Tagiwyd fel: gwleidyddiaeth Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 7:30 AM ar 8 July 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , gwleidyddiaeth   

    Data: 9.9% o areithiau yn y Cynulliad yn Gymraeg 

    Mae Kevin Donnelly wedi dadansoddi’r Cofnod er mwyn cyfrif pa ganran o sylwadau ac areithiau a anerchwyd yn Gymraeg. Y ganran yn y trydydd Cynulliad? Dim ond 9.9%.

    Mae rhagor o wybodaeth yn ei gofnod blog yn ogystal â’i gorpws a pheriant chwilio o’r enw Kynulliad3.

    Pam mae’r ganran mor isel? Oes gwleidydd Cymraeg o gwmpas sydd yn fodlon esbonio – gan gynnwys y Gweinidog newydd dros y Gymraeg efallai? Ydy’r aelodau sy’n medru’r Gymraeg yn rhy awyddus i weld eu clipiau byrion yn Saesneg ar Wales Today gyda’r nos? Gofynnwch eich Aelod Cynulliad efallai.

     
    • donnek 10:55 AM ar 28 Awst 2013 Dolen Barhaol

      ‘Mond yn y gyd-destun o faint o aelodau sy’n siarad Gymraeg (ac, mwy bwysig, faint sy’n teimlo’n gyfforddus yn yr iaith) y gallen ni ddadansoddi’r ffigur, cofiwch. Os bydd aelodau rhugl yn y Gymraeg yn dewis siarad yn Saesneg, bydd hynny’n broblem go iawn. Gobeithio wneud yr un peth ryw dro am Kynulliad2 a’r presennol Kynulliad4, ac wedyn bydd ffigyrau cymharol ar gael ….

  • Carl Morris 8:29 AM ar 11 January 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: Carwyn Jones, , gwleidyddiaeth   

    Carwyn Jones: cwestiwn dyddiol ar Facebook 

    Os wyt ti’n aelod o Facebook mae Carwyn Jones eisiau bod yn ffrindiau gyda ti:
    https://www.facebook.com/carwyn.jones3

    Mae fe’n gofyn cwestiwn bob dydd, dyma’r cwestiwn heddiw:

    Syniad da, dw i ddim yn gwybod unrhyw Prif Weinidog yn y byd sydd wedi dechrau rhywbeth mor uniongyrchol ar-lein.

    Ond tybed beth fydd yn digwydd pan fydd e’n cyrraedd 5000 o ffrindiau achos dyma’r terfyn ar broffil personol. Efallai dylai fe wedi cael mwy o strategaeth gan gynnwys tudalen yn hytrach na phroffil.

    Hefyd dw i’n cwestiynu’r diffyg defnydd o Gymraeg. Dyw’r tudalen yma ddim yn broffil ‘personol’ achos mae fe’n derbyn ceisiadau ffrind wrth unrhyw un. Mae rhywbeth swyddogol am y tudalen ond mae bron pob cwestiwn yn Saesneg yn unig heblaw y cwestiwn am y Gymraeg…

    DIWEDDARIAD 10AM: Dw i newydd sylwi’r isod mewn sgwrs am y diffyg Cymraeg:

    Cofiwch pawb taw tudalen bersonol yw hon, nid un swyddogol ar ran y Llywodraeth

     
    • Rhys Wynne 9:04 AM ar 11 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Fallai mai nid proffil swyddogol ydy o, ond falle rhyw fath o spoof. Mae yna ambell wall iaith yn yr uchod, fel “cael rhieni” ac “yn ardaloedd”, ac o glywed y boi’n siarad ar y teledu, dw i ddim yn credu byddai’n dweud hynny.

    • Carl Morris 10:18 AM ar 11 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Dw i’n gallu dychmygu’r penawdau nawr: Blogiwr Amlwg yn Galw’r Prif Weinidog ‘rhyw fath o spoof’.

      #ffrae

    • Rhys Wynne 10:38 AM ar 11 Ionawr 2012 Dolen Barhaol

      Ti newydd ddadorchuddio plot gan Alwn ap Huw a minnau i ddweud pethau ‘dadleuol’ jyst er mwyn denu darllenwyr i flogiau Cymraeg. 🙁

  • Carl Morris 3:32 PM ar 18 July 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , cenedl, gwleidyddiaeth   

    Blogio, cenedl a chyfranogiad – papur gan Hansard Society 

    When it comes to more active online political participation, such as writing blog posts or commenting on blogs, the figures are usually male dominated. However, this mirrors other offline and non-political activities such as the gender of those who write letters to newspapers for publication. Overall the evidence for online politics suggests that the more an activity involves self-promotion, expounding your views to others or the risk of conflict then the more likely there is to be a male dominance.

    http://www.hansardsociety.org.uk/blogs/press_releases/archive/2011/07/07/why-are-political-blogs-dominated-by-men.aspx

     
  • Carl Morris 11:20 AM ar 7 July 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Google Analytics, gwleidyddiaeth,   

    Angen help gyda phrawf (Aled Roberts AM, Comisiwn Etholiadol a’r ‘dim hits’) 

    Mae hanes gwahardd Aled Roberts o’r Cynulliad wedi cymryd tro arall wrth i dystiolaeth ddod i’r amlwg sy’n awgrymu nad oedd wedi edrych ar ganllawiau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol wedi’r cwbl.

    Heno daeth i’r amlwg fod cofnodion ar-lein y Comisiwn Etholiadol yn awgrymu nad oedd unrhyw un wedi cael mynediad i’r dudalen Gymraeg sydd wrth wraidd y ddadl yn ystod y cyfnod perthnasol.

    http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/43094-aled-roberts-tro-yn-y-gynffon

    Diolch i bawb am y sgwrs ar Twitter ar ôl CF99 neithiwr. (Dylai Betsan Powys ymuno!)

    Cwestiwn yw, sut wnaethon nhw edrych at yr ystadegau i ffeindio’r canlyniad ‘dim hits’?

    HELP!

    Dw i wedi lanlwytho 2 PDF i fod yn sicr am ein theori Google Translate. Cer i PDF 1 a PDF 2. Gwnaf i gyhoeddi’r ystadegau cyn hir.

    Plîs cer i PDF 1

    Plîs cer i PDF 2

    Rydyn ni angen ateb go iawn i’r cwestiwn uchod ond dw i eisiau profi Google Translate beth bynnag.

    ESBONIAD

    Nes i sylwi 2 peth neithiwr:

    1. Fel arfer gofynion y Comisiwn yw ffeiliau PDF (Adobe)
    (a ffurflenni yw ffeiliau DOC (Microsoft Word))
    Enghraifft

    2. Os ti’n edrych at y cod (View Source) maen nhw yn rhedeg Google Analytics, sy’n cynnig ystadegau ar sail sgript JavaScript. Dyw Google Analytics ddim yn rhedeg mewn PDF (neu DOC), dim ond mewn tudalennau HTML. Os ti’n dilyn dolen syth i’r PDF dylai fe osgoi unrhyw JavaScript. Ond os ti’n dilyn dolen o’r tudalen HTML i PDF efallai mae’n rhedeg y sgript.

    Fel y dwedodd Dafydd neithiwr yn hytrach na Google Analytics dylen nhw edrych at y logiau ar y gweinydd i fod yn sicr. Sut yn union wnaethon nhw edrych at yr ystadegau?

     
    • Carl Morris 11:35 AM ar 7 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Mae fy ffrind hyfryd newydd ymweld y dau gyda chyfrifiadur arall. Does dim byd ar yr ystadegau Google Translate…

    • Rhys 11:49 AM ar 7 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Wedi cesio ymweld, ond tydy fy mhorowr gwaith ddim yn hoffi PDF’s felly falle ni ddangosir fi oherwydd hynny.

      Mae sylw pwysig ar Golwg360.com gan y Com Ethol hefyd:

      Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol ar y rhaglen nad oedd eu hystadegau nhw yn awgrymu “nad oes yr un person wedi edrych ar y ddogfen. Mae’n bosib bod rhywun wedi edrych arno a fod hynny ddim wedi cofrestru.”

    • Dafydd Tomos 12:37 PM ar 7 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Mae yna lawer iawn o esboniadau am pan nad oes ceisiadau a dwi ddim yn meddwl mai JavaScript neu Google Analytics yw’r ateb, am fod y Comisiwn yn dweud fod 173 cais ar gyfer y ddogfen saesneg (sydd i’w weld yn uchel iawn i fi). Mae Vaughan Roderick yn dweud efallai fod awdurdodau lleol yn debygol o blocio JavaScript ond dyw hynny ddim yn arferol chwaith. Mae cyfrifiaduron ar rwydwaith awdurdod lleol neu lyfrgelloedd yn fwy tebygol o ddefnyddio ‘whitelist’ o wefannau i’w caniatau tra’n gwrthod y lleill.

      Mae llawer yn dibynnu yn union ar pa dudalen yr aeth Aled iddo. Os aeth e i dudalen HTML ar wefan y Comisiwn ac yna clicio’r PDF mi fyddai o leia un cais wedi gofnodi yn Google Analytics (os nad oedd problem yn llwytho sgript Analytics am unrhyw reswm). Os oedd e wedi dilyn dolen i’r PDF yn uniongyrchol, dim ond yn log y gweinydd fase hynny wedi cofnodi.

      (Os oes yna logs wrth gwrs, mi fasech chi’n synnu cyn lleied mae rhai gweinyddwr systemau yn talu sylw i osod a archifo logs yn gywir, er mai dyma y wybodaeth fwya trylwyr a dibynnadwy sydd i gael ar unrhyw wefan).

      Mae yna bosibiliadau eraill. Er enghraifft mae gan wefan y Comisiwn weinydd ‘cache’ wedi ei osod o’i flaen (mae’n rhedeg Squid). Pwrpas hwn yw lleihau y nifer o geisiadau i’r gweinydd go iawn ac osgoi gorlwytho y gweinydd. Ydi’r comisiwn yn defnyddio logs o’r gweinydd tu ôl y llenni neu o’r cache?

      Yn ola, dyw’r Comisiwn ddim yn dweud pa gyfnod mae’r ystadegau yn cyfeirio ato (diwrnod? wythnos?) ond mae’n eitha anhebygol fod dim un cais o gwbl wedi bod i’r PDF. Heblaw am gais gan ‘berson go iawn’ mi fyddai nifer o bots wedi ymweld a’r dogfennau.

      Dwi’n cynnal gwefan sydd a llawer iawn o ddogfennau PDF ar gael i’r cyhoedd. Mae yna lawer iawn o bots gwahanol yn crafu’r dogfennau hynny bob dydd, ac yn gyfrifol am tua 0.1% o’r traffig. Mae’r ystadegau yma yn dod o’r logs a ddim yn dibynnu ar unrhyw god JS.

    • Anne Baik 1:59 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Mae’r trafodaeth yma yn ddiddorol iawn iawn i mi, ond beth dydw i ddim yn deall yw pan nad yw Aled Roberts yn rhoi prawf o beth mae’n honi trwy ddangos ei hanes arlein ar y 24/3/11, sydd pryd mae’n dweud ei fod e wedi ymweld â gwefan Gymraeg y Comision Etholiadol? A pham nad oedd yr heddlu yn edrych ar hard drive ei gyfrifiaduron pan oedden nhw’n ymchwilio’r mater? Hyd yn oed os mae wedi cael gwared ar hanes ei ymweliadau mae’r hanes yn dal ar y hard drive, on’d yw e?

    • Dafydd Tomos 8:46 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Dyw’r ffaith fod technoleg yn gwneud hi’n bosib i olrhain pob math o bethau ddim yn golygu fod rhaid gwneud bob tro. Mewn achosion o drosedd difrifol lle mae unigolyn wedi niweidio rhywun arall, yn amlwg dylid defnyddio technoleg i drio fynd at y gwir, gan gofio nad yw hynny yn golygu fod rhywbeth yn 100% sicr.

      Yng nghyd-destun yr archwiliad penodol yma dwi’n anghyffyrddus gyda’r syniad yma o wneud archwiliad cyfrifiadurol fforensig yn unig er mwyn profi os oedd rhywun wedi edrych ar wefan neu beidio!

      Dychmygwch ein bod ni mewn oes cyn cyfrifiaduron a bod y Comisiwn Etholiadol wedi darparu dogfen Gymraeg a Saesneg iddo ar bapur – sut allech chi brofi ei fod wedi darllen y naill neu’r llall? Fe fasech chi’n dibynnu ar gymeriad ac enw da y diffynydd a fase dim angen meddwl am wario arian mawr ar unrhyw ddadansoddiad technegol.

      Fe dderbyniodd Aled Roberts ebost gyda’r ddolen i’r canllawiau yn Gymraeg yn gyntaf, a roedd y canllawiau hynny yn anghywir. Mae e’n dweud ei fod wedi dilyn y ddolen Gymraeg. Mae angen defnyddio ychydig o synnwyr cyffredin fan hyn gan ddibynnu ar dystiolaeth Mr Roberts (fel mae Gerard Elias yn wneud).

      Os oedd e wedi edrych ar y canllawiau saesneg cywir, fe fyddai wedi sylwi ei fod yn aelod o un o’r cyrff gwaharddedig. Os felly doedd dim rheswm o gwbl iddo barhau yn aelod o’r corff hynny – doedd dim mantais ariannol a dim mantais bersonol.

      Mae’r holl ddadleuon dros y wefan ac ati yn bethau dibwys iawn yng nghyd-destun y ‘cyhuddiad’ a’r gwleidyddion sydd yn chwarae gemau fan hyn am resymau pleidiol.

    • Carl Morris 9:03 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Yng nghyd-destun yr archwiliad penodol yma dwi’n anghyffyrddus gyda’r syniad yma o wneud archwiliad cyfrifiadurol fforensig yn unig er mwyn profi os oedd rhywun wedi edrych ar wefan neu beidio!

      Dw i ddim yn cynnig y prawf yma fel rhywbeth fforensig. Dydyn ni ddim yn gwybod digon am y stori. Dw i yn chwilfrydig am Google Analytics fel teclyn yn gyffredinol.

    • Dafydd Tomos 9:50 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Ie Carl, dwi ddim yn sôn am dy arbrawf di (ond does dim angen arbrawf, mae technegau i dracio ffeiliau gyda Google Analytics yn wybyddys.. mae rhaid defnyddio ‘onclick’ neu clymu’r ddolen i ‘event tracking’ yn Analytics.. Ni’n gwneud hyn i gwsmeriaid).

      Y pwynt dwi’n gwneud yw fod pobl (yn cynnwys gwleidyddion) yn llusgo’r stori yma ymlaen drwy godi pob math o gwestiynau ynglyn a edrych ar gyfrifiadur Aled Roberts, gweinyddion eu ISP, ystadegau gwefan y Comisiwn ayyb. Camau sydd ddim yn mynd i brofi unrhywbeth 100% a ddim yn cynnig atebion ‘gwell’ na tystiolaeth yr heddlu ac adroddiad Elias.

      Er fod hynny i gyd yn gwestiwn ‘diddorol’ yn dechnegol, does dim angen mynd i’r gost a’r drafferth (ni ddim yn son am lofruddiaeth fan hyn), ond fod yr adroddiad a’r dystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno yn ddigon da. A mae’r bleidlais wedi cymryd lle, felly dyna ddiwedd hi.

    • Anne Baik 10:55 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Diolch am eich ymateb. Beth rwy’n cynnig yw y ffordd orau o roi diwedd ar yr achos yma trwy ddangos hanes yr ymweliadau ar gyfrifiadur Aled Roberts ei hun. Mae’n rhwydd i’w wneud ac mae’n amhosib i ymyrryd â fe felly mae’n ‘proof positive’ fel petai. Pan mae’n llusgo ymlaen fel hyn mae’n gwneud niwed i’r iaith Gymraeg achos mae’n creu criw mawr o bobl sydd yn dechrau cwyno am yr arian sy’n cael ei wario ar wefannau ayyb yn Gymraeg sy ddim yn cael eu defnyddio gan neb. Ynghlyn â Roberts rwy’n meddwl dylai Dixon a Roberts cael yr un triniaeth achos yr un trosedd etholiadol wnaethon nhw.
      Y peth technegol sydd o ddiddordeb i mi yw y ffaith bod e’n bosibl ymweld yn uniongyrchol â ffeil PDF heb adael ôl ar Google Analytics. On’d yw’r peth yma yn wendid mawr yn y raglen – oes ‘na raglen arall sydd yn datrys y broblem ac yn cyfri yn gywirach?

