Tyfu cynulleidfa cylchgronau Cymraeg trwy ar-lein – @Dyfrig yn dechrau trafodaeth
Mae Dyfrig Jones yn codi lot o bwyntiau difyr a phrofoclyd am gylchgronau Cymraeg ar-lein ar Cymru Fyw:
[…] mae byd newyddiaduraeth yn wahanol, yn enwedig newyddiaduraeth ar-lein. Dwi’n darllen ystod o gyhoeddiadau ar y we, ac yn gwneud hynny heb dalu’r un geiniog. Chwithig, felly, ydi ymweld â gwefan Barn a gweld erthyglau’n cael eu torri yn eu hanner, neu ddarllen pwt ar wefan Golwg, gyda nodyn ar waelod y dudalen yn fy nghyfeirio at rifyn yr wythnos honno. […]
Mae tipyn o sgwrs wedi bod ar Twitter heno.
Byddai hi’n wych tasai cyhoeddwyr yn gallu ffeindio ffyrdd cynaliadwy o dyfu cynulleidfaoedd o ddarllenwyr am ddim.
Mae wir eisiau datblygu’r maes yn Gymraeg tra bod gwledydd ac ieithoedd eraill wedi cael blynyddoedd o brofi ac arloesi.
Dydy BBC Cymru Fyw ddim yn cynnig sylwadau ond mae croeso i bobl adael sylwadau isod. 🙂
Mae’n bwynt da. Dyw rhestrau Google ‘Local’ ddim ar gael yn Gymraeg. Dyw ‘cyfrif Google’ ddim ar gael (sy’n reit bwysig nawr am ei fod e’n clymu’r holl wasanaethau at eu gilydd). Lle mae Gmail?
O ran y gwasanaeth newydd, mae nhw’n hyrwyddo gwasanaeth adeiladu gwefan yola.com sydd ddim wedi ei adeiladu gyda anghenion amlieithog mewn golwg.
Mi fydd Google yn cydweithio gyda rhai cwmniau lleol fel partneriaid ond mi fyddai hynny ar gyfer busnesau mwy sydd yn gallu fforddio talu miloedd am wefan arbennigol. O ran costau cyfieithu ac ati, roedd Bwrdd yr Iaith arfer cynnig grant ar gyfer gwneud y gwaith. Dwi ddim yn gwybod os yw’r cynllun yma yn parhau, yn enwedig gyda’r Bwrdd yn dod i ben.