Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg

Dydd Mawrth 16eg mis Hydref 2012 yw Diwrnod Ada Lovelace: Diwrnod Ada Lovelace yw dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Cer i… Parhau i ddarllen Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg

Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

Cwrddais i rywun o Nominet ddoe – roedd e’n rhedeg stondin marchnata ar ran Nominet mewn cynhadledd yn Abertawe. Mae Nominet wedi dechrau ymgyrch marchnata cynnar er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales. Mae angen aros tan fis Mehefin 2013 am ateb oddi wrth ICANN ynglŷn â’r ceisiadau.… Parhau i ddarllen Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Heddiw mae Twitter wedi anfon negeseuon preifat i ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ryngwyneb Cymraeg. Mae’r prosiect ar agor i bawb gyda chyfrif Twitter sydd yn fodlon gwirfoddoli. Mae Cymraeg ar y rhestr ymhlith lot o ieithoedd eraill. 1. Cer i http://translate.twttr.com ar dy gyfrifiadur os wyt ti eisiau cymryd rhan. (Dw i ddim… Parhau i ddarllen Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

Mae’r wefan Directgov sydd yn cynnig gwasanaethau fel: treth car pasbortau swyddi gwybodaeth a mwy ar ran Llywodraeth DU yn dod i ben cyn hir. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o ymwelwyr i’r cofnod yma wedi defnyddio Directgov unwaith o leiaf. O 17eg mis Hydref 2012 ymlaen bydd gwasanaethau Llywodraeth ar gael trwy wefan… Parhau i ddarllen RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

LinkedIn yn Gymraeg – trafodaeth

Does dim llawer o ganlyniadau ar Google am ‘LinkedIn Cymraeg’ neu ‘LinkedIn yn Gymraeg’. Dw i ddim yn meddwl bod trafodaeth amdano fe trwy gyfrwng y Gymraeg wedi digwydd o gwbl ar y we. Hefyd mae eisiau trafodaeth am ddefnydd o Gymraeg ar y platfform sydd yn wahanol. Dydyn ni ddim wedi cael trafodaeth ar… Parhau i ddarllen LinkedIn yn Gymraeg – trafodaeth

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post

Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru

Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd. Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl… Parhau i ddarllen Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru

Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012

Ces i sgwrs gydag ymwelydd i’r babell Hacio’r Iaith / Gŵyl Dechnoleg Gymraeg prynhawn yma, Iolo Ceredig Jones. Tra roedden ni’n trafod Wicipedia siaradodd e am ei gyrfa fel chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol ar ran Cymru. Felly cawson ni’r cyfle i ddiweddaru’r dudalen amdano fe ar Wicipedia Cymraeg gyda llun o du allan i’r babell! Mae’r… Parhau i ddarllen Cyfrannu at Wicipedia Cymraeg #steddfod2012