    • Dafydd Tomos 12:35 AM ar 9 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Anne, mae’r achos wedi dod i ben am fod adroddiad Elias wedi derbyn tystiolaeth Aled Roberts a mae aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio i’w dderbyn.

      Fel dwi’n trio esbonio uchod, mae’n amhosib defnyddio technoleg i gael sicrwydd 100% fod Aled Roberts yn benodol wedi edrych ar y canllawiau Cymraeg. Doedd neb wedi gofyn am wneud hynny drwy’r holl ymchwiliad chwaith. Mae e yn sicr yn bosib i ‘ymyrryd’ a’r wybodaeth ar gyfrifiadur a mae e hefyd yn bosib iawn nad yw’r wybodaeth hynny ar gael bellach mewn ffordd dibynadwy. Felly does dim pwynt hyd yn oed trafod mynd lawr y llwybr hyn.

      Trafodaeth wahanol iawn yw pobl yn cwyno am gynnwys Cymraeg ar wefannau. Dwi’n amheus o’r ystadegau gan y Comisiwn beth bynnag a mae’n bosib nad ydyn nhw yn cofnodi ystadegau ar gyfer ffeiliau, dim ond tudalennau.

      Fel wnes i esbonio uchod hefyd, mae Google Analytics yn ddibynnol ar Javascript, felly yn gweithio ar dudalen HTML yn unig OS yw’r porwr yn rhedeg Javascript. Os oedd rhywun yn cysylltu i’r PDF yn uniongyrchol o ebost, yr UNIG le fase hynny yn cael ei gofnodi yw yn logs y gweinydd gwe. Ond does ddim sicrwydd 100% o hynny chwaith oherwydd y defnydd o caches gan system ar ochr y defnyddiwr AC ar ochr y wefan. Does dim ffordd ‘foolproof’ o gael ystadegau cywir o gwbl.

      Dwi’n gweithio fel gweinyddwr systemau i gwmni sy’n datblygu gwefannau, a dwi’n gweld y broblem yn aml. Mae’r cwsmer yn ffonio fyny ar ôl ceisio newid cynnwys ar ei gwefan ond ddim yn gweld y fersiwn newydd. I ddatrys y broblem mae’n bosib i ni ddilyn ceisiadau y defnyddiwr yn edrych ar y wefan tra eu bod nhw ar y ffôn (drwy edrych ar y log ‘byw’). Mae nhw’n clicio tudalen.. a does dim cofnod o hynny ar y gweinydd. Pam? Mae ganddyn nhw proxy lleol sy’n dal i ddangos copi o’r cache. Ni’n gofyn iddyn nhw wasgu Ctrl-F5 ac yn sydyn ni’n gweld eu cais nhw a mae nhw’n gweld y cynnwys cywir!

      Dyna un enghraifft allan o nifer – sut mae’n amhosib dibynnu ar y math yma o dechnoleg i roi ystdegau 100% cywir.

    • Anne Baik 9:51 AM ar 9 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Esboniad grêt – dylai Elias wedi cynnwys yr un fath o esboniad mewn atodiad i’r AMs. Diolch yn fawr.

  • Carl Morris 9:42 PM ar 4 June 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , gwleidyddiaeth,   

    Cofnod Cymraeg yn ein Cynulliad ni #ycofnod 

    Ym mhersonol dw i’n credu bod yr ymgyrch yma i sicrhau darpariaeth Cymraeg yn y Cofnod yn bwysig iawn. Dw i’n defnyddio’r tag ycofnod o gwmpas y we (neu #ycofnod ar Twitter).

    “Mae pobl Cymru wedi dangos ffydd yn y Cynulliad wrth bleideisio am ragor o bwerau. Oherwydd hyn, mae mwy o gyfrifoldeb nag erioed ar ysgwyddau gwleidyddion ein corff democrataidd i ddangos a ydynt o ddifrif am brif-ffrydio’r Gymraeg i bob agwedd ar fywyd y Cynulliad ai peidio. Byddai gwyrdroi penderfyniad y trydydd Cynulliad a sicrhau fod y Cofnod llawn ar gael yn y Gymraeg yn dangos gweledigaeth ac yn symbol clir o naratif Cynulliad Cymru ar gyfer y dyfodol. Pe na baent yn gwyrdroi’r penderfyniad, byddent yn tramgwyddo hawliau iaith pobl Cymru ar lefel gwbl sylfaenol. Byddai parhau â’r sefyllfa fel ag y mae yn gosod cynsail peryglus iawn ar gyfer y dyfodol, ac yn gwbl groes i’r datganiad fod gan y Gymraeg statws swyddogol yng Nghymru yn dilyn pasio Mesur y Gymraeg, 2011.” (Catrin Dafydd)

    Stori BBC am yr ymgyrch
    Stori Golwg360 am yr ymchwiliad Bwrdd yr Iaith (mis Medi 2010) (Methu ffeindio unrhyw stori newydd ar Golwg360)
    Meddyliau ar fy mlog dan tag ycofnod

    Bydd Cofnod Cymraeg yn buddsoddiad technolegol, sy’n helpu defnyddwyr Cymraeg a phobol di-Gymraeg yn y pen draw, ac mae’r blog Hacio’r Iaith ‘ma yn blog technolegol.

    Felly dyma rhai o’r rhesymau technolegol.

    * 1 Chwilio
    * 2 Cynnwys
    * 3 Newyddion, barn a’r wasg
    * 4 Aildefnydd am democratiaeth
    * 5 Aildefnydd am rhesymau eraill
    * 6 Cyfieithu peirianyddol
    * 7 Termau

    Mwy o fanylion ar Hedyn yma.

    Sgwennais i’r rhan fwyaf o’r tudalen yma yn 2010 (ar yr hen fersiwn Hedyn ar blatfform DokuWiki). Os oes gyda ti unrhyw bwyntiau, manylion, gwybodaeth neu dolenni eraill, plîs golyga’r tudalen neu gadawa sylw isod.

     
  • Carl Morris 6:05 PM ar 16 May 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , gwleidyddiaeth, ,   

    Nodwedd newydd ar TheyWorkForYou – beth sy’n digwydd yn y siambr heddiw 

    From today, we are taking the UK Parliament’s upcoming business calendar and feeding it into our database and search engine, which means some notable new features. Firstly, and most simply, you can browse what’s on today (or the next day Parliament is sitting), or 16th May. Secondly, you can easily search this data, to e.g. see if there will be something happening regarding Twickenham. And best of all, if you’re signed up for an email alert – see below for instructions – you’ll get an email about any matching future business along with the matching new Hansard data we already send.

    http://www.mysociety.org/2011/05/13/upcoming-theyworkforyou/

    Dim Cynulliad (eto). Ond nodwedd dda.

     
  • Carl Morris 4:29 PM ar 5 May 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , gwleidyddiaeth   

    Diffyg barnau gwleidyddol Cymreig ar y we 

    Mae Gareth Price yn dweud:

    The great hope of the 2007 election was the blogosphere. With Ciaran Jenkins’ Blamerbell Briefs in the vanguard, there was a new space opening up for people who were interested in politics to access more information and better debate. But four years on, much of that radical alternative energy has been absorbed in to the mainstream. Jenkins was sucked in to the BBC news machine – as have many experienced voices in Welsh political reporting (Tomos Livingstone (WM), Dan Davies (PA), Rhiannon Michael (Golwg) have all been absorbed in to the Beeb).

    The Welsh blogosphere has been corporatised – all the main political reporters have blogs and there are more ‘official’ blogs than ever before – but these are largely broadcast tools, rather than genuine social spaces. Yes, they add some colour and detail, and I read them all without fail – but they no longer inspire me. What limited debate they generate is generally governed by a hardcore of extremists (see any time Betsan blogs on a language issue). Even WalesHome – the one web space which does regularly manage to provoke and challenge conventional thinking – has struggled with this election. The days of hope for the Welsh blogosphere were indeed (Blamerbell) brief.

    Mae blogiau Cymraeg yn fwy na blogiau gwleidyddol ond dw i’n cytuno. Angen mwy o farnau “annibynnol”. Hoffwn i weld blog barn dyddiol yn Gymraeg hefyd. Unrhyw un? Mae cyfle wedi bod gyda Golwg am sbel..

     
    • Rhodri ap Dyfrig 10:31 PM ar 5 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Dwi’n credu taw dispersal da ni’n gweld yn hytrach na dirywiad penodol yn y blogosffêr. Na, does na neb wedi llwyddo i greu buzz, ond dydi’r pleidiau ddim chwaith. Mae na fatigue etholiadol post-refferendwm, ac mae hynny yn cael ei adlewyrchu ar-lein dwi’n meddwl.

      Dydi blogiau jest ddim yn lle cweith digon secsi i ddechrau bod yn sylwebydd gwleidyddol rhagor. Mae Twitter wedi cymryd drosodd i raddau, ac er bod lot o gofnodion longform da iawn ar gael, mae na ddiffyg blogiau punchy, wedi eu diweddaru’n gyson, wedi eu sgwennu’n dda ag efo chydig o ‘inside scoop’ (fel roedd Blamerbell). Er mwyn cael y buzz a’r traction yna fel cafodd Blamerbell, mae’n rhaid sgwennu’n aml ac yn dda, a wnaeth cael Arsembly fel gwrtbwynt ddim drwg iddo chwaith. Mae arddull y math yna o drafodaeth sydyn, crafog, yn siwtio Twitter llawer mwy na blogiau.

      Fasa’n ddiddorol gwneud cownt o faint o flogiau gwleidyddol oedd yn 2007 a faint sydd rwan. Faswn i’n fodlon rhoi beth bod na tua r’un faint, ond bod ambell un yn gwneud lot o sŵn. Y pareto principle ar waith, ond mewn pwll mor fach â blogosffêr Cymru. Pan ti’n tynnu ambell sgodyn mawr allan, mae’r model pareto yn disgyn am nad oes unrhyw bysgod mawr eraill i lenwi’r bwlch. Pareto-paradocs!

  • Carl Morris 3:07 PM ar 8 December 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: bandeang, cymruddigidol, economi, gwleidyddiaeth,   

    Cymru Ddigidol “yr allwedd i gyfleoedd gwerth miliynau o bunnoedd” 

    Mae’r Llywodraeth Cymru yn lansio strategaeth newydd heddiw.

    Wrth lansio’r strategaeth dywedodd Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru, fod agenda Cymru Ddigidol yn hollbwysig o ran adnewyddu’r economi a’i bod yn effeithio ar bron pob math o weithgarwch yn y sectorau cyhoeddus a phreifat. Mae’n adlewyrchu’r pwysigrwydd sydd gan dechnolegau digidol yn ein bywydau bellach.

    “Mae angen galluogi ein dinasyddion i fod yn ddinasyddion digidol, hynny yw, gwybod sut i ddefnyddio technoleg a bod yn ddiogel ar yr un pryd. Mae’n angenrheidiol bod ein busnesau yn elwa ar dechnoleg newydd er mwyn manteisio ar farchnadoedd newydd a bod yn arloesol a thyfu. Rhaid i’n sector cyhoeddus ddiwallu anghenion ein dinasyddion a’n busnesau sy’n newid, gan ddarparu gwasanaethau mwy effeithlon a thryloyw gyda llai o arian.”

    Pwysleisiodd fod camau sylweddol wedi’u cymryd i ddatblygu’r economi ddigidol yng Nghymru ond bod angen cymryd llawer o gamau pellach:

    * Nid yw traean o’r oedolion yng Nghymru yn defnyddio’r we;
    * Mae llai na 40% o Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru yn gwerthu ar-lein;
    * Mae un cyflogwr o bob chwech yng Nghymru o’r farn bod sgiliau TGCh eu gweithwyr yn anfoddhaol;
    * Mae llai na chwarter y boblogaeth yn defnyddio gwasanaethau cyhoeddus ar-lein ar hyn o bryd;
    * Nid yw band-eang cyflym ar gael mewn llawer o fannau yng Nghymru.

    http://wales.gov.uk/newsroom/businessandeconomy/2010/101208digitalwales/?skip=1&lang=cy

    Fideo o astudiaethau
    http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/digitalwales/?skip=1&lang=cy

    Maen nhw yn lansio dogfen am gynhwysiant digidol hefyd ar hyn o bryd.
    http://wales.gov.uk/consultations/housingcommunity/digitinclusion/?skip=1&lang=cy

     
    • Gareth Jones 3:28 PM ar 8 Rhagfyr 2010 Dolen Barhaol

      Byddai’n dda cael dy farn di ar hyn Carl. Sut wyt ti’n meddwl y gwneith hyn wella pethau i Gymru a’r Cymry?

    • Leia Fee 4:26 PM ar 10 Rhagfyr 2010 Dolen Barhaol

      Es i i “Digital Inclusion Wales 2010” y wythnos ‘ma — roedd lot o sgwrs am y dogfen ‘ma… Mwy cwestiynau na atebion wrth gwrs ond diddorol iawn.

  • Carl Morris 1:32 AM ar 22 October 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , gwleidyddiaeth   

    Dyfyniad am wneud pethau ar y blog Agitprop Àgogo 

    Occasionally I encounter proposals from groups whose plan requires first making government release some data, or pass some law. Then, once that happens, they can build something really cool and useful. There are lots of crazy ideas in this field, but this approach is amongst the craziest. As Micah Sifry explained to the attendees at PDF Europe this afternoon1, in a neat prelude to this post, one of the reasons the US (and by implication also the UK) is further ahead with these sorts of sites than most countries, is simply because they hacked Congress rather than waiting to be given what they wanted.

    The approach here is straightforward: simply act the way you want the world to be, then wait for reality to catch up.

    Cofnod llawn – yn gynnwys stori am WhatDoTheyKnow

     
    • Carl Morris 1:35 AM ar 22 Hydref 2010 Dolen Barhaol

      Waaa mae hwn yn wych hefyd os oes gyda ti diddordeb yn declynnau democratiaeth

    • Rhys Wynne 12:13 PM ar 22 Hydref 2010 Dolen Barhaol

      Mae’r ail ddolen, ynglŷn ag addysgu ac arwain drwy esiampl yn wir. Galla i ddeall nad yw rhai newyddiadurwyr eisiau defnyddio WhatDoTheyKnow rhag dangos i’r byd pa stori maent yn ymchwilio iddo, ond dylai unrhyw unigolion a mudiadau eraill wneud defnydd llawn ohono.

      Sgwn i os oes gan Cymdeithas yr Iaith er enghriafft ‘bolisi’ lle dylai pob ymholiad fod drwy’r wefan? Mantais hyn yw, hyd yn oed os nad oes gan ddefnyddiwyr eraill WDTK ddiddordeb yn y Gymraeg, efallai cawn nhw sioc (eu haddysgu) drwy weld pa foth o gwestiynnau sy’n cael eu gofyn a pha fath o atebion syn cael eu rhoi.

  • Carl Morris 4:15 PM ar 25 September 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , gwleidyddiaeth   

    Adam Price, enwau parth a gwesteia /cc @adampricemp 

    Beth sy wedi digwydd fan hyn? Squatters?
    http://www.adamprice.org.uk

    Domain name:
            adamprice.org.uk
    
        Registrant:
            Knowall I.T Limited
    
        Registrant type:
            UK Limited Company, (Company number: 03787958)
    
        Registrant's address:
            Roberts House
    
            Lower Ground Floor
    
            103 Hammersmith Road
            London
            W14 0QH
            United Kingdom
    
        Registrar:
            Knowall I.T Limited t/a Knowall IT Ltd [Tag = KNOWALL]
            URL: http://www.knowall.net/domains.htm
    
        Relevant dates:
            Registered on: 24-Feb-2010
            Renewal date:  24-Feb-2012
            Last updated:  25-Aug-2010
    
        Registration status:
            Registered until renewal date.
    
        Name servers:
            helios.knowall.net
            heracles.knowall.net
            hydra.knowall.net
    
        WHOIS lookup made at 17:10:55 25-Sep-2010
    

    Hen archif (mis Chwefror 2008)
    http://web.archive.org/web/20080224145413/http://www.adamprice.org.uk/

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel