneud y cofnod ‘ma yn fwy debygol o ymddangos mewn canlyniadau chwilio’r we, dw i’n credu.

Mae'r sylwadau wedi cau.