Sesiwn 2a : Gareth Morlais – Chwe uchelgais ar-lein i’r iaith Gymraeg
Wedi ei groesbostio o flog Gareth:
1. Hidl iaith wrth bori a chwilio rhestri o lyfrau, elyfrau, cerddoriaeth, ayb mewn siopau ar-lein
2. Y Gymraeg yn ‘iaith chwylio’
3. Cynnig yr opsiwn o’r Gymraeg wrth fewnlwytho meddalwedd pan mae’r iaith ar gael (gweler traethawd Jeremy Evas ar Nudge Theory)
4. Cynnig cymorth neu rhoi pwysau ar gwmniau pan nad oes mynediad i’r Gymraeg.
5. Gwersi ac adnoddau codio drwy gyfrwng y Gymraeg.
6. Mwy o wefannau Cymraeg.
Nodiadau o’m cyflwyniad yn Hacio’r Iaith #haciaith 2013 https://haciaith.cymru/
Beth hoffech chi ei weld?
Yn enwedig efallai dw i’n gallu ychwanegu ychydig mwy o rhyngweithio – ar hyn o bryd yr unig pethau sy’n symud ydy’r chwilio a dolenni fel ffefryn/aildrydaru ayyb ar y trydariadau (popeth yn Gymraeg!).
Dw i wedi meddwl am sylwadau ar adolygiad.com neu botymau Hoffi ayyb. Ddim yn siwr os dw i eisiau creu cynnwys newydd ar adolygiad.com fel sylwadau. Os mae pobol eisiau ateb maen nhw yn gallu postio ar Twitter beth bynnag gyda’r tag.