Mae’r wefan yn darparu gwybodaeth am amryw o raglenni, gwasanaethau ac offer cyfrifiadurol sydd ar gael yn Gymraeg. Mae’n rhyfeddol gweld gymaint o offer ar gael ar gyfer y defnyddwyr Cymraeg. Mae’r wefan ar gael yn Saesneg hefyd. Mae ‘na rhagor i’w gweld yn Meddal.com… 😉
Categori: newyddion
LibreOffice 7.1 Newydd
LibreOffice 7.1 yw’r fersiwn mawr diweddaraf, mae’n cynnig gwell perfformiad, gwell cydnawsedd, a llawer o nodweddion newydd i roi hwb i’ch gwaith. Edrychwch ar y fideo isod am drosolwg – ac yna sgrolio i lawr am ragor o fanylion… https://youtu.be/PLutwM8XKvo Yn gynt, llyfnach a chlyfrach Mae LibreOffice 7.1 yn cynnwys gwelliannau perfformiad cyffredinol: gweithrediadau canfod/amnewid,… Parhau i ddarllen LibreOffice 7.1 Newydd
Ymgyrch #DefnyddiaDyLais Common Voice Cymraeg
Mae staff mudiadau sy’n hyrwyddo’r Gymraeg yn ymuno mewn her fawr dros y ‘Dolig i gyfrannu 50 awr o leisiau at Common Voice Cymraeg, sy’n datblygu’r Gymraeg ym maes technoleg clyfar. Bydd staff ac aelodau yr Urdd, Comisiynydd y Gymraeg, yr Eisteddfod Genedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, Nant Gwrtheyrn, Clybiau Ffermwyr Ifanc, Mudiad Meithrin,… Parhau i ddarllen Ymgyrch #DefnyddiaDyLais Common Voice Cymraeg
WordPress 5.6 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WordPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau drwy gyfrwng blociau newydd, amrywiol a thema newydd Twenty Twenty One. Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld mewn lliw, gyda lluniau drwy’r eicon WordPress ar gornel uchaf ar y… Parhau i ddarllen WordPress 5.6 Newydd
WordPress 5.5 Newydd
Mae’r fersiwn diweddaraf newydd ei gyflwyno ac ar gael ar eich gwefan WordPress neu ar wefan WoesPress.org. Mae’n cynnig gwelliannau ym meysydd cyflymder, chilio a diogelwch. Bydd unrhyw linynnau testun newydd yn cael eu trosglwyddo i WordPress.com ar gyfer defnyddwyr Cymraeg fanna hefyd, Diolch i Carl Morris am ei gefnogaeth. Dyma’r cyflwyniad (mae i’w weld… Parhau i ddarllen WordPress 5.5 Newydd
Newyddion Common Voice Chwefror 2020
Gŵyl Dewi Hapus i bawb! Cyfraniadau Erbyn heddiw, 2 Mawrth mae’r ffigyrau cyfraniadau fel â ganlyn: Recordio: 79 awr Gwrando: 63awr Cyfranwyr: 1172. Mae cynnydd o ddwy awr yn yr oriau dilysu wedi bod ond mae’r cyfraniadau recordio wedi aros yr un â diwedd Ionawr. Mae’n beth da ein bod yn dechrau cau’r bwlch rhwng… Parhau i ddarllen Newyddion Common Voice Chwefror 2020
Firefox 73 – beth sy’n newydd
Mae Firefox wedi ryddhau fersiwn newydd o’u porwr gwe poblogaidd. Mae’r newidiadau yn fersiwn 73.0 yn llai nag arfer. Maen nhw’n cynnwys cywiriadau diogelwch yn ogystal â dwy brif nodwedd newydd. Bydd yn cael ei ddiweddaru’n awtomatig neu mae ar gael o wefan Cymraeg Firefox yn: https://www.mozilla.org/cy/firefox/new/ 1. Rhagosod Chwyddo Tudalen Cyffredinol Gall defnyddwyr Firefox… Parhau i ddarllen Firefox 73 – beth sy’n newydd
LibreOffice 6.4
Mae fersiwn newydd o LibreOffice wedi ei ryddhau yn cynnwys nifer o nodweddion newydd. Dyma’r manylion: Gweithiwch yn gynt, gyda mathau amrywiol o ffeiliau Mae cydnawsedd â Microsoft Office wedi ei wella’n sylweddol, yn arbennig ar gyfer ffeilia DOCX, PPTX ac Excel 2003 XML. Yn y cyfamser, yn Calc, mae’r perfformiad wedi gwella ar gyfer… Parhau i ddarllen LibreOffice 6.4
Y Microsoft Edge Newydd :-)
Diweddariad *Mae modd diweddaru i’r Microsoft Edge newydd a defnyddio’r rhyngwyneb Cymraeg* Diolch i wefan cymorth Microsoft GB mae rhyngwyneb Cymraeg ar yr Edge newydd. Dyma sut mae ei gael i weithio: Mynd i Settings (clicio ar y byrgyr)>Language>Add language > Dewis y Gymraeg, yna clico ar y Tri dot > Display Microsoft Edge in… Parhau i ddarllen Y Microsoft Edge Newydd 🙂
Linux Mint 19.3
Pob chwech mis mae’r dosbarthiadau mawr Linux yn diweddaru eu hunain, gan gynnig gwelliannau a’r meddalwedd diweddaraf. Yn yr achos yma ryddhaodd Linux Mint eu fersiwn newydd 19.3 “Tricia” ym mis Rhagfyr. Mae manylion am y diweddariad i’w gael ar wefan Linux Mint a chyfarwyddiadau ar sut i’w ddiweddaru o 19.2. Fersiwn Cinnamon sy’n cynnwys… Parhau i ddarllen Linux Mint 19.3