Tagiwyd fel: Menter Caerdydd Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Rhys Wynne 3:12 PM ar 27 January 2018 Dolen Barhaol | Ateb
    Tagiau: , , , , Menter Caerdydd, PSVR, Wici Caerdydd   

    Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 4 (Ystafell 2) 

    Arloesi ar Lawr Gwlad

    Marged Rhys (Mentrau Iaith Cymru)

    Cydweithio rhwng Mentrau (e.e. Môn a Sir Ddinbych). Rhannu arbenigedd.

    Clwb Flogio yn Abertawe, wedi’i ddechrau mewn clwb ieuenctid.

    5 menter wedi derbyn grant Arloesi 2050:

    Cered – Clwb Codio yn y de-orllewin. Hyfforddi hyfforddwyr gwirfoddol lleol

    Cered – ap Bys a Bawd. Ap reality cymysg yn dod a chymeriadau hwynagerddi.

    Abertawe – ap lles

    Caerdydd – Wici Caerdydd. Cyfers o olygathons are themâu arbennig, gan gynnwys yn ystod Tafwyl, Eisteddfod 2018 a mynd at grwpiau lleol/clybiau ieuenctid.

    RhCT – gêm antur episodig

    Caerffili – (gweler isod)

    Clwb Gemau Fideo, Menter Iaith Caerffili

    Morgan yn ymhelaethu mwy am y grwpiau.

    Sefydlu clwb gemau fideo dwy flynyedd yn ôl, ac yna sefydlu sianel YouTube

    Plant ifanc: Tegannau- Fideos dadfocsio teganau.

    Plant cynradd/uwchradd: Gemau Retro – Disgyblion 6ed dosbarth yn gwirfoddoli yn y grwpiau gemau fideo a golygu fideos, ac mae hyn yn mynd tuag at eu cwrs BAC.

    Creu fideos PSVR.

    Pobl ifanc 16+: YnChwarae. Noson gemau, YouTube, Twitter darlledu’n fyw ar YouTube Gaming a Twitch. Llinell sgwrsio Discord # sgwrs-gyffredinol_cymraeg

     
  • Rhys Wynne 12:17 PM ar 5 April 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , Menter Caerdydd, ,   

    Cyfarfod i drafod ‘Y Dinesydd 24/7’, yn Chapter, Caerdydd 7/4/13 

    Efallai i chi gofio i ni drefnu Hacio’r Iaith Bach: Newyddion lleol yn y ddinas ym mis Mai 2012. Roedd hi’n noson dda. I’r rhai a fynychodd y noson honno, efallai bydd y canlynol o ddiddordeb i chi:

    1. Newyddion a Chwaraeon Lleol
    2. Blogiau
    3. Adolygiadau
    4. Bwytai a Thafarndai
    5. Cymdeithasau a Mudiadau
    6. Rhwydweithiau Cymdeithasol
    7. Busnesau Lleol
    8. Digwyddiadur

    Os yw un neu fwy o’r uchod o ddiddordeb i chi, beth am ymuno â ni’n Chapter, Nos Lun nesaf, Ebrill 7 am 7.30pm

    Mae Menter Caerdydd, mewn parterniaeth â’r Dinesydd a Phrifysgol Caerdydd yn edrych i ddatblygu gwefan newydd a fydd yn hwb cymunedol i’r Brifddinas. Ein bwriad yw datblygu cymuned ar-lein a fydd yn ffynhonell o wybodaeth rhyngweithiol fywiog a pherthnasol i fywyd bob dydd yng Nghaerdydd.

    Hoffem eich gwahodd i’r cyfarfod cyntaf er mwyn casglu barn a phrofiadau cynifer o bobl a phosib, i sicrhau ein bod yn creu gwefan a fydd yn apelio at ystod eang o bobl o bob oed.

    Diolch i Betsan Powys am gytuno i arwain y cyfarfod cyntaf, felly beth am ymuno â ni i drafod a llywio dyfodol y prosiect newydd cyffrous hwn.

    Croeso i bawb.

    Sian Lewis
    Prif Weithredwr/Chief Executive

    Menter Caerdydd
    42 Lambourne Cres
    Llanishen
    Caerdydd
    CF14 2TE

    02920 689888

    Mwy am y wefan arfaethedig mewn erthygl ar Golwg360.

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel