Gangnam Atalnodi: 20,606 o sesiynau gwylio ar YouTube

Dw i’n meddwl am y fideo Gangnam Atalnodi sydd wedi bod ar YouTube ers pump diwrnod ac wedi cael 20,606 o sesiynau gwylio hyd yn hyn.

Prin ydyn ni’n gweld ffigur o’i fath ar fideo Cymraeg. Hoffwn i wybod mwy ond pwy bynnag sydd yn rhedeg y cyfrif wedi rhoi cyfyngiad ar yr ystadegau (botwn graff o dan pob fideo YouTube). Mae’n anodd dweud pwy sy’n gwylio, sawl gwaith maent yn gwylio ac o le maent yn dod ayyb.

Gangnam Atalnodi oedd y fideo cyntaf ar y cyfrif GarthOlwgDigidol – doedd dim dilynwyr ynghynt. Ond dw i’n siwr bod y cysylltiad gyda Gangnam Style yn rhoi hwb o sylw.

Dw i wedi gweld yr erthygl ar Golwg360. Sawl eitem arall sydd wedi bod yn y cyfryngau prif ffrwd?

4 sylw

Mae'r sylwadau wedi cau.