WordPress 6.1 Newydd

WordPress

Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu o wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau yn y dull o olygu’r wefan gyfan a llywio drwy gyfrwng blociau.

Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth.

Dyma’r cyflwyniad:

Croeso i WordPress 6.1

Mae’r dudalen hon yn tynnu sylw at rai o’r newidiadau mwyaf arwyddocaol i’r cynnyrch ers rhyddhau WordPress 6.0 ym mis Mai 2022. Byddwch hefyd yn canfod adnoddau ar gyfer datblygwyr ac unrhyw un sy’n ceisio dealltwriaeth ddyfnach o WordPress.

Thema rhagosodedig newydd wedi’i phweru gan 10 arddull amrywiol gwahanol

Gan adeiladu ar yr elfennau sylfaenol yn fersiynau 5.9 a 6.0 ar gyfer themâu bloc ac amrywiadau arddull, mae’r thema rhagosodedig newydd, Twenty Twenty-Three, yn cynnwys 10 arddull wahanol ac yn “Hygyrchedd Parod”.

Profiad crëwr gwell gyda thempledi mireiniedig ac ychwanegol

Mae templedi newydd yn cynnwys templed wedi’i deilwra ar gyfer cofnodion a thudalennau yn y Golygydd Gwefan. Mae offer chwilio ac amnewid yn cyflymu dylunio rhannau templedi.

Mwy o gysondeb a rheolaeth ar draws offer dylunio

Mae uwchraddio’r rheolyddion ar gyfer elfennau dylunio a blociau yn gwneud y cynllun a’r broses adeiladu gwefan yn fwy cyson, cyflawn a greddfol.

Daeth yn haws creu a rheoli dewislenni

Mae dewisiadau wrth gefn newydd yn y bloc llywio yn golygu y gallwch olygu’r ddewislen sydd ar agor; dim angen chwilio. Hefyd, mae gan y rheolyddion ar gyfer dewis a gweithio ar ddewislenni eu lle eu hunain yn y gosodiadau bloc. Mae’r system dewislen symudol hefyd wedi cael ei huwchraddio gyda nodweddion newydd, gan gynnwys dewis gwahanol o eiconau, er mwyn personoli eich dewislen.

Gwell gosodiad a delweddu gosodiadau dogfennau

Mae dangosiad glanach, wedi’i threfnu’n well yn eich helpu chi i weld a rheoli gosodiadau cofnod a thudalennau pwysig yn hawdd, yn enwedig y dewiswr templed a’r amserydd.

Gosodiadau clo un clic yr holl flociau mewnol

Wrth gloi blociau, mae togl newydd yn caniatáu i chi osod eich gosodiadau clo i’r holl flociau mewn bloc cynhwyso fel mewn blociau grŵp, clawr a cholofn.

Dalfannau bloc gwell

Mae blociau amrywiol yn cynnwys gwell dalfannau sy’n adlewyrchu dewisiadau cyfaddasu i’ch helpu chi i ddylunio’ch gwefan a’i chynnwys. Er enghraifft, mae’r dalfan bloc Delwedd yn dangos ffiniau cyfaddas a hidlwyr deudon cyn hyd yn oed dewis delwedd.

Cyfansoddi rhestrau a dyfyniadau cyfoethocach gyda blociau mewnol

Mae’r blociau Rhestr a Dyfynnu bellach yn cefnogi blociau mewnol, gan ganiatáu cyfansoddiadau mwy hyblyg a chyfoethog fel ychwanegu penawdau o fewn i’ch blociau Dyfynnu.

Testun mwy ymatebol gyda theipograffeg llifol

Mae teipograffeg llifol yn caniatáu i chi ddiffinio meintiau ffontiau sy’n addasu ar gyfer darllen yn hawdd ar sgrin o unrhyw faint.


Ychwanegu patrymau cychwynnol i unrhyw fath o gofnod

Yn WordPress 6.0, pan wnaethoch chi greu tudalen newydd, roeddech chi’n gweld awgrymiadau am batrymau fel nad oedd yn rhaid i chi ddechrau gyda thudalen wag. Yn 6.1, byddwch hefyd yn gweld patrymau cychwynnol pan fyddwch yn creu enghraifft newydd o unrhyw fath o gofnod.

Canfod themâu bloc yn gynt

Mae gan y Cyfeiriadur Themâu hidlydd ar gyfer themâu bloc, ac mae rhagolwg patrwm yn rhoi gwell syniad o sut olwg fyddai ar y thema wrth archwilio gwahanol themâu a phatrymau.

Cadwch eich gosodiadau Golygydd Gwefan ar gyfer hwyrach ymlaen

Mae gosodiadau Golygydd Gwefan bellach yn barhaus ar gyfer pob defnyddiwr. Mae hyn yn golygu y bydd eich gosodiadau nawr yn gyson ar draws pob porwr a dyfais.

System arddull symlach

Mae rheolau CSS ar gyfer ymyl, padin, teipograffeg, lliwiau, a borderi o fewn yr peiriant arddulliau bellach i gyd mewn un lle, gan leihau’r amser sy’n cael ei dreulio ar dasgau cynllun-benodol ac yn helpu i gynhyrchu enwau dosbarthiadau semantig.

Gwell hygyrchedd i weinyddwyr a golygyddion

Mae dros 40 o welliannau hygyrchedd gan gynnwys datrys problemau colli ffocws yn y golygydd, gwella labeli ffurflenni a negeseuon clywadwy, gwneud testun amgen yn haws i’w olygu, a thrwsio gorgyffwrdd yr is-ddewislen yn y llywio ochr weinyddol estynedig ar feintiau sgrin llai a lefelau chwyddo uwch. Dysgwch fwy am hygyrchedd yn WordPress.

Pwyntiau eraill o ddiddordeb

Mae 6.1 yn cynnwys nodwedd amser-i-ddarllen newydd sy’n dangos i awduron cynnwys y gwerthoedd amser-i-ddarllen bras ar gyfer tudalennau, cofnodion, a mathau o gofnodion arferol.

Mae’r llinell tag gwefan yn wag yn ragosodedig mewn gwefannau newydd ond mae modd ei haddasu yn Gosodiadau Cyffredinol.

Mae dyluniad moddol newydd yn cynnig effaith pylu cefndirol, gan ei gwneud hi’n haws canolbwyntio ar y dasg dan sylw.

Dewisiadau a nodweddion rhyngwyneb wedi’u diweddaru

Mae’r diweddariadau’n cynnwys elfennau steilio fel botymau, dyfyniadau a dolenni eang; rheoli cyflwr hofran, gweithredol a ffocws ar gyfer dolenni sy’n defnyddio theme.json (ddim ar gael i’w rheoli yn y rhyngwyneb eto); a chyfaddasu cefnogaeth amlinellol ar gyfer blociau ac elfennau, ymhlith nodweddion eraill.

Esblygiad parhaus o ddewisiadau o gynlluniau

Bellach mae modd diystyru’r dimensiynau cynnwys rhagosodedig sy’n cael eu darparu gan themâu yn y Bar Ochr Arddulliau, gan roi gwell rheolaeth i adeiladwyr gwefannau dros gynnwys lled llawn. Mae gan ddatblygwyr reolaeth fanwl dros y rheolaethau hyn.

Rhannau templed bloc mewn themâu clasurol

Bellach mae modd diffinio rhannau templed bloc mewn themâu clasurol trwy ychwanegu’r ffeiliau HTML priodol i’r cyfeiriadur parts wrth wraidd y thema.

Cefnogaeth estynedig ar gyfer blociau Cylch Ymholiad

Mae hidlau newydd yn gadael i amrywiadau Bloc Ymholiad gefnogi ymholiadau wedi’u teilwra ar gyfer amrywiadau mwy pwerus a dewisiadau hidlo uwch o fathau o gofnodion hierarchaidd.

Hidlau ar gyfer eich holl arddulliau

Defnyddiwch hidlau yn y bar ochr Arddulliau i reoli gosodiadau ar bob un o’r pedair lefel o’ch gwefan – craidd, thema, defnyddiwr, neu floc, o lai i fwy penodol.

Rhagosodiadau bylchu ar gyfer dyluniad cyflymach, cyson

Arbedwch amser a helpu i osgoi codio gwerthoedd i thema gyda gwerthoedd ymyl rhagosodedig a phadin ar gyfer blociau lluosog.

Uchafbwyntiau perfformiad

Datrysodd WordPress 6.1 dros 25 o docynnau wedi’u neilltuo i wella perfformiad. O’r API REST i aml-wefan, WP_Query i gofrestriad bloc craidd, a gwiriadau Iechyd Gwefan newydd i ychwanegu’r briodwedd async at ddelweddau, mae gwelliannau perfformiad ar gyfer pob math o wefan. Ceir dadansoddiad llawn yn y Canllaw Maes Perfformiad .

Byddwch ymhlith y cyntaf i gael y gwelliannau diweddaraf trwy ychwanegu’r ategyn Performance Lab i’ch gwefan prawf WordPress neu’ch blwch tywod.