Tro cyntaf i mi gyfrannu: gobeithio bod y pwnc yn berthnasol. Cefais fy ysbrydoli gan y cofnod blog yma gan Robin DeRosa sy’n disgrio’r broses o greu testunlyfr ar gyfer cwrs llenyddiaeth yr oedd yn ei ddysgu. Efallai bod yma syniadau sy’n berthnasol i’r cyd-destun Cymraeg, felly meddwl baswn i’n ei rannu. Mae enghreifftiau arbennig… Parhau i ddarllen Testunlyfrau agored a’r cynffon hir
Tag: addysg
BLOG BYW – SESIWN 2: academia.edu
CarysMoseley yn trafod nodweddion academia.edu, rhywdwaith cymdeithasol ar gyfer academwyr.Rhyngwyneb yn Saesneg yn unig (a ddim yn anhebyg i Facebook – dilyn, postio ayyb), ond mae modd rhannu Paurau academaidd a gosod hysbyseb swyddi. Grwpiau am y Gymraeg arno, tua 60 aelod yn y grwp. Tudalennau ar gyfer sefydliadau hefyd ac mae hwythau yn gallu… Parhau i ddarllen BLOG BYW – SESIWN 2: academia.edu
Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd
Mae bellach modd cofrestru ar gyfer cynhadledd EduWiki 2013, sef ail gynhadledd Wikimedia UK i drafod prosiectau addysgol. Cynhelir y gynhadledd yng Nghaerdydd ar y 1 a 2 o Dachwedd a bydd yn trafod ystod eang o bynciau o Adnoddau Dysgu Agored, Rhaglen Addysgol Wikipedia, asesu ac achredu, tybiaeth feirniadol, llythrennedd digidol a llythrennedd Wikipedia.… Parhau i ddarllen Cynhadledd EduWiki 2013 (Wikipedia mewn Addysg): Caerdydd, 1 a 2 Tachwedd
Sesiwn 2a : Gareth Morlais – Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg
Wedi ei groesbostio o flog Gareth: 1. Hidl iaith wrth bori a chwilio rhestri o lyfrau, elyfrau, cerddoriaeth, ayb mewn siopau ar-lein 2. Y Gymraeg yn ‘iaith chwylio’ 3. Cynnig yr opsiwn o’r Gymraeg wrth fewnlwytho meddalwedd pan mae’r iaith ar gael (gweler traethawd Jeremy Evas ar Nudge Theory) 4. Cynnig cymorth neu rhoi pwysau… Parhau i ddarllen Sesiwn 2a : Gareth Morlais – Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg
‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru
Chydig o newyddion gan y Llywodraeth am ddatblygiadau defnydd technolegau newydd ym myd addysg Cymru: Ym mis Mawrth 2012, cyhoeddwyd adroddiad y grŵp (Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Addysgu Digidol yn yr Ystafell Ddosbarth), ‘Canfod, gwneud, defnyddio, rhannu: dysgu yn y Gymru ddigidol’, a oedd yn cynnwys deg argymhelliad pwysig. Er mwyn sicrhau bod strategaeth… Parhau i ddarllen ‘Hwb’ ar ei ffordd i addysg yng Nghymru
Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru
Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd. Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl… Parhau i ddarllen Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru
Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr
Dyma stori o adran newyddion gwefan Prifysgol Glyndŵr: Bydd gwyddonwyr cyfrifiadurol o Brifysgol Glyndŵr yn dysgu rhaglennu cyfrifiadurol i ddisgyblion o saith ysgol yng ngogledd Cymru ar ôl ennill gwobr addysg o fri. Mae’r brifysgol yn un o ddim ond 31 corff yn y DU, a’r unig un yng Nghymru, i dderbyn Bwrsari Addysg gan Gymdeithas… Parhau i ddarllen Arbenigedd cyfrifiadurol Prifysgol Glyndŵr i lunio cenhedlaeth newydd o raglenwyr
Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012
Dyma stori wedi ei chymryd o adran newyddion gwefan Coleg Llandrillo: Myfyrwyr Smart Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o ddisgyblion blwyddyn naw Ysgol Glan y Môr ac Ysgol Botwnnog ddiwrnod ar gampws Coleg Meirion- Dwyfor ym Mhwllheli yn cymryd rhan mewn gweithdy technoleg unigryw. Cafodd y myfyrwyr ddysgu am hanfodion creu apiau ar gyfer ffonau a… Parhau i ddarllen Myfyrwyr Smart Pen Llŷn a gweithdai app #steddfod2012
[Sut?] GMail yn y Gymraeg
Fideo bach i ddangos sut mae gosod GMail i fod yn y Gymraeg!
Gwerddon: cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae rhywun yn y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi gofyn i fi pasio’r neges isod ymlaen: Ron i’n gweld dy fod yn cymell pob academydd i gael gwefan fel Bobi Jones ac felly roeddwn yn meddwl efallai y byddai gennyt ddiddordeb yn http://www.gwerddon.org sef cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol? ‘Da ni’n lawnsio gwefan hollol newydd… Parhau i ddarllen Gwerddon: cyfnodolyn ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol