Signal Desktop Cymraeg

Mae Signal Desktop nawr ar gael yn Gymraeg. Mae modd gosod y rhaglen bwrdd gwaith ar gyfer Windows, MacOS a Linux – Debian o wefan Signal.

Beth yw Signal? Rhaglen negesu a fideo gysylltu wedi ei amgryptio yw Signal. Mae’n bosib cyfathrebu gydag unigolion neu grwpiau, drwy destun neu fideo. Mae ganddo lefelau diogelwch uwch, a gan nad yw’n fenter fasnachol nid yw’n ceisio gwerthu eich manylion personol.

Mae’r ap poblogaidd hwn wedi bod ar gael ar gyfer Android ac iOS ers talwm yn Gymraeg ond mae Signal newydd estyn eu darpariaeth ar gyfer y fersiwn Bwrdd gwaith  i amryw o ieithoedd ychwanegol.

Mae’r fersiwn bwrdd gwaith yn dibynnu ar eich bod eisoes â chofrestriad ar Signal drwy eich ffôn symudol.

Os am ddefnyddio’r cyfieithiad Cymraeg rhaid fod y Gymraeg wedi ei nodi fel eich prif iaith ar eich cyfrifiadur Windows neu Apple Mac. Mae gan gyfrifiaduron Linux ddulliau amrywiol ond hawdd o osod y Gymraeg yn brif iaith, drwy’r Gosodiadau.