Tagiwyd fel: meddalwedd rydd Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 4:23 PM ar 6 September 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , , , meddalwedd rydd,   

    Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru 

    Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd.

    Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl cyfle i ddefnyddio’r ddyfais mewn ysgolion a cholegau – ac yn y Gymraeg. Bydd busnesau yn manteisio ar yr ‘ecosystem’ posib o gwmpas y ddyfais, yn bendant. Pwy fydd y Red Hat o’r Raspberry Pi? Efallai rhywun yng Nghymru…

    Rydyn ni wedi siarad am y Raspberry Pi yma o’r blaen. Gwylia’r fideo isod (o fis Mai eleni) os dwyt ti ddim yn gyfarwydd ar y ddyfais.

     
  • Carl Morris 12:41 PM ar 29 May 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , electroneg, , meddalwedd rydd, ,   

    Cipolwg cyffrous ar Raspberry Pi 

    Dw i wedi bod yn aros yn y ciw yn RS Components am fy Raspberry Pi. Diolch i Rhys W a’i Raspberry Pi am fy nghipolwg cyntaf uchod.

    Raspberry Pi – rhagor o wybodaeth

    Diolch i bawb am ddod i Hacio’r Iaith Bach yng Nghaerdydd neithiwr i drafod newyddion lleol, blogiau a phethau eraill.

     
    • Rhys Wynne 1:33 PM ar 29 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Fideo arbennig – sgwrs ddifyr ac ansawdd sain da iawn hefyd ar y ffon.

    • Carl Morris 12:45 AM ar 30 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Wel o’n i eisiau wneud fideo Cymraeg am y Raspberry Pi!

      Mae tudalen fach ar Hedyn bellach: http://hedyn.net/wici/Raspberry_Pi_Cymraeg

      Mae awdio yn wan ar lot o ddyfeisiau bach fel ffonau, FlipCam ayyb. Sut fi’n (trio) wneud fideo clir:
      1. cer i rywle dawel – tu allan os ydy’r lle yn swnllyd fel Chapter
      2. agos (…a phersonol) i’r person
      3. wynebu’r person

    • Owain Hughes 1:26 PM ar 16 Rhagfyr 2013 Dolen Barhaol

      Helo Carl

      Wyt ti’n gwybod os fod rhywun wedi datblygu fersiwn Cymraeg o declynnau meddalwedd fel ‘Coder’ i’r Raspberry Pi eto?

    • Carl Morris 2:26 PM ar 16 Rhagfyr 2013 Dolen Barhaol

      Nac ydw, dw i ddim yn gwybod. Dw i ddim wedi clywed unrhyw sôn am fersiwn Cymraeg.

    • Siôn Hughes 8:46 AM ar 2 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      A oes galw am feddalwedd Cymraeg i’r Pi? Ydi ysgolion yn ei defnyddio nhw gymaint a sydd yn cael ei son am yn yr wasg? Os fysa fwy o ysgolion yn ei defnyddio efallai fysa prosiect Pi Cymraeg yn un gwerthfawr. Effallai ddylie cael sesiwn Pi yn Hacio’r Iaith 2014?

    • Carl Morris 11:49 PM ar 6 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Oes, dw i’n meddwl. Yn enwedig achos dw i newydd gael Pi fel anrheg Nadolig!

      Dylen ni gael sesiwn Pi yn bendant!

    • Siôn Hughes 8:30 AM ar 7 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Dwi’n hapus cyfrannu lle fedrai i sesiwn Pi. Rwyf wedi bod yn chwarae gyda’m Pi ers tua 18 mis, ac yn gweithio yn yr maes embedded/Linux.

    • Huw 10:39 AM ar 7 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Siaradais â chydweithwir ddim mor hir yn ôl sydd yn gweithio ar brosiect Technocaps – dywedodd bod hi’n reit hawdd creu/addasu dosbarthiad (distro) Linux newydd.

      Os yw pethe fel Technocamps yn mynd o nerth i nerth, ni fydd yn syniad rhy ffol.

    • Illtud 11:27 AM ar 7 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Ges i un Dolig, ac yn defnyddio nhw yn y gwaith, byswn i’n hoffi gweld sesiwn, a helpu os galla’i.

    • Sion Hughes 11:07 AM ar 12 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Sut sesiwn ddylia cael ei rhedeg ar yr Pi? Un cyffredin ar yr Pi, ta rhywbeth mwy arbenigol?

    • Carl Morris 5:11 PM ar 14 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Gallen ni wneud y ddau – efallai rhannu mewn dau grŵp mewn corneli o’r un stafell?

  • Carl Morris 1:01 PM ar 24 November 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , meddalwedd rydd,   

    Gwefan Comisiwn Silk yn defnyddio WordPress 

    Gwefan Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru http://comisiwnarddatganoliyngnghymru.independent.gov.uk/

    independent.gov yw’r enw parth ar gyfer cyrff hyd-braich a gwefannau dros dro eraill (nid awgrym o argymhelliad y comisiwn ar ddatganoli…)

    Cefndir gan y datblygwyr gan gynnwys nodiadau am ddefnydd o WPML er mwyn rhedeg gwefan dwyieithog http://puffbox.com/2011/11/24/small-site-big-name/

     
  • Carl Morris 5:13 PM ar 28 October 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , GNU, , meddalwedd rydd, patentau meddalwedd, RMS   

    Waa! Richard Stallman yn areithio yn Aberystwyth mis yma 

    Bydd Richard Stallman, tad y mudiad meddalwedd rydd, yn siarad am beryg patentau meddalwedd yn Aberystwyth.

    31 mis Hydref 2011
    4PM – 7PM
    Y Theatr, Canolfan Celfyddydau Aberystwyth, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, SY23 3DE

    Mwy o wybodaeth: http://www.fsf.org/events/20111031-dsp-aberystwyth

    Llun gan pablojcoloma (CC)

     
  • Carl Morris 12:35 AM ar 29 September 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , , meddalwedd rydd,   

    Trwydded gyhoeddus gyffredinol GNU (GPL yn Gymraeg) 

    Dw i newydd ffeindio GPL 2.0 yn Gymraeg(*)

    Felly dw i wedi ailgyhoeddi e.
    http://hedyn.net/trwydded_gyhoeddus_gyffredinol_gnu_gpl_yn_gymraeg

    Mae trwyddedau yn mor bwysig. Mae fe’n rhan o adran Hedyn newydd, Trwyddedau.

    Dros rhyddid.

    (*) ffeindiais i GPL Cymraeg yn yr ystorfa WordPress, diolch Iwan, pwy wnaeth e?

     
    • Dafydd Tomos 9:25 AM ar 29 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Dwi’n meddwl falle mai Jim Killock (Open Rights Group) wnaeth y cyfieithiad cynta?

    • Carl Morris 12:48 PM ar 29 Medi 2010 Dolen Barhaol

      Ah fi di weld e o gwmpas. Chwarae teg.

      Ces i chwiliad bach ond mae 1 neu 2 o brojectau Cymraeg fe wedi mynd i’r dwylo sbamwyr “what you want when you want it”…

  • Carl Morris 12:50 PM ar 17 July 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , meddalwedd rydd, , ,   

    Dadl am WordPress, themau, meddalwedd rydd a GPL 

    http://thenextweb.com/us/2010/07/15/the-deeper-issues-behind-the-wordpress-ordeal/

    Os ti’n adeiladu themâu ar WordPress a dosbarthu nhw dylet ti ddefnyddio’r drwydded GPL hefyd. Darllena’r drwydded – mae’n syml!

     
  • Carl Morris 12:47 PM ar 1 July 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , meddalwedd rydd,   

    Toriadau yn y sector cyhoeddus a’r mantais meddalwedd rydd / cod agored 

    http://puffbox.com/2010/06/24/open-source-acknowledgement/

     
  • Carl Morris 5:13 PM ar 17 June 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: meddalwedd rydd,   

    WordPress 3.0 ar gael heddiw 

    http://wordpress.org/development/2010/06/thelonious/

    Mae’r cyfieithiad Cymraeg ar y ffordd.

     
  • Carl Morris 3:12 PM ar 9 April 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , meddalwedd rydd,   

    cy.wordpress.org 

    Rydyn ni’n gweithio gyda’r cymuned WordPress ac Automattic ar wefan swyddogol WordPress Cymraeg.
    http://cy.wordpress.org

    Cynllun: rhywle canolog am WordPress Cymraeg. Bydd e’n bosib mynd i cy.wordpress.org a lawrlwytho pecyn Cymraeg heb ffwdan.

    1. Mae’r wefan cy.wordpress.org yn rhedeg WordPress gyda thema arbennig Rosetta. Dw i dal yn cyfieithu’r thema.

    2. Mae WordPress 3.0 ar y ffordd. Mae fersiwn beta ar gael yn barod. Mae gyda ni tua 2 wythnos i wneud cyfieithiadau rhwng “ymgeisydd rhyddhad” a rhyddhad swyddogol. Rydyn ni’n gallu adeiladu ar gwaith Iwan Standley a Rhos Prys. Felly bydd e’n bosib lawrlwytho’r fersiwn Cymraeg newydd ar yr un tro Saesneg, Sbaeneg a llawer o fersiynau eraill o gwmpas y byd!

    Wyt ti’n gallu helpu? Dweda yn y sylwadau os gwela di’n dda! Does dim angen profiad o flaen llaw. Dylen ni defnyddio Poedit neu meddalwedd debyg.

    Bydd y côd ar gael i bawb wrth gwrs dan trwydded GPL. Mae wordpress.com yn gallu defnyddio’r côd hefyd neu unrhyw gwasanaeth arall.

    Byddi di’n cyfrannu i’r genhedlaeth nesaf Cymraeg arlein, creu cyfleoedd gwaith newydd i dylunwyr/côdwyr ayyb, ysbrydoli pobol eraill a gobeithio dysgu rhywbeth.

     
    • Gruff Prys 11:36 AM ar 12 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Helo Chris, dwi’n meddwl bod fy nhad wedi gorffen cyfieithu WordPress 3, ond mae o wedi bod yn yr Aifft yn ddiweddar. Beth am ei wahodd i redeg cy.wordpress.org efo ti? Fe wnaeth gais i WP i roi pecyn 2.9 i fyny ar wordpress.com, ond gafodd o fyth ateb gan Automattic.

    • Gruff Prys 11:37 AM ar 12 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Chris??? Pwy ydi Chris??? Carl dwi’n feddwl wrth gwrs! Sori!

    • Carl Morris 2:35 PM ar 12 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Iawn, diolch! Nai siarad gyda fe.

  • Carl Morris 7:31 PM ar 2 April 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , meddalwedd rydd   

    Paid prynu iPad 

    fy marn i
    http://quixoticquisling.com/2010/04/paid-prynu-ipad-os-oes-unrhyw-ddiddordeb-gyda-ti-yn-yr-iaith/

    Dw i eisiau prynu uned amgen a datblygu shwmaePad.

     
    • Rhodri ap Dyfrig 3:12 PM ar 4 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Neu Bangor-aye-Pad. Dwi’n gynyddol siomedig nad oes yn 2010 unrhyw ffordd o gael Cymraeg ar yr Apple Mac. Cachu.

    • Alan Chamberlain 11:09 PM ar 4 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Dw i’n chwilio am rywbeth fel gliniadur touchscreen ar hyn o bryd. Wyt ti wedi gweld un rhywbeth fod ti’n lico? Wyt ti wedi gweld y HP TouchSmart tm2t?

    • Carl Morris 12:15 AM ar 5 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Rhodri, ti’n gallu defnyddio Ubuntu a rhyngwyneb GNOME gyda’r lleoleiddiad? Ti’n gallu cael cychwyn-deuol gyda OS X (“the world’s most advanced OS”)?

      Bydd Dafydd, Iestyn, Rhys, Telsa a Thomas yn hapus i ffeindio rhywun arall i helpu hefyd. 🙂
      http://l10n.gnome.org/teams/cy

      Alan, dw i wedi gweld e ond does dim profiad gyda fi. Rhywun arall?

    • Rhodri ap Dyfrig 10:41 AM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Ond dwi ddim eisiau Ubuntu – dwi eisiau Mac! Doeddwn i ddim wir yn hoffi Ubuntu ar yr Eeepc. Sori Linux fans ond mae’n well o lawer gen i Vista neu OS X. Dydi’r ffaith bod o ar gael yn Gymraeg ddim yn deal-breaker o ran dewis pa OS i’w ddefnyddio. Mae’n rhywbeth rhy hanfodol i’r profiad o ddefnyddio’r cyfrifiadur.

    • Carl Morris 1:39 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Iawn, mae gen ti ddewis Rhodri!

      Mae Apple yn creu pethau da, dw i’n deall.

      Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

      Fydd Apple ddim yn arwain. Pwy fydd yn arwain a dylanwadu cwmniau mawr? Côd agored, Linux, Android, mwy na thebyg.

      Ond dydy Apple ddim yn barod eto. Er enghraifft, bydda i’n eitha siomedig os dw i’n gweld iPad yn yr ysgolion Cymraeg. Dydy’r Gymraeg ddim ar gael heblaw nifer bach o apps. Y neges i’r plant yw: dydy Cymraeg ddim yn pwysig yn y byd technoleg.

      “Dylanwad” yw fy hoff gair ar hyn o bryd. Dyma pham dw i’n hoffi Richard Stallman. Oedd e’n afresymol. Creuodd e Free Software Foundation. Dechreuodd e mudiad. Dychmygu byd heb GPL. Dim Linux, dim Firefox, dim WordPress, dim Apache, dim Perl, dim PHP, dim Ruby on Rails…

      Mae newid yn hollol bosib.

      Heddiw? Mae Apple yn hybu eu meddalwedd nhw. Ond mae amgen côd agored Cymraeg yn bodoli. Ydy pobol normal yn gwybod bod amgen yn bodoli? Pwy sy’n hybu’r amgen?

      Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

    • Rhodri ap Dyfrig 4:33 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      >> Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

      Mae byw dy fywyd mewn dull eilradd yn diflasu rhywun weithia. Gorfod gofyn am daflenni yn dy iaith, gorfod cwyno am bopeth…mae defnyddio OS Linux, sydd dal ddim digon hawdd i’w ddefnyddio a’i lwytho yn rhoi profiad cyfrifiadura eilradd.

      Mae’n gachu nad oes gan Apple unrhyw fwriad i gynnwys ieithoedd eraill heb sôn am ieithoedd lleiafrifol, ond dwi ddim yn teimlo bod gen i ddewis. Y dewis yw Windows / Mac, ar hyn o bryd. Efallai y daw Ubuntu i fod yn system sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ar desktops, fel sydd wedi digwydd gyda Android ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae’n or-gymleth, hyd yn oed i gîc (honedig) fel fi.

      Roedd Xandros ar yr Eeepcs i ddechrau – newidiais i o i Eeebuntu, oedd yn Gymraeg. Gret. Gofynnodd y system os o’n i isio diwedaru’r feddalwedd i roi bug fixes. Dwedais ‘ydw’, ond fe lwythodd o fersiwn gyfan o Ubuntu arno yn lle’r fersiwn ysgafn Eeebuntu oedd gen i yn wreiddiol. Dwi rwan wedi gorfod ail-osod Eebuntu (ar drydydd partition achos sgen i ddim clem sut ma gneud y sdwff disg galed na) ac mae’r peiriant yn rhedeg yn araf. Dwi’n galw hynna’n brofiad cwsmer gwael, ac oherwydd mod i wedi trio ei gael yn Gymraeg.

      Oes bai arna i am fynd am yr ‘opsiwn hawdd’, sydd yn anffodus yn brofiad Saesneg? Mae rhywun yn trio byw ei fywyd yn y Gymraeg gymaint ag sydd bosib, ac yn trio bod yn ‘afresymol’. Mae bywyd siaradwr Cymraeg yn ‘afresymol’ yn ôl confensiynau y gymdeithas da ni’n byw ynddi!

      >> Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

      faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu. Dwi o’r farn ar hyn o bryd taw nid y caledwedd na’r feddlawedd sydd bwysig ond meddylfryd y bobol sy’n defnyddio nhw. Ella wedyn fydd pobol ddim yn ofn defnyddio meddalwedd Gymraeg.

    • Carl Morris 5:05 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Trafodaeth dda, dyma pam mae Hacio’r Iaith yn bodoli!

      Dwedais i ‘breuddwyd’ am reswm. Pam lai eh?

      >> faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n
      >> siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu.

      Syniad cyffrous. Mae’n hollol bosib wneud y dau (meddalwedd a phobol). Rydyn ni wedi dechrau yn barod – gobeithio.

      Pwy yw’r blogwr newydd nesaf? Dechrau gyda hedyn bach a thyfu. Dylanwad!

      Dylwn i fynd ond dw i’n meddwl amdano fe yn bendant.
      🙂

    • Huw Waters 4:11 PM ar 28 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Gan mai ‘hacio’ yw hwn, oes rhywun wedi ystyried gwneud hyn i unrhyw ddarn o galedwedd yn ei perchnogaeth? Dwi di bod yn edrych sut i hacio fy nheledu newydd Panasonic Viera a cheisio cael yr EPG yn y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod modd gwneud hyn gan fod rhan o’r feddalwedd yn un cod agored, ac mae pyrth ‘Common Interface’ a cherdyd SD.

    • Carl Morris 11:36 PM ar 28 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Huw, sa’ i’n gwybod ond mae’n werth trio am ychydig o hwyl!

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel