Tagiwyd fel: twitter Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 9:03 PM ar 7 April 2017 Dolen Barhaol
    Tagiau: , twitter   

    Twitter Lite – y ffordd gyflymaf o ddefnyddio Twitter ar gysylltiad gwan 

    Mae cwmni Twitter newydd lansio fersiwn Lite o’i wefan:

    There was a problem connecting to Twitter.

    Mae hi’n berffaith ar gyfer llefydd heb gysylltiad da – sydd o hyd yn cynnwys llawer iawn o gefn gwlad Cymru.

    Ewch i https://mobile.twitter.com i weld pa mor gyflym mae’r ap ar y we yn dangos eich ffrwd. Mae opsiwn aral o droi delweddau bant yn ddiofyn hefyd – ac wedyn tapiwch unrhyw ddelwedd yn y ffrwd i’w gweld.

    Dyma rai o’r manylion technegol.

     
    • Huw 8:59 AM ar 12 Ebrill 2017 Dolen Barhaol

      Dwi’n meddwl bod hwn wedi ei anelu at ddefnyddwyr newydd yng ngwledydd Affrica ac India. Yng ngwledydd Affrica, maent eisoes yn ddibynnol ar eu ffonau i gyfathrebu neu anfon pres at ei gilydd. Yn ddiweddar mae India wedi gweld tŵf aruthrol yn y nifer o ddefnyddwyr ffôn newydd. Problem sy’n gyffredin yw isadeiledd rhwydweithiau ffon gwael, sy’n golygu bod cysylltiadau data yn ddrud ac yn araf. Does dim modd o lawrlwytho App 100MB sy’n cael ei ddiweddaru’n wythnosol. Yr ateb yw creu ‘ap gwe’ ysgafn wneith redeg o fewn porwr heb yr angen i drosglwyddo gormod o ddata.

  • Carl Morris 12:37 AM ar 18 December 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: , twitter   

    Pa hashnod ddylwn i ddefnyddio am raglen teledu Saesneg? 

    charlie-brooker-wigflip-saywhat

    Problem: dw i eisiau postio a darllen trydariadau yn Gymraeg am raglenni teledu mewn ieithoedd eraill (iawn, Saesneg). Ond os dw i’n edrych at yr hashnod swyddogol mae miloedd o drydariadau eraill mewn ieithoedd eraill (Saesneg yn bennaf). Mae’r sgwrs yn Gymraeg yn boddi yn y stwff arall.

    Dyna’r math o beth allai gwasanaeth fel Ffrwti ystyried gwneud.

    Yn y cyfamser beth sydd angen ydy hashnodau amgen i ni, hashnodau answyddogol fel y mae #pobztalk yn hwyluso sgwrs gyda naws wahanol i’r hashnod ‘swyddogol’ #pobolycwm.

    Byddai angen màs critigol o bobl eraill i’w mabwysiadu ond byddai tua 5 neu 10 o bobl yn wneud gwahaniaeth i sgyrsiau.

    Beth am ddefnyddio cyfieithiad o enw y rhaglen fel hashnod?

    • #DrychDu yn hytrach na / ogystal â #blackmirror
    • #AmserCwestiwn yn hytrach na / ogystal â #bbcqt

    Dw i’n credu bod enw y rhaglen yn well na’r hashnod achos dydy cyfieithiadau o bethau fel #bbcqt ddim mor amlwg. Maent yn hawdd i’w deall, i’w cofio ac i’w sillafu.

    Enghraifft

    Neu oes awgrymiad gwell gyda chi?

    Dydy hyn i gyd ddim yn golygu fy mod i ddim am weld unrhyw sgyrsiau yn Saesneg o reidrwydd – ond mae’r opsiwn yna yn bodoli eisoes!

    dafydd-d-wigflip-saywhat

     
  • Carl Morris 7:09 AM ar 12 March 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: cydraddoldeb, twitter   

    Aildrydar dim ond menywod 

    Dw i newydd ddarllen cofnod blog diddorol gan Anil Dash am ei flwyddyn o aildrydar dim ond menywod, y profiadau mae fe wedi cael a’r gwersi mae fe wedi dysgu.

    […] Maybe the most surprising thing about this experiment in being judicious about whom I retweet is how little has changed. I just pay a little bit of attention before I tap on the icon in my Twitter app, but it’s been effortless to make the switch, and has gotten me far more “thanks for the retweet!” messages than I used to get.

    More broadly, I found the only times I even had to think about it were very male-dominated conversations like the dialogue around an Apple gadget event. Even there, I’d always find women saying the same (or better!) things about the moment whose voices I could amplify instead of the usual suspects. And for the bigger Twitter moments I love, like award shows and cultural events, there are an infinite number of women’s voices to choose from.

    One thing that has happened, and I’m not sure if it’s attributable to my change in retweet behavior, is that I’ve been in far more conversations with women, and especially with women of color, on Twitter in the past year. That’s led to me following more women, and has caused a radical shift in how I perceive my time on Twitter, even though its actual substance isn’t that different. […]

    Darllenwch y cofnod llawn.

    Ar fy nghyfrif personol dw i wedi bod yn ail-drydar trydariadau mewn categori penodol ers misoedd, sef trydariadau Cymraeg yn unig. O fewn y categori yna mae llwyth o drydariadau yn Gymraeg gan fenywod. Fyddai’r dull Dash ddim yn her anodd yn Gymraeg.

    Tybed os yw’r un tueddiadau mae fe’n sôn amdanynt yn wir yn Gymraeg ar Twitter? e.e. ‘gormod’ o leisiau dynion ar bwnciau penodol fel tech, diffyg cynrychiolaeth o farnau menywod ayyb.

     
  • Carl Morris 6:56 PM ar 5 January 2014 Dolen Barhaol
    Tagiau: , twitter   

    Mapio’r trydarfyd Celtaidd 

    Dyma mapiau diddorol iawn o sgyrsiau yn Gymraeg ac ieithoedd eraill ar Twitter – gan Kevin Scannell o Indigenous Tweets.

     
    • Siôn 7:36 PM ar 5 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Carlos – hwn yn ddifyr. Wedi ei dderbyn ar Facebook heddiw ac ail-drydar. Efallai o wefan http://www.vilaweb.cat yn wreiddiol trwy cyfrif Fb Eurolang. http://twitter.github.io/interactive/newyear2014/

      Difyr – ond ddim yn gwybod os maint y pegynnau yn gyfystyr o ran maint h.y. oedd gan ‘Blwyddyn Newydd Dda’ gymaint o drawiadau ag Hebraeg?

    • Rhodri ap Dyfrig 11:09 AM ar 6 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Ydi mae o’n ddiddorol gweld y visualisation (“darluniad”? help, derminolegwyr??), ond ddim yn siwr beth mae’n dweud sydd yn newydd. Yn sicr mae’n ddarlun eitha neis o hyfywedd ieithyddol a natur rhwydweithiau mewnol ein gwlad. Ond o ran y prif gaasgliad: Mae Cymraeg yn cael ei siarad lot o fewn Cymru a does dim lot o diaspora.

      Fel mae Kevin yn dweud, dim ond y top 500 o drydarwyr mae’n dangos – dwi’n credu bod y stats diddorol i gyd yn long tail o drydarwyr Cymraeg – y pobol sydd yn trydar yn Gymraeg yn achlysurol, neu jest efo dwysedd trydar isel. Pwy ydyn nhw? Sut mae cael nhw i ddefnyddio a chael mynediad at fwy o gynnwys Cymraeg? Mae’r top 500 yn job done, pobol sydd yn engaged. Sut ydyn ni’n targedu’r gweddill? Sut ma nhw’n defnyddio’r Gymraeg? A pham bod nhw’n dewis defnyddio’r Gymraeg?

      Mae Hywel Jones wedi cynnig beirniadaeth o’r fethodoleg gyda llaw: https://twitter.com/hywelm/status/416729737055051776 ddim yn defnyddio enwau Cymraeg y trefi/dinasoedd.

    • Hywel Jones 11:43 PM ar 9 Ionawr 2014 Dolen Barhaol

      Rwy’n cytuno â Rhodri nad yw’r map o drydariadau’r 500 trydarwr Cymraeg mwyaf cynhyrchiol yn ystyrlon iawn.

      Rhaid i mi gywiro Rhodri ynglŷn â’i bwynt olaf. Beirniadaeth o’r fethodoleg ddefnyddiais i fy hun i gynhyrchu map o ddilynwyr @IndigenousTweet sy yn y trydariad mae e’n cyfeirio ato (ac rwyf wedi ymhelaethu ar ddiffygion y drefn geocodio a ddefnyddiais mewn sylwadau ar y blog yma: http://simplystatistics.org/2011/12/21/an-r-function-to-map-your-twitter-followers/). Defnyddiodd Kevin Scannell, ar y llaw arall, wasanaeth geocodio oedd i’w weld yn gwneud job gweddol gydag enwau lleoedd Cymraeg, sef http://www.findlatitudeandlongitude.com/

  • Carl Morris 2:07 PM ar 19 January 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , twitter   

    Sesiwn 3a: Dadansoddi Indigenous Tweets + Hacathon Papurau Newydd 

    Indigenous Tweets
    http://indigenoustweets.com/

    Holl drydarwyr Cymraeg
    http://dl.dropbox.com/u/15813120/siart_indigenoustweets_cymraeg_fersiwn4.html

    Lleoliadau

    .@ Newydd gyfrif y lleoliadau ym mhroffeil 500 trydarwr Cymraeg toreithiog @. 82 heb gofnod, 87 Caerdydd/Cardiff

    @hywelm

    Hywel

    GPS

    Map o drydariadau defnyddwyr Cymraeg a gofnodir gan @ Dim ond 153 o’r 8274 oedd wedi eu geocodio. http://t.co/WKZ6DONh

    @hywelm

    Hywel

    Papur am adnabod ieithoedd
    http://aclweb.org/anthology-new/W/W12/W12-2108.pdf

    Hacathon Papurau Newydd 

    Wiki’r Hacathon gyda rhestrau syniadau a hacks am sut i wneud defnydd o’r data

    http://hacathonwiki.llgc.org.uk/w/index.php/Main_Page

    Bydd y wefan yn lansio fis Mawrth (lansiad cyhoeddus ar y 13eg) a bydd tua 50 teitl ar gael i’w chwilio.

     
  • Hywel Jones 7:53 PM ar 28 December 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , Euskara, Frysk, Gaeilge, Gàidhlig, , IndigenousTweets, twitter   

    Dadansoddi cofnodion indigenoustweets.com 

    Dechreuais edrych ar gofnodion IndigenousTweets.com dros y Nadolig. Mae’r wefan yn dangos manylion am hyd at y 500 trydarwr mwyaf toreithiog mewn sawl iaith. Ar ôl edrych ar y 500 trydarwr Cymraeg es i gysylltiad â Kevin Scannell, y dyn sydd yn casglu’r data, a chael ganddo ddata tebyg ond ar gyfer y 8,274 cyfan y mae e wedi eu cofnodi. Rwy eisoes wedi trydar dolen siart bybl Google grëais:  trydarwyr Cymraeg. Mae eisiau i mi egluro beth sy ar yr echelin-y ar y chwith yn hwnnw: y gymhareb o drydariadau Cymraeg: trydariadau eraill (h.y. Saesneg bron bob tro) sy yno. Felly os yw rhywun yn trydar yn Gymraeg union hanner yr amser, ei gymhareb fydd 1. Mae pawb sy â chymhareb dros un yn trydar yn Gymraeg yn amlach nag yn Saesneg felly. (Defnyddiais raddfa log fel y gellir gweld y cyfan ar y siart.) @Niapostcyntaf sydd â’r gymhareb uchaf, gan i bob un o’i 144 trydariad fod yn Gymraeg. Mae maint y cylch yn y siart yn adlewyrchu’r nifer o drydariadau Cymraeg. @newyddcymraeg, ffrwd sy’n cyfuno ffrydiau newyddion eraill, yw’r mwyaf. Mae’r siart isod yn un ffordd o ddangos eu dosbarthiad:

    Trydariadau Cymraeg, Mawrth 2006 - 20 Rhagfyr 2012

    Trydariadau Cymraeg, Mawrth 2006 – 20 Rhagfyr 2012

    Ymgais i ffitio dosbarthiad Zipf i’r data yw’r llinell syth. Does fawr o arwyddocâd iddo ond ei bod yn amlygu fod efallai fod tua’r 5000 trydarwr mwyaf toreithiog yn cynhyrchu mwy na’u siâr o drydariadau Cymraeg – neu, mewn geiriau eraill, y gellid fod wedi disgwyl mwy o drydariadau Cymraeg gan y gweddill. Tybed?

    Troais yn ôl at ddata y 500 ac edrych ar ychydig o ieithoedd eraill. Dyma ges i:

    Trydariadau 5 iaith

    Trydariadau 5 iaith

    Dim ond 380 sydd wedi trydar yng Ngaeleg yr Alban ond mae gan yr ieithoedd eraill mwy na 500 yr un. Bydd yn ddiddorol gweld, os caf y data, sut y maen nhw’n cymharu â’r Gymraeg. Mae’r siart isod yn crynhoi data y 500 yn unig. Gwelir bod cyfran uwch o drydariadau’r Basgiaid yn dueddol o fod yn y Fasgeg, i’w chymharu â chyfran Gymraeg y trydarwyr Cymraeg.

    Dosbarthiad trydariadau 5 iaith

    Dosbarthiad trydariadau 5 iaith

     
  • Rhodri ap Dyfrig 12:43 PM ar 14 December 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Turpial, twitter   

    Ma Merlyn Cooper yn cyfieithu y cleient Twitter ‘Turpial’ – all unrhwyun ei helpu? 

    @Hey, ro’n i bod cyfieithu “Turpial” client am Trydar. Allet ti edrych dros fy nghwaith os gwelwch yn dda?http://t.co/1fJi5IiM

    @Merlyn_Dytani

    Merlyn Cooper

    Rhowch wybod iddo

     
    • Merlyn Cooper 12:59 PM ar 14 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      Hei, Mae Turpial yw clieint rhaglen am Trydar am lawer o ddosbarth Linux ( a Mac yn fuan efo mwy cynlluniau am Windows).

      Ro’n i wedi cyfieithu’r rhaglen i mewn i Gymraeg (100%) ond dw i’n angen help, unrhyw un diddordeb yn edrych dros fy nghwaith?

      http://t.co/1fJi5IiM

    • Merlyn Cooper 1:59 AM ar 15 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      Ro’n i wedi cyfieithu 100 y cant o Turpial i mewn i gymraeg OND, dydw i ddim credu fy mhod i’n 100 y cant cywir. (168 cofnodion am cyfieithu)

      Ydych chi’n diddordeb yn gwirio fy nghwaith? Edrych ar y tudalen o’r dolen, dilyn y gyfarwyddiadau, cofrestru ar y wefan transifex.net. Diolch!

      Ar hyn o bryd, y rhaglen yw am Linux (llawer o dosbarthiadau) (ac yn fuan Mac ‘da cynlluniau wneud Windows hefyd).

    • Merlyn Cooper 12:00 PM ar 20 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

    • Rhys 9:15 PM ar 10 Ionawr 2013 Dolen Barhaol

      Wedi bod trwy hwn i gyd – gweddol di-boen (y system gyfieithu a’r gwaith gwirio/cywiro!).

      Newidiais Trydar > Twitter am enw’r gwasanaeth, ond gadael ‘trydariad’ am ‘tweet’
      Wedi cael trafferth gydag ambell beth:
      Credentials (Cododd hyn tua 4/5 gwaith dwi’n meddwl)
      hashtag (unwaith)
      Redent (dwy waith)

    • Merlyn Cooper 1:05 PM ar 4 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Diolch!

    • Merlyn Cooper 1:21 PM ar 4 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Ro’t ti wedi dweud ti “wedi cael trafferth” beth wyt ti’n meddwl anghywir efo’r geiriau yna? (genuinely asking)

      Dw i’n meddwl “stwnsh” iawn am “hashtag”.

    • Merlyn Cooper 1:37 PM ar 4 Chwefror 2013 Dolen Barhaol

      Ro’n i wedi edrych eto defnyddio’r golygwr newydd, Gweles i y newidiadau o “Rhyswynne”. Diolch yn fawr iawn. newidiau bach ond lawer ohonon nhw, bwysig yn wir.

  • sionjobbins 1:53 PM ar 1 October 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , twitter   

    Trydar Cymraeg – Y Tair C: Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig 

    TRYDAR Cymraeg – tyfu a datblygu

    Mae Twitter yn cael ei gyfieithu i’r Gymraeg ac mae nifer cynyddol o unigolion, busnesau a chyrff cyhoeddus yn ei ddefnyddio. Ond un pryder yw fod y nifer sy’n dilyn Twitter Cymraeg ein sefydliadau – cynghorau lleol, cyrff cyhoeddus ac ati – yn is o lawer na nifer y siaradwyr Cymraeg. Mae postiad ar y blog yma’n cyfeirio at y sefyllfa yn Wrecsam . Y trydarwr, Siôn Jobbins, @MarchGlas, sy’n rhannu ei awgrymiadau ar gyfer cynyddu dilynwyr.
    Tan mis yn ôl roeddwn yn Bennaeth Hyrwyddo ar y Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gyda’r criw positif a gweithgar yn y sefydliad yn gyfrifol am roi gwybodaeth ar twitter y Llyfrgell (@LlGCymru) a facebook. Dyma rai sylwadau gall fod o werth i sefydliadau eraill Cymru wrth iddynt geisio denu nifer sy’n ei dilyn ar Twitter yn Gymraeg.

    Mae’n bwysig i ni gynyddu niferoedd y defnyddwyr er mwyn sicrhau parhâd y gwasanaethau Cymraeg – sawl criw cysylltiadau cyhoeddus a charedigion yr iaith sy’n becso wrth feddwl am Adroddiad Monitro’r Gymraeg fel a gafwyd yn Wrecsam?

    Yn fras, o ran y Llyfrgell, roeddem ni’n anelu i ddanfon 3 twît y dydd yn  ddwy iaith (felly sgwennu 6 twît). Byddem yn trydar ar yr un pwnc ond ddim yn cyfieithu yn slafaidd.

    Roedd ganddom ni 1,000 dilynwr ar @LlGCymru a jyst dros 3,000 ar @NLWales. Ratio o rhywbeth fel 3 neu 4 – 1 o blaid y Saesneg on ratio uchel iawn iawn i’r Gymraeg o gofio fod Saesneg yn iaith ryngwladol.

    Dwi’n meddwl fod llwyddiant y Llyfrgell, o bosib, yn eithriad i’r norm. Mae’n adlewyrchu natur defnyddwyr y Llyfrgell. Mae hefyd yn adlewyrchiad fod y Llyfrgell yn cael ei gweld fel lle naturiol Gymraeg ac felly roedd pobl yn hyderus y byddai nhw’n cael yr un lefel o wasanaeth yn y Gymraeg (mwy efallai?) â’r Saesneg. Rhan o’r broblem i gynghorau lleol Cymru a sefydliadau eraill yw fod pobl dal i’w gweld fel sefydliadau Saesneg sydd yn ‘cyfieithu stwff’ i’r Gymraeg – y Saesneg yw’r default gyda’r Gymraeg yn dod wedyn.

    Mae’n anodd newid hyn! Rhyw ffordd mae angen i’r sefydliad ddatblygu strategaeth a meddylfryd i Gymreigio’r gwasanaeth Gymraeg fel fod pobl ddim yn gweld yr ochr Gymrae fel fersiwn arafach, hwyrach o’r default Saesneg ond ei weld fel gwasanaeth sy’n sefyll ar ei thir ei hun sydd cystal ond gwahanol i’r ochr Saesneg. Mae angen felly creu sîn Gwe2 Gymraeg – ac hoffwn awgrymu fod cynghorau a sefydliadau eraill ddod at ei gilydd i drafod hyn a helpu ei gilydd. Weithiau, bydd angen, fel gwanaeth @CyngorCaerdydd, ddanfon trydar gonest allan yn gofyn pobl i ddilyn y gwasanaeth Gymraeg.

    Felly, dyma rai pethau pethau a ddysgais tra gyda’r Llyfrgell.

    1. Dau gyfrifcyfrif Saesneg a chyfrif Cymraeg. Dyna wnaeth Caerdydd. Os, mae risg o rhyw fath – h.