Arloesi ar Lawr Gwlad Marged Rhys (Mentrau Iaith Cymru) Cydweithio rhwng Mentrau (e.e. Môn a Sir Ddinbych). Rhannu arbenigedd. Clwb Flogio yn Abertawe, wedi’i ddechrau mewn clwb ieuenctid. 5 menter wedi derbyn grant Arloesi 2050: Cered – Clwb Codio yn y de-orllewin. Hyfforddi hyfforddwyr gwirfoddol lleol Cered – ap Bys a Bawd. Ap reality cymysg yn… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 4 (Ystafell 2)
Tag: fideo
Fyddwch Chi Byth Yn Credu’r Hyn Mae @Nwdls Newydd Ddweud Am Fideo Cymraeg Ar-lein. Yn Enwedig Pwynt 9
Dw i’n postio yma rhag ofn bod pobl wedi methu’r cofnod blog ar Y Twll gan Elidir Jones am gynhyrchu fideo annibynnol a’r sylwadau gan bobl gan gynnwys Rhodri ap Dyfrig.
Heb fod i Hacio’r Iaith ac isio gwybod beth i’w ddisgwyl? Dyma flas i chi…
Fideo gan Aled Mills o Hacio’r Iaith 2012
XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg
Mae XBMC yn feddalwedd canolfan amlgyfrwng a difyrrwch digidol(!). Mae ar gael ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux a nawr yn Gymraeg! 🙂 Mae modd ei ddefnyddio ar gyfer gwylio rhaglenni oddi ar y we, lluniau personol a chasgliadau o gerddoriaeth. Mae’n feddalwedd perffaith ar gyfer creu peiriant sy’n ganolfan amlgyfrwng gan gynnal nifer… Parhau i ddarllen XBMC: canolfan amlgyfrwng ar gyfer Windows, Apple OSX a Linux – yn Gymraeg
Sut i roi fideo ‘Google Streetview Hyperlapse’ ar eich blog
Dyma fideo o bromenad Bae Colwyn wnes i wrth arbrofi gyda Google Streetview Hyperlapse. Does dim sain. clip fideo o blip.tv Nid oedd modd mewnosod fideo i’r post yn y blog yma Os am greu fideo o’r fath o’ch ardal chi: 1. dilynwch y ddolen o http://www.teehanlax.com/labs/hyperlapse/ at y teclyn 2. llusgwch tagiau A a… Parhau i ddarllen Sut i roi fideo ‘Google Streetview Hyperlapse’ ar eich blog
Gangnam Atalnodi: 20,606 o sesiynau gwylio ar YouTube
Dw i’n meddwl am y fideo Gangnam Atalnodi sydd wedi bod ar YouTube ers pump diwrnod ac wedi cael 20,606 o sesiynau gwylio hyd yn hyn. Prin ydyn ni’n gweld ffigur o’i fath ar fideo Cymraeg. Hoffwn i wybod mwy ond pwy bynnag sydd yn rhedeg y cyfrif wedi rhoi cyfyngiad ar yr ystadegau (botwn… Parhau i ddarllen Gangnam Atalnodi: 20,606 o sesiynau gwylio ar YouTube
Profi Vine yn Aberystwyth #ybont
Beth mae pobl yn meddwl am Vine, sef Vine yr ap symudol sydd yn tynnu ‘cerdyn post fideo’ 6-eiliad? Mae’n ddiddorol iawn fel genre o fideo. Does dim fersiwn ar Android eto, dim ond iPhone. Roeddwn ni’n awyddus iawn i drio Vine ar ddigwyddiad theatr Y Bont yn Aberystwyth dydd Sul felly roedd rhai o’r… Parhau i ddarllen Profi Vine yn Aberystwyth #ybont
Seminar #techcy – fideos a sleids y cyflwyniadau nawr ar gael
Mae’r fideos wedi caeleu rhoi arlein o’r 5 cyflwyniad a roddwyd i ddechrau trafodaethau yn y seminar technoleg a’r Gymraeg gynhaliwyd gan y Llywodraeth fis dwetha. Dwi ddim yn meddwl bod y sleids i’w gweld ar y fideos yn anffodus ond gallwch chi lawrlwytho nhw fan hyn. Leighton Andrews Marc Webber Sioned Roberts Huw Onllwyn… Parhau i ddarllen Seminar #techcy – fideos a sleids y cyflwyniadau nawr ar gael
[Sut?] GMail yn y Gymraeg
Fideo bach i ddangos sut mae gosod GMail i fod yn y Gymraeg!
Defnyddio categoriau Wikipedia a meddalwedd adnabod llais ar gyfer tagio clipiau sain a fideo archif yn awtomatig
http://www.bbc.co.uk/blogs/researchanddevelopment/2012/03/automatically-tagging-the-worl.shtml Efallai taw beth sy’n ddiddorol fan hyn o berspectif Cyrmaeg ydi 1) defnyddioldeb ail-law cronfeydd data fel Wikipedia; a 2) pwysigrwydd meddalwedd adnabod llais Cymraeg cryf ar gyfer y dyfodol. Ella bod angen i mi fuddsoddi chydig o amser yn Wicipedia er fy mhryderon amdano.