Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr

Dw i newydd glywed am brosiect archif y BBC i gefnogi pobl gyda dementia a’i gofalwyr. Mae’n swnio fel ffordd dda o sbarduno sgyrsiau mewn ffordd naturiol gyda phobl drwy fanteisio ar hen glipiau mewn system atgofion (gadewch sylw isod os oes term gwell na ‘system atgofion’). Dyma’r esboniad o’r wefan: Welcome to the BBC… Parhau i ddarllen Defnyddio archif cyfryngol i gefnogi pobl gyda dementia a gofalwyr

BBC yn lladd Geiriadur Ar-lein

Mae BBC newydd dynnu eu geiriadur Cymraeg-Saesneg i lawr. Mae’n anodd deall y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniad yma, sef diffyg gallu i gefnogi’r technoleg yn y cefndir. Mantais y geiriadur BBC oedd y rhyngwyneb syml. Dw i’n ymwybodol bod cyfieithwyr proffesiynol a defnyddwyr amatur yn ogystal yn ei ddefnyddio fel ffynhonnell ddibynadwy trwy’r dydd. Ddylen… Parhau i ddarllen BBC yn lladd Geiriadur Ar-lein

Datblygu radio personol, osgoi'r Archers a mwy

Dyma cofnod blog difyr am ddefnydd o Raspberry Pi a chod agored i hacio meddalwedd/caledwedd radio personol at eu gilydd. Maent yn datblygu botwn i osgoi’r Archers ond mae modd gwneud newidiadau i’r prototeip. Felly os oes elfen fach o BBC Radio Cymru sydd ddim at eich dant, dyma’r dyfais radio i chi. 🙂

Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd

BBC heddiw yn dweud: BBC Cymru Wales yn cyhoeddi cynlluniau i ddatblygu “Cymru Fyw” – gwasanaeth ar-lein newydd yn Gymraeg fydd yn gyfoes ac unigryw Mae BBC Cymru Wales heddiw wedi cyhoeddi buddsoddiad newydd sylweddol yn eu gwasanaethau digidol ar-lein yn Gymraeg gyda chynlluniau i ddatblygu gwasanaeth newydd o’r enw Cymru Fyw. Bydd y gwasanaeth,… Parhau i ddarllen Cymru Fyw: gwasanaethau BBC ar-lein newydd

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol Cofnodion wedi'u tagio

#creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol

Dwi yng nghynhadledd #creadigidol yng Nghaernarfon heddiw (ond mae ar y we ac yng Nghaerdydd hefyd). Dwi newydd gyflwyno ar y pwnc uchod felly meddwl baswn i’n postio dolenni i’r cyflwyniad yma. Mae wedi bod yn ddiwrnod diddorol iawn a dwi’n falch iawn o weld bod lot o’r pryderon oedd gen i yn y cyflwyniad… Parhau i ddarllen #creadigidol – Dadansoddiad Mewnol-Allanol (SWOT) o’r Cyfryngau Cymraeg Digidol

Adeiladu platfformau sydd yn hybu creadigrwydd gan @davidgauntlett

Dyma cofnod blog diddorol gan David Gauntlett gydag wyth egwyddor bwysig os wyt ti eisiau adeiladu/defnyddio platfform ar-lein i sbarduno creadigrwydd. http://www.digitaltransformations.org.uk/building-platforms-for-creativity-eight-principles/ Daeth David Gauntlett i ambell i gyfarfod Fforwm Cyfryngau Newydd gyda ni llynedd. Mae fe’n awdur y llyfr Making Is Connecting.

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio , , ,

RIP BBC Cylchgrawn

Mae prinder o stwff diwylliannol ar y we Gymraeg fel y mae. Roedd BBC Cylchgrawn yn adran o ansawdd gydag amrywiaeth o stwff. Nawr mae BBC newydd lladd yr adran. Mae cyfrannwr yn dweud: Ers cyhoeddi’r lluniau llawen uchod, derbyniais air gan fy ngolygydd ar wefan BBC Cylchgrawn, Glyn Evans, yn diolch am fy nghyfraniad… Parhau i ddarllen RIP BBC Cylchgrawn

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio ,