Pa hashnod ddylwn i ddefnyddio am raglen teledu Saesneg?

Problem: dw i eisiau postio a darllen trydariadau yn Gymraeg am raglenni teledu mewn ieithoedd eraill (iawn, Saesneg). Ond os dw i’n edrych at yr hashnod swyddogol mae miloedd o drydariadau eraill mewn ieithoedd eraill (Saesneg yn bennaf). Mae’r sgwrs yn Gymraeg yn boddi yn y stwff arall. Dyna’r math o beth allai gwasanaeth fel… Parhau i ddarllen Pa hashnod ddylwn i ddefnyddio am raglen teledu Saesneg?

S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol

Ychydig bach yn hwyr gyda’r cofnod yma ond dw i wedi bod yn ddarllen am Wildseed ac S4C Masnachol. Wildseed Studios yn cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C: Mae Wildseed Studios wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd gan gangen fasnachol S4C sy’n rhoi cyfran sylweddol i’r darlledwr yn y cwmni, a sedd ar eu bwrdd. Mae… Parhau i ddarllen S4C Masnachol a Wildseed: cyfleoedd i bobl creadigol

RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru

Dw i newydd ddarllen y neges e-bost isod oddi wrth Golyg. Annwyl gyfaill, Mae’n ddrwg gen i gyhoeddi fod Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru, wedi dod i ben oherwydd galw isel. Hoffwn hefyd ymddiheuro am y modd daeth y traciwr i ddiwedd mor sydyn rhai dyddiau yn ôl. Rhannwyd dros 4,000 o… Parhau i ddarllen RIP Golyg, y gymuned rhannu rhaglenni teledu o Gymru

XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg

Mae XBMC yn feddalwedd canolfan amlgyfrwng a difyrrwch digidol(!). Mae ar gael ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux a nawr yn Gymraeg! 🙂 Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwylio rhaglenni oddi ar y we, lluniau personol a chasgliadau o gerddoriaeth.  Mae’n feddalwedd perffaith ar gyfer creu peiriant sy’n ganolfan amlgyfrwng gan gynnal nifer… Parhau i ddarllen XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg

S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau

Dw i wedi sylwi ar ddau ddatganiad S4C am ddatblygiadau digidol yn ddiweddar. Yn gyntaf S4C yn sôn am y prosiect PyC: […] Mae S4C yn cyd-weithio â BBC Cymru Wales i ddangos cyfres ddrama newydd fydd yn cael ei darlledu ar wefan S4C yn unig. Mae cynhyrchwyr Pobol y Cwm, BBC Cymru Wales, yn… Parhau i ddarllen S4C: drama aml-blatfform PyC a gemau Cymraeg ar gonsolau

i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?

Mae gŵyl i-docs ar fin dechrau ym Mryste. Yno byddan nhw’n trafod y diweddaraf yn y byd ffilmiau dogfen rhyngweithiol. Dwi’n ffeindio’r maes yma’n gyffrous iawn ar hyn o bryd, er bod na elfennau ohono sydd yn gwneud i fi deimlo ei fod yn ddefnydd ryngweithio am y rhesymau anghywir, a bod yna fformiwla o… Parhau i ddarllen i-docs: choose your own adventure mk.2, neu ddyfodol ffilmiau dogfen?

Wedi 7 a @llef yn trafod technoleg, y we Gymraeg a Hacio’r Iaith ar #s4c

http://www.s4c.co.uk/clic/c_level2.shtml?series_id=454513805 (dolen yn dod i ben mewn 6 diwrnod) Mae’r sgwrs yn dechrau 08:00. Sgwrs da iawn, mwy plis! Oes lle am raglen reolaidd ar y teledu i drafod defnydd o dechnoleg mewn cymdeithas ac yng Nghymru, y heriau, y problemau, y cyfleoedd (yn hytrach na jyst gadjets newydd)?

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , ,

Awdurdod S4C yn cyhoeddi Adroddiad Turner

Mae Awdurdod S4C heddiw (dydd Mawrth 29 Tachwedd) wedi cyhoeddi Adroddiad Richie Turner yn dilyn ei Adolygiad o Effeithlonrwydd ac Arloesedd y Sianel. Mae’r Awdurdod hefyd wedi cyhoeddi eu hymateb i’r argymhellion a wneir yn yr Adroddiad. […] Adroddiad PDF http://s4c.co.uk/abouts4c/authority/downloads/adrodd_report.pdf Datganiad http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=581

S4C: ymgynghoriad cyhoeddus ar adroddiad y Fforwm Cyfryngau Newydd

Eleni dw i wedi bod yn ymgynghori’r Awdurdod S4C fel aelod o’r Fforwm Cyfryngau Newydd. Mae S4C newydd cyhoeddu’n hadroddiad: http://www.s4c.co.uk/cyfryngaunewydd/pdf/fforwm_cyfryngau_newydd.pdf Datganiad y wasg http://www.s4c.co.uk/c_press_level2.shtml?id=578 Mae manylion am yr ymgynghoriad cyhoeddus yma, dylet ti anfon dy feddyliau os oes gyda ti arbenigaeth sy’n berthnasol i’r bywyd digidol S4C: http://www.s4c.co.uk/cyfryngaunewydd/

Sylwadau Jonathan Edwards am syniad teledu lleol Jeremy Hunt

[…] Plaid MP Jonathan Edwards accused Mr Hunt of “living in the past” and said investment should go into Wales’ “three core TV channels” and also support the development of multimedia services in English and Welsh. He said: “While we in Wales are looking forward to improved broadband access, internet TV and the future, it… Parhau i ddarllen Sylwadau Jonathan Edwards am syniad teledu lleol Jeremy Hunt