Diweddariadau Diweddar Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Sioned Mills 11:20 AM ar 16 June 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Haclediad 69: Yn Fyw o’r Boudoir 

    Mae’r tîm ar chwâl ym mhennod ddiweddara’r Haclediad – mae’r adeiladwyr wedi dinistrio tŷ Sioned, Iestyn yn gwerthu ei dŷ fo, a Bryn yn boddi o dan tsunami o spam gan BT. Heblaw am hyna i gyd, bydd y criw yn trafod cynigion newydd Apple, prosiect cŵl Common Voice Mozilla a sketch Bar Facebook SNL (sori am fwy o Facebook, ni’n trio stopio onest)
    Wedyn, neidiwch mewn i’r afterparty lle mae pethe’n gwella lot. Wir ‘wan.
    Diolch i bawb am danysgrifio – rêtiwch ni ar iTunes!

    Dolenni

     
  • Rhos Prys 11:45 AM ar 9 June 2018 Dolen Barhaol | Ateb  

    Llongyfarchiadau i Delyth Prys – Gwobr Adeiladu Cymru, Womanspire 2018 

    Llongyfarchiadau i Delyth* ar ennill y wobr arbennig yma. Diolch i’r rhai wnaeth ei henwebu, yn gydweithwyr a chyn-gydweithwyr.

     

    Mae broliant llawn i’w weld ar dudalen newyddion Prifysgol Bangor.

     

    *datgan diddordeb 😉

     
  • Rhos Prys 3:50 PM ar 7 June 2018 Dolen Barhaol | Ateb  

    Rhagor o Leisiau i Common Voice – Blog Mozilla.org 

    Blogiad llawn Mozilla am y diweddaraf ar Common Voice –

    Heddiw mae’n bleser gennym gyhoeddi fod Common Voice, menter Mozilla i dorfoli set ddata fawr o leisiau dynol ar gyfer eu defnyddio mewn technoleg lleferydd, yn mynd yn mynd i fod ar gael ar gyfer nifer o ieithoedd! Diolch i ymdrechion glew cymunedau lleoleiddio Mozilla a’n partneriaid iaith ymrwymedig gallwch nawr gyfrannu eich llais mewn Cymraeg, Almaeneg a Ffrangeg, ac rydym yn gweithio i lansio 40+ yn ychwanegol cyn bo hir. Ond dim ond y dechrau yw hyn. Rydym eisiau i Common Voice fod yn arf ar gyfer unrhyw gymuned i greu technoleg lleferydd yn eu hiaith eu hun.

    Ers i ni lansio Common Voice fis Gorffennaf diwethaf, rydym wedi casglu cannoedd o filoedd o samplau llais yn Saesneg drwy ein gwefan ac ap iOS. Fis Tachwedd y llynedd, fe wnaethom ni gyhoeddi fersiwn cyntaf set ddata Common Voice. Mae’r  data hyn wedi cael eu llwytho lawr filoedd o weithiau, ac rydym wedi gweld y data yn cael eu defnyddio mewn cynnyrch llais masnachol fel Kaldi yn ogystal â’n meddalwedd cod agored ni ein hunain, Deep Speech.

    Hyd yn hyn, mae Common Voice wedi bod ar gael dim ond ar gyfer cyfraniadau llais yn Saesneg. Ond nod Common Voice o’r dechrau oedd cefnogi llawer o ieithoedd er mwyn gwireddu ein gweledigaeth o wneud technoleg lleferydd yn fwy agored, hygyrch a chynhwysol i bawb. Dyna pam fod ein prif ymdrechion yn ystod y misoedd diwethaf wedi canolbwyntio ar dyfu a grymuso cymunedau iaith unigol i lansio Common Voice yn eu rhannau nhw o’r byd, yn eu hieithoedd a’u tafodieithoedd eu hunain.

    Yn ychwanegol at leoleiddio’r wefan, mae’r cymunedau hyn yn helpu poblogi Common Voice gyda brawddegau i bobl eu darllen. Mae’r brawddegau hyn yn rhydd o hawlfraint, ac mae ganddyn nhw’r nodweddion cywir i greu set ddata o safon uchel. Mae’r cymunedau hyn hefyd yn helpu hyrwyddo’r wefan yn eu gwledydd eu hunain, gan adeiladu cymuned o gyfranwyr gyda’r nod o dyfu’r cyfanswm o oriau o ddata sydd wedi’u casglu ac sydd ar gael ym mhob iaith.

    Yn ychwanegol at Saesneg, rydym nawr yn casglu samplau llais mewn Cymraeg, Ffrangeg ac Almaeneg. Ac mae mwy na 40 iaith arall eisoes ar y ffordd – nid dim ond ieithoedd mawr fel Sbaeneg, Tsieinëeg neu Rwsieg, ond hefyd ieithoedd llai fel Ffriseg, Norwyeg neu Chuvash. I ni, mae’r ieithoedd llai hyn yn bwysig oherwydd eu bod nhw yn aml heb gael digon o sylw gan y gwasanaethau adnabod lleferydd a digidol masnachol presennol. Gall bodolaeth data addas hefyd rymuso entrepreneuriaid a chymunedau i lenwi’r bwlch hwn eu hunain.

    Mae mynd yn amlieithog yn gam mawr i Common Voice a gobeithiwn ei fod hefyd yn gam mawr i dechnoleg lleferydd yn gyffredinol. Bydd democrateiddio technoleg lleferydd nid yn unig yn lleihau’r rhwystr sy’n atal arloesedd byd-eang ond hefyd y rhwystr sy’n atal pobl rhag cael mynediad at y wybodaeth. Yn arbennig felly pobl sydd yn draddodiadol wedi cael llai o fynediad — er enghraifft, pobl â nam ar eu golwg, pobl na wnaeth erioed ddysgu darllen, plant, pobl hŷn, a llawer eraill.

    Rydym yn falch iawn o weld y gefnogaeth gynyddol sydd i ni adeiladu’r set ddata amlieithog gyhoeddus fwyaf yn y byd, a gall pawb ein helpu i’w dyfu drwy gyfrannu eich llais. Os hoffech chi helpu i ddod â Common Voice a thechnoleg lleferydd i’ch iaith chi, ewch i’n tudalen iaith. Ac os ydych yn rhan o sefydliad a bod gennych syniad ar gyfer cymryd rhan yn y project hwn, cysylltwch â ni.

    Mae ein Fforwm yn rhoi mwy o fanylion ar sut i helpu, yn ogystal â bod yn lle gwych i ofyn cwestiynau a chyfarfod â’r cymunedau.

    Diolch Arbennig

    Hoffem ddiolch i’n Grŵp Ymgynghorol Lleferydd, pobl sydd wedi bod yn gyfranwyr ac yn ymgynghorwyr arbenigol i’r project Common Voice:

    • Francis Tyers – Athro Cynorthwyol Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol yn yr Ysgol Economeg Uwch yn Moscow.
    • Gilles Adda – Gwyddonydd lleferydd
    • Thomas Griffiths – Swyddog Gwasanaethau Digidol, Swyddfa’r Cynulliad Deddfwriaethol, Awstralia
    • Joshua Meyer – ymgeisydd PhD mewn Adnabod Lleferydd
    • Delyth Prys – Pennaeth Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, Cymru
    • Dewi Bryn Jones – Prif Beiriannydd Meddalwedd, Uned Technolegau Iaith, Prifysgol Bangor, Cymru
    • Wael Farhan – MS mewn Dysgu Peiriant o UCSD, ar hyn o bryd yn gwneud ymchwil ar gyfer NLP Arabeg yn Mawdoo3.com.
    • Eren Gölge – Gwyddonydd dysgu peirianyddol sydd ar hyn o bryd yn gweithio ar destun i leferydd i Mozilla.
    • Alaa Saade – Uwch Wyddonydd Dysgu Peirianyddol yn Snips (Paris)
    • Laurent Besacier – Athro yn Université Grenoble Alpes, NLP, prosesu lleferydd, adnoddau llai eu hadnoddau
    • David van Leeuwen – Technolegydd Lleferydd
    • Benjamin Milde – ymgeisydd PhD mewn NLP/prosesu lleferydd
    • Shay Palachy – M.Sc. mewn Cyfrifiadureg, Gwyddonydd Data Arweiniol mewn cwmni cychwynnol

    ***

    Mae Common Voice yn cefnogi gwaith Mozilla ym maes adnabod lleferydd, sy’n rhedeg dan yr enw project Deep Speech, model peiriant adnabod lleferydd cod agored sy’n dod yn agos at gywirdeb dynol, a ryddhawyd ym mis Tachwedd 2017. Ar y cyd gyda’r set ddata Common Voice rydym yn credu y gall ac y bydd y dechnoleg hon yn galluogi ton o gynnyrch a gwasanaethau arloesol, ac y dylai hyn fod ar gael i bawb.

     
  • Rhos Prys 11:17 AM ar 7 June 2018 Dolen Barhaol | Ateb  

    Lansio Common Voice Cymraeg 

    Heddiw mae Mozilla‘n lansio eu cynllun Common Voice amlieithog i helpu dysgu peiriannau sut mae pobl go iawn yn siarad. Mae tair iaith yn cael eu hychwanegu i’r platfform Almaeneg, Ffrangeg, ac ie, – y Gymraeg!

    Bydd hyn yn gyfle i ddarparu data llais ar gyfer y Gymraeg ar blatfform byd-eang pwerus fydd yn codi amlygrwydd y Gymraeg ac yn rhoi cyfle i ddarparwyr ddefnyddio set data parod ar gyfer eu cynnyrch.

    Ond mae gennym Paldaruo yn barod, oes angen mwy? Mae’r Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor wedi gweithio’n agos gyda Mozilla i ddatblygu Common Voice. Os ydych chi wedi cyfrannu at Paldaruo, fe welwch nifer o nodweddion cyfarwydd yng nghynllun Common Voice. Ond mae angen llawer iawn mwy o frawddegau a lleisiau na fu yn Paldaruo os ydyn ni am fod yn llwyddiannus yn y gwaith hwn. Mae’r ffaith fod y Gymraeg ar y don gyntaf o ieithoedd ychwanegol yn arwydd o’r parch tuag at waith Delyth, Dewi a’r criw wrth ddatblygu Paldaruo. Diolch yn fawr i chi!

    Ond arhoswch, mae ‘na fwy! Ymhlith yr ieithoedd sydd wedi gofyn i gael eu cynnwys yn Common Voice, ac mae yna tua 45 yn aros ar hyn o bryd, mae’r Wyddeleg, y Llydaweg a’r Gernyweg.

    Mae eich cyfraniad chi nawr yn hollbwysig. A wnewch chi gyfrannu eich llais, adolygu’r cyfraniadau cyfredol a recordio lleisiau eich teulu, ffrindiau a chydnabod er mwyn cynyddu’r swmp o ddata sydd ar gael ar gyfer y Gymraeg.

    Common Voice Cymraeg

     
  • Carl Morris 5:31 PM ar 21 May 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , menywod   

    Enwebiad i Delyth Prys am ei gwaith ym maes technolegau iaith 

    Llongyfarchiadau i Delyth Prys am gyrraedd rownd derfynol gwobrau Womenspire 2018.

    Cafodd ei henwebu yn y categori Adeiladu Cymru am ei gwaith ym maes technolegau iaith dros y blynyddoedd.

    Mae’r wobr honno yn dathlu’r menywod sydd wedi gwneud gwahaniaeth yng Nghymru mewn sectorau technegol a gwyddonol, ac sydd wedi cefnogi datblygiad menywod eraill yn y meysydd hynny.

    Mae Delyth yn bennaeth Uned Technolegau Iaith ym Mhrifysgol Bangor ac wedi cyfrannu llawer at ddigwyddiadau Hacio’r Iaith ers y dechrau.

    Dymunwn bob lwc iddi ar 5ed Mehefin pan fydd y noson wobrwyo yn cael ei chynnal yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.

     
  • Rhos Prys 8:58 AM ar 18 May 2018 Dolen Barhaol | Ateb  

    WordPress a’r GDPR 

    Mae WordPress wedi ryddhau diweddariad i gynorthwyo defnyddwyr WordPress sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau newydd sy’n dod i rym ar Fai 25. ‘Mond 7 diwrnod i fynd!

    Mae’r diweddariad yn cynnwys rhoi dewis ar sut mae cwcis yn trin eu data personol, creu adran newydd i wefan ddarparu ei dudalen polisi preifatrwydd (Gosodiadau>Preifatrwydd), dull o drin data personol (Offer>Allforio Data Personol, Dileu Data Personol) a rhai cywiriadau.

    Mae gan y Comisiwn Ewropeaidd dudalen sy’n amlinellu’r newidiadau i’r rheolau diogelu data.

     
  • Carl Morris 5:15 PM ar 17 May 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , , ,   

    Trydedd sesiwn Anturiaethau Mewn Cod 17/5/2018 HENO 

    Fe fydd sesiwn drafod Anturiaethau Mewn Cod heno i’r rhai sydd o gwmpas i drafod codio/rhaglennu/creu apiau.

    Anturiaethau Mewn Cod
    grŵp Hacio’r Iaith ar Telegram
    ar nos Iau 19 Ebrill 2018
    rhwng 7yh a 9yh
    Croeso cynnes i BAWB

    Ewch i hen gofnodion Anturiaethau Mewn Cod am ragor o fanylion.

     
  • Carl Morris 12:04 PM ar 16 May 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: clecs   

    Rhwydwaith Clecs yn dod i ben (neu’n chwilio am rywun i’w achub) 

    Dyma gopi o ddatganiad oddi ar tudalen Facebook Clecs. Efallai bod ‘na cyfle yma i rywun..

    Mae hi’n amser dweud hwyl fawr

    ————-

    4 blynedd yn ôl dechreuon ni ar ei nod o roi cartref i’r Gymraeg ar-lein. Adnodd penodol i siaradwyr Cymraeg ryngweithio ym mhob man, heb deimlo eu bod nhw’n bobl o’r tu allan, neu eu bod yn defnyddio cynnyrch oedd ddim o’r un safon â’r holl rai eraill. Aeth llawer o amser, arian a chariad i mewn i greu beth ddaeth yn ‘Clecs’ ac allwn ni ddim bod yn falchach o’r hyn wnaethom ei greu.

    Yn anfoddus, mae hi rŵan yn amser dweud Hwyl Fawr.

    Mae dau brif reswm pam ein bod yn gorfod rhoi’r gorau iddi, fodd bynnag, maent oll yn deillio o wirionedd trist unrhyw fusnes. Arian. Yn syml, does gennym ni ddim digon o arian i barhau. Gyda’r gofynion sydd ar ddod i gydymffurfio â Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn ogystal â bod angen gwneud gwaith atgyweirio strwythurol a graffigol ar y wefan, does gennym ni ddim dewis.

    Pan ddechreuon ni, fe wnaethom ni sicrhau nawdd gan gwmni o Gasnewydd er mwyn gwireddu ein breuddwyd. Ers hynny, does yr un person sydd wedi bod yn rhan o’r freuddwyd, na’r cwmni wnaeth fuddsoddi ynom ni, wedi gwneud yr un geiniog o’r fenter hon, er bod degau o filoedd o arian wedi mynd i mewn iddi. Roeddem ni eisiau cadw’r cynnyrch yn un oedd heb hysbysebion a doeddem ni ddim eisiau gwerthu eich data. Tydym ni erioed wedi rhoi unrhyw beth i unrhyw drydydd barti.

    Fe geision ni nawdd ychwanegol o nifer o ffynonellau gwahanol ers lansio’r wefan, a hyd yn oed yn y dyddiau cynnar gyda nifer syfrdanol o bobl yn dangos diddordeb ac yn ei defnyddio a miloedd yn cofrestru ar ei chyfer, doedd dim diddordeb gan unrhyw un. Roedd pobl enwog, Aelodau Seneddol a mudiadau yn cofrestru er mwyn defnyddio Clecs, ond doedd neb eisiau helpu. Y siom fwyaf oedd Llywodraeth Cymru gan ein bod wedi ymgeisio am grantiau ar sawl achlysur dim ond i gael gwybod nad oedd y busnes yn ddichonadwy. Ar yr un pryd, roedd cannoedd o siaradwyr Cymraeg yn cofrestru ar ei chyfer, a ni oedd y wefan iaith Gymraeg oedd yn cael ei hymweld fwyaf ar draws y byd.

    Yn anffodus ers y dyddiau gogoneddus hynny, tydy pobl ddim yn defnyddio’r wefan gymaint mwyach ac mae nifer y bobl sy’n cofrestru ar ei chyfer wedi lleihau. Fe wnaeth nawdd hysbysebion ddod i ben yn fuan iawn a doedd dim modd ychwanegu nodweddion. Bellach, ynghyd â’r rhagolygon am ffioedd yn gysylltiedig â GDPR, mae hi’n amser dod â phethau i ben.

    Rydym ni’n mawr obeithio daw rhywun i’n hachub o’r tywyllwch, fodd bynnag yn yr achos tebygol na fydd hynny yn digwydd, byddwn yn dod â phethau i ben ar y 24ain o Fai.

    Diolch i bawb wnaeth gyfrannu tuag at Clecs. Yr holl bobl wnaeth ddod yn ffrindiau, y sgyrsiau a’r hwyl gafodd pawb a’r cariad oedd yn amlwg tuag at yr iaith Gymraeg.

    Diolch ichi am y daith hon

     
  • Sioned Mills 9:39 AM ar 15 May 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , ,   

    Haclediad 68: Google Assiffestant 

    Ar bennod ddiweddaraf eich hoff bodlediad shambolic bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod y Google assistant newydd; Pam fod textio ar Android yn ofnadwy, Apple Watch Iest, trip Bryn i Ferlin ac ongoing obsesiwn Sioned efo ffilm lled-wael o 2015. Yr hyn oll o’r podlediad sy’n cynnig barn heb wybodaeth, joiwch!

    Dolenni

     
  • Rhos Prys 12:47 PM ar 8 May 2018 Dolen Barhaol | Ateb  

    Common Voice – technoleg llais Cymraeg 

    Mae rhaglen Common Voice, Mozilla, yn anelu i gynyddu’r data ar gyfer technoleg llais mewn ieithoedd gwahanol ac ar drwyddedau rhydd. Hyd yma mae technolegau llais wedi bod ar gael drwy Alexa, Cortana, Siri ac ati, ond mae cyfyngiadau ar hawlfraint a’r niferoedd yr ieithoedd i’r modelau hyn.

    Er bod y rhaglen wedi cychwyn gyda’r Saesneg, erbyn hyn mae’r rhaglen yn cynnwys dros 45 o ieithoedd o Fengaleg i Wsbeceg, gan gynnwys y Gymraeg, Cernyweg a’r Wyddeleg.

    Drwy arddel trwydded agored a defnyddio dull torfoli mae Mozilla’n gobeithio ehangu’r nifer o ieithoedd a’r setiau data llais sydd ar gael. Y bwriad yw cael swmp sylweddol o ddata drwy wahodd unigolion i recordio eu lleisiau yn darllen brawddegau penodol yn eu hiaith. Mae hefyd galw ar i bobl wirio lleisiau pobl eraill er mwyn sicrhau fod ansawdd y ffeiliau sain yn addas. Bydd Mozilla’n darparu’r setiau data ar gael yn rhad a rhydd fel bod modd datblygu technoleg llais yn eang.

    Os ydych yn gweld cymhariaeth gyda Phaldaruo, gwaith yr Uned Technolegau Iaith, Canolfan Bedwyr mae’n wir dweud fod yr Uned wedi cydweithio’n agos gyda Mozilla i ddatblygu Common Voice. Mae hwn yn gyfle i ehangu ar waith yr uned ac i bobl gyfrannu rhagor o frawddegau llais tuag at yr amcan o gael technoleg llais yn Gymraeg.

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel