Gwahoddiad i sesiwn Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr yn yr Eisteddfod

Fe’ch gwahoddir yn gynnes i sesiwn flynyddol yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr, yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Mae’r sesiwn am 4 o’r gloch brynhawn Llun, y 5ed o Awst, ar stondin Prifysgol Bangor.

Byddwn yn rhoi trosolwg o rai o uchafbwyntiau’r flwyddyn a’n projectau presennol, gan gynnwys yr ap Geiriaduron, safoni termau i ysgolion, colegau addysg bellach a phrifysgolion Cymru, lleoleiddio profion awtistiaeth, hyfforddiant ieithoedd modern a chyfieithu i ddiwydiant TILT, a’n system gyfieithu ar-lein newydd, CyfieithuCymru.

Bydd cyfle i ofyn cwestiynau i aelodau’r tîm, a bydd derbyniad bach anffurfiol i ddilyn.

Cofiwch hefyd am lansio ein project DECHE (Digido, E-gyhoeddi a Chorpws Electronig) i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar eu stondin hwy ar y maes am 3.30 y prynhawn, ddydd Mawrth yr Eisteddfod.

Delyth Prys

1 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.