Windows 8 ar dabled: Fel dy dad mewn clwb nos

Os buaswn yn gallu disgrifio Windows 8 ar cyfrifiadur tabled, dychmygwch dyn canol oed yn dawnsio mewn clwb nos. Er ceisiai ei orau, nid yw’n gallu dal fyny gyda rhai mwy ifancach ac ystwyth. Chyn bo hir, fe wneith niwed ei hyn a chael ei gario allan o’r clwb. Yn syml, Windows 8 yw eich tad mewn clwb nos.

Mi brynais rhai wythnos yn ol Samsung 500T gyda fersiwn diweddaraf o Windows 8. Onni di bod yn meddwl ers rai misoedd pa un i brynu. Roedd gennai lygad am yr Asus Infinity ar ol bod yn berchen ar Google Nexus. Ond roeddwn yn eitha dryw i Windows, felly roedd y fersiwn diweddaraf yn ateb i’n holl ofynnion.

Mae yna pethau positif amdano. Mi fedrwch mwynhau defnyddio apiau diweddaraf tra’n gallu dibynnu ar yr hen meddalwedd clasurol. Mae na hyblygrwydd hefyd ar sut mae defnyddio y system fel cyfrifiadur neu fel tabled, dyma peth oedd yn apelio amdanaf fi. Yn lle prynu gliniadur a tabled, buaswn yn gallu cyfuno’r ddau.

Mae na sgrin sydd yn dangos llun clir a batri sydd yn gweithio am oriau hir. Mae hefyd yn ysgafn iawn gyda digon o opsiynau ar sut i cysylltu pwyntiau allanol fel llygoden, swn a cofau bach yn arbennig.

Ond mae ‘na broblemau hefyd. Dyw’r tabled Samsung ddim yn slotio yn dda fewn i’w lle, does dim ‘clic’. Dim ond gobaith ei fod wedi cysylltu. Ar dop hynny, os symudwch y tabled yn ei le osod weithiau’r mae’r cyswllt yn mynd a’r goll. Arwenai wedyn at adegau lle nad yw llygoden ddim yn gweithio’n gywir.

Ar Windows ceir arbedwr sgrin sydd yn cloi y cyfrifiadur. Byddwch yn gallu ei ail agor drwy llusgo’r eich bys cyn llenwi’r ffurflen cyfrinair. Ond weithiau, mae’r sgrin wedi cloi yn iawn a nid ydych yn gallu ail agor. Dwi ddim yn siwr pam bod yn hyn yn digwydd, felly mae’n arwain i mi ail-gychwyn y cyfrifiadur. Mae Microsoft hefyd wedi cael gwared a’r botwn ‘cychwyn’, felly does dim man i chi chwilio a chychwyn rhaglenni. (Roedd rhaid i mi chwilio am ffeil html er mwyn cychwyn Internet explorer’)

Y broblem wrth defnyddio y system fel tabled yw bod yr eiconau yr apps yn rhy fawr i gymharu a google neu apple. Gyda rheinau, mi fedrwch trefnu eich apps i fod yn ar un sgrin yn unig. Nid yw hyn yn bosib ar Windows 8. Ar dop hynny, mae’n glir bod y pwer tabled Samsung yn cael ei hi’n anodd i prosesu a gweithio system mor gynhwysfawr a Windows 8.

Ceisiai Steve Balmer a’i griw ryw fath o system weithredu hyblyg a fydd yn apelio tuag defnyddwyr PC traddodiadol ond hefyd rhai sydd yn defnyddio cyfrifiadur tabled. Ond yn y pendraw, nid yw’n gweithio i’r ddau.