Hacio’r Iaith yn llawn

DIWEDDARAF: gallwn ni fynd fyny at 50 person nawr! Diolch i Brifysgol Aberystwyth. Mae’r digwyddiad Hacio’r Iaith yn llawn. Mae 40 person wedi sgwennu ei enwau ar y wici. Os wyt ti eisiau rhoi dy enw ar y rhestr aros, ti’n gallu. Allwn ni ddim cymryd mwy oherwydd maint ystafelloedd a thefniadau bwyd. Fel arall,… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith yn llawn

Sesiwn hacio / stwnsho

Wnes i ebostio pobol am sesiwn hacio / stwnsho. Ond dw i eisiau agor y neges i bawb: Dros y prynhawn, dyn ni eisiau wneud sesiwn ymarferol gyda hacio/stwnsho. Basai’n neis os dyn ni’n gallu gwneud rhywbeth newydd – e.e. gyda porthiannau, mapiau, cod agored… Dyn ni wedi casglu syniadau amrywiol yma. Mae sesiwn yn… Parhau i ddarllen Sesiwn hacio / stwnsho

Teithio i Aberystwyth: Rhannu Lifftiau

Ydych chi’n dod i Hacio’r Iaith? Wel yn gynta, rhowch eich enw lawr ar y wiki er mwyn cofrestru. Yn ail, ydych chi’n gyrru? Da ni gyd isio trio arbed costau felly bydde’n grêt pe gallech chi gynnig lifft i rywun sy’n dod o’ch cyffiniau chi. Da ni wedi creu adran fach ar y wiki… Parhau i ddarllen Teithio i Aberystwyth: Rhannu Lifftiau

Cyflwyniad Hacio’r Iaith

Ysgrifenodd Rhys Wynne cyflwyniad da i’r profiad Hacio’r Iaith ar ei flog: http://gwenudanfysiau.blogspot.com/2010/01/digwyddiad-hacior-iaith-llai-nai-thair.html

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Cyfryngau Cofnodion wedi'u tagio

Allet ti helpu?

Dyn ni i gyd yn trefnu Hacio’r Iaith gyda’n gilydd fel cymuned. Mae tudalen tasgau bach gyda ni. Ewch i’r tudalen wici Hacio’r Iaith os ti eisiau helpu. Diolch am eich cefnogaeth! http://hedyn.net/pethau_allech_chi_wneud Dyn ni dal yn sgwennu syniadau a manylion eraill ar y prif dudalen hefyd. http://hedyn.net/hacio_r_iaith

Yn cyhoeddi…Y Poster

Felly dyma’r poster ar gyfer y digwyddiad. Kudos *hiwj* i Iestyn Lloyd yn Sbellcheck (ac un o gyfrannwyr diweddara Metastwnsh) am ddylunio fo i ni, ac am wneud y logo bach cŵl yn y gornel dop chwith. Dwi’n siwr bydd y digwyddiad yr un mor ôssym, os ychydig llai sinematig, na’r poster. Revenge of the… Parhau i ddarllen Yn cyhoeddi…Y Poster