Datblygu radio personol, osgoi'r Archers a mwy

Dyma cofnod blog difyr am ddefnydd o Raspberry Pi a chod agored i hacio meddalwedd/caledwedd radio personol at eu gilydd. Maent yn datblygu botwn i osgoi’r Archers ond mae modd gwneud newidiadau i’r prototeip. Felly os oes elfen fach o BBC Radio Cymru sydd ddim at eich dant, dyma’r dyfais radio i chi. 🙂

Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru

Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd. Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl… Parhau i ddarllen Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru