Haclediad 65: Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

Croeso i bennod cyntaf 2018 – yr un lle mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cael mynd i’r byd go iawn. Croeso i bennod ang-nghynhadledd Hacio’r Iaith! Byddwn ni’n siarad efo llwyth o bobl go iawn am vlogio, myfyrwyr Cymraeg Caerdydd, trolls, mapio a peints. Cofiwch pingio neges draw os da chi’n gwrando, neu well… Parhau i ddarllen Haclediad 65: Haciaith 2018 yn fyw o’r Tramshed

Mwy o fenywod? Sut?

Yn y sesiwn olaf Hacio’r Iaith eleni siaradais i am nifer y ‘hacwragedd’ oedd yno. Trwy ddyfalu gyda llygad oedd tua 20-30% sy’n well na’r diwydiant TG yn gyffredinol ond lle i wella. Oedd sgwrs ddiddorol a lot o amser cyn y un nesa i drio pethau i wella… Felly dyna syniadau (dim mewn unrhyw… Parhau i ddarllen Mwy o fenywod? Sut?

Barn #haciaith ar rai o flaenoriaethau a bylchau technoleg #Cymraeg

Mewn sesiwn yn Haciaith eleni, holwyd barn mynychwyr  yr anghynhadledd ar flaenoriaethau a bylchau technoleg Cymraeg. Ymatebodd y rhai  oedd yn y sesiwn ar post-its. O’r cerdiau hynny, dyma naws yr ymatebion, yn nhrefn y nifer o weithiau y soniwyd amdanynt. 8 sylw Cynnig rhagweithiol o’r Gymraeg fel iaith yn ATMs a checkouts uwchfarchnadoedd; gwefannau/platfformau… Parhau i ddarllen Barn #haciaith ar rai o flaenoriaethau a bylchau technoleg #Cymraeg

Hacio’r Iaith 2018 – diolch o galon

Diolch o galon i holl fynychwyr a chyd-drefnwyr Hacio’r Iaith 2018 am ddigwyddiad arddechog ddoe! Byddaf i’n cnoi cil dros eich cyflwyniadau a’r trafodaethau am y flwyddyn i ddod! Pigion Dyma ddetholiad o’r hyn a drafodwyd (sy’n anghyflawn dw i’n gwybod). #haciaith Oni falch o cal bod yna i gynrychioli nid yn unig merched ym… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018 – diolch o galon

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 6 (Ystafell 1)

Cynnwys i blant Rhodri ap Dyfrig a Sioned Mills ar lwyfan i gynnwys Cymraeg A ddylid, fel yn Denmarc, cyhoeddi ar lwyfannau sydd ddim ar gyfer plant? Cynnwys anaddas sy’n ymddangos ar YouTube yn ddiofyn ymysg fideos i blant (e.e. ffilmiau Pepa Pinc gwyrdroedig, hefyd gweler Weird Video’s for kids and gaming the algorithms) Ar… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 6 (Ystafell 1)

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 5 (Ystafell 1)

Dihareb y dydd Gareth Morlais Creu cyfrif Twitter awtomatig Diharhebion. Yn gryno – canfod y testun > twtio > Excel (trefnu, pennu dyddiadau) >WordPress (+amryw ategolion JetPack, ImageInject a mwy) > Twitter Archif Ddarlledu Genedlaethol Illtud Daniel Archif sydd ar y gweill (ond mae cyfrif Twitter) Oherwydd bod BBC yn symud o Landaf, fydd dim… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 5 (Ystafell 1)

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 4 (Ystafell 2)

Arloesi ar Lawr Gwlad Marged Rhys (Mentrau Iaith Cymru) Cydweithio rhwng Mentrau (e.e. Môn a Sir Ddinbych). Rhannu arbenigedd. Clwb Flogio yn Abertawe, wedi’i ddechrau mewn clwb ieuenctid. 5 menter wedi derbyn grant Arloesi 2050: Cered – Clwb Codio yn y de-orllewin. Hyfforddi hyfforddwyr gwirfoddol lleol Cered – ap Bys a Bawd. Ap reality cymysg yn… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 4 (Ystafell 2)

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 3 (Ystafell 1)

Adnabod Lleferydd Dewi (Uned Technoleg Iaith). Cysylltu efo’r Wicipedia Cymraeg er mwyn cael ateb i gwestiynau. Dadansoddi cynnwys Wicipedia. Paldaruo – ap/gwefan casglu lleisiau, angen mwy o leisiau. Hefyd, mae angen pobl i wrando ar recordiau a chadarnhau bod o’n gywir. Coprws fersiwn 4 wedi cael ei ryddhau Gwefan newydd ar sail CommonVoice gan Mozilla Lleisiwr… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 3 (Ystafell 1)

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 2 (Ystafell 1)

[Nid] Yw Hon ar Fap? Data a Mapio Wyn, Carl ac Angharad yn trafod Mapio Cymru, map Cymraeg yn defnyddio Open Street Map. Nod y prosiect, sut mae ychwanegu at y map ac ati (blog yma). Nid yw enw lleoedd Cymraeg (lle mae enw Saesneg hefyd yn bodoli) yn ymddangos ar wefan Open Street Map. Mae’r enwau… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 2 (Ystafell 1)

Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 1 (Ystafell 2)

Sesiwn 1 – Dysgu Cymraeg ar Duolingo Richard Morse, tiwtor Cymraeg i Oedolion, yn adrodd hanes ‘ymgyrchu’ i ychwanegu cwrs Cymraeg ar y llwyfan. Ceisio cefnogaeth, gan gynnwys llythyr at y Prif Weinidog. Memrise (gwasanaeth tebyg) ond yn derbyn un cyfieithiad ar gyfer pob brawddeg – Duolingo’n derbyn mwy. Hyd at 50 gwahanol ffordd o lunio… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2018: Sesiwn 1 (Ystafell 2)