Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Gyda Hacio’r Iaith yn cyflwyno: Hacio Bach, dan ofal Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor ar 14 Tachwedd 2020, dyma restr o rai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith all helpu i roi syniadau ichi o haciau Cymraeg gallwch chi ddatblygu. Mae prifysgolion yng Nghymru wedi bod yn flaengar wrth ddatblygu adnoddau technoleg iaith a seilwaith ieithyddol… Parhau i ddarllen Lle i fynd i lawrlwytho rhai o’r adnoddau seilwaith technoleg iaith diweddara’ ar gyfer Hacio Bach

Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015. Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg. Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif… Parhau i ddarllen Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

Ma hwn yn ddiddorol iawn. Dwi’n siwr y byddai nifer fawr o bobol sydd yn ymwneud ag ymddiddori yn Hacio’r Iaith â diddordeb mewn cystadlu: Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi cyhoeddi manylion cystadleuaeth arbennig i hybu arloesedd, a fydd yn cychwyn eleni yn Eisteddfod Sir Gâr. Bwriad y gystadleuaeth hon yw annog Cymry o bob oed… Parhau i ddarllen Cyfle i enill £1000 yng nghystadleuaeth arloesedd yr Eisteddfod

META-NET: astudiaethau o sefyllfa technoleg iaith 30 o ieithoedd Ewrop

Mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi gan META-NET, yn edrych ar sefyllfa 30 o ieithoedd Ewrop o ran technoleg iaith. Mae Basgeg, Catalan a Gwyddeleg yn eu plith ond dydy’r Gymraeg ddim gwaetha’r modd. Dyma’r canlyniadau allweddol: http://www.meta-net.eu/whitepapers/key-results-and-cross-language-comparison Gellir llwytho copïau o’r adroddiadau unigol llawn o: http://www.meta-net.eu/whitepapers/index_html

Cyfres @Bryns ar dechnoleg ar flog Golwg360

Mae cyfaill Hacio’r Iaith Bryn Salisbury wedi dechrau sgwennu cyfres ddifyr iawn o erthyglau ar flog Golwg360 am dechnoleg. Un peth sy’n biti mawr efo blog Golwg ydi bod dim un o’r cofnodion yn gwneud y dudalen flaen felly dwi’n amau os ydi llawer o’r darllenwyr cyffredinol yn eu gweld nhw. Dwi’n sicr yn methu… Parhau i ddarllen Cyfres @Bryns ar dechnoleg ar flog Golwg360

Seminar #techcy – fideos a sleids y cyflwyniadau nawr ar gael

Mae’r fideos wedi caeleu rhoi arlein o’r 5 cyflwyniad a roddwyd i ddechrau trafodaethau yn y seminar technoleg a’r Gymraeg gynhaliwyd gan y Llywodraeth fis dwetha. Dwi ddim yn meddwl bod y sleids i’w gweld ar y fideos yn anffodus ond gallwch chi lawrlwytho nhw fan hyn. Leighton Andrews Marc Webber Sioned Roberts Huw Onllwyn… Parhau i ddarllen Seminar #techcy – fideos a sleids y cyflwyniadau nawr ar gael

Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys

Dwi’n credu bod diwrnod Ada Lovelace yn syniad gwych, a dwi di blogio am ddwy ddynes o Gymru sydd wedi bod yn ddylanwadol ym myd technoleg Cymru o’r blaen: Elen Rhys a Delyth Prys. Tro ma dwi’n mynd i sôn am Rhys arall; rhywun sydd yn ysbrydoliaeth ym myd gwyddoniaeth yn ogystal â thechnoleg. Mae… Parhau i ddarllen Fy newis ar gyfer Diwrnod Ada Lovelace: Elin Rhys

Dyfyniad da gan Dave Winer heddiw

I think history has shown over and over, that you must rise to the challenge of new technology, or be marginalized by it. Mae Dave Winer yn siarad am y diwydiant newyddion yma ond wrth gwrs dw i’n meddwl amdanom ni. http://scripting.com/stories/2010/10/12/allTheNewsThatsFitToPrint.html#p2692

Diwrnod Ada Lovelace 2010

Cofnodion heddiw http://metastwnsh.com/diwrnod-ada-lovelace-holi-sioned-edwards/ http://quixoticquisling.com/2010/03/diwrnod-ada-lovelace-danah-boyd/ Unrhyw beth arall yn Gymraeg? Unrhyw ffefrynnau yn ieithoedd eraill?