Hacio’r Iaith yn Steddfod Gen 2013 #steddfod2013

hacior-iaith-maes-eisteddfod-dinbych2013-640

haclediad-2012-llinos-lanini-640

Pwy sy’n dod i Steddfod eleni?

Mae Hacio’r Iaith ar y maes yn cynyddu bob blwyddyn. Cymuned agored o bobl proffesiynol ac amatur yw Hacio’r Iaith sydd yn trin a thrafod sut mae’r iaith yn cael ei ddefnyddio gyda thechnoleg a pha fath o hwyl sydd yn bosib yn y maes/meysydd.

Enw lleoliad Hacio’r Iaith eleni ar y maes fydd rhywle o’r enw ‘M@es’ (map o’r maes ar y ffordd). Bydd yr hwyl yn dechrau pob dydd o 2YH ymlaen gan gynnwys sesiynau ymarferol, trafodaethau/dadleuon, cyflwyniadau a gweithdai.

Sut allwn i helpu?

Mae Aled Powell a finnau yn wirfoddoli i gydlynu’r peth ond rydym ni’n dibynnu arnoch chi yn llwyr i redeg sesiynau diddorol, addysgol, hwyl, profoclyd. Yn enwedig:

  • Mae llwyth o slotiau ar gyfer sesiynau byrion o 10 munud hefyd, hyd yn oed os ydych chi eisiau siarad am flog personol a’r pethau rydych chi wedi dysgu ayyb. Neu hyd yn oed gwefan rydych chi’n caru.
  • Rydym ni’n chwilio am bobl i gymryd cyfrifoldeb dros sesiwn yn enwedig sesiynau ymarferol neu ‘gyflwyniadau’. Rydym ni’n awyddus i gael mewnbwn mor eang â phosib yn enwedig os ydych chi’n ymddiddori yn y defnydd o’r we/digidol yn Gymraeg mewn maes penodol (theatr, llenyddiaeth, ymgyrchu, newyddion lleol, …).
  • Os ydych chi’n methu meddwl am rywbeth penodol, dewch i’r lle a dwedwch helo wrth rhywun! A chymerwch rhan rhywsut! Mae croeso cynnes i bawb.
  • Celf. Mae bwriad i roi posteri ac ‘arddangosfa’ ar y waliau. Dw i’n credu bydd lle i fwy o stwff gweledol os oes syniadau?

Ewch i’r amserlen drafft ar wici Hedyn. Mae modd golygu’r dudalen os oes gyda chi syniad/unrhyw beth i’w ychwanegu.

Os ydych chi’n styc gyda’r wici o gwbl, gadewch sylw isod.

Erbyn hyn mae lot mwy o sefydliadau yn cynnal digwyddiadau am dechnoleg a’r Gymraeg ar y maes. Felly rydym ni’n gallu rhoi pwyslais ar bethau HWYL, doniol, arbrofol a DIY yn Hacio’r Iaith yn hytrach na pholisi, strategaethau di-ri a’r math yna o agenda sydd ar gael yn llefydd eraill. Does dim rheolau yma ond dw i’n siŵr eich bod chi’n gwybod beth dw i’n meddwl. Mae croeso mawr i swyddogion, gweinidogion, ayyb wrth gwrs ond byddwch yn barod i wisgo het wahanol! 🙂

Gyda llaw bob bore cyn sesiynau Hacio’r Iaith bydd ‘syrjeris’ yn yr un lle gyda Chymunedau 2.0 pan fydd unrhywun (UNRHYWUN) yn gallu galw heibio a gofyn am wers am ddim: fideo ar-lein, WordPress, Twitter, sgiliau cyfrifiadurol ac ati. Dewch gyda rhywun o’ch teulu.

Llun o Haclediad 2012 gan Llinos Lanini, llun o Eleri gan Carl

3 sylw

  1. Dw i wedi ychwanegu map gliciadwy o’r maes i’r cofnod blog.

    “Jyst ar ôl y fynedfa, gyferbyn â Threlars Ifor Williams”.

  2. Mae mwy o bethau wedi cael eu cadarnhau ar yr amserlen gan gynnwys

    • sesiwn am Wicipedia a chynnwys agored ar ddydd Mercher
    • a chyflwyniad am ap e-ddarllenydd ar ddydd Mercher

    Ond mae ‘na ambell i slot gwag os ydych chi eisiau cael trafodaeth, gweithdy, cyflwyniad neu sesiwn o ryw fath.

Mae'r sylwadau wedi cau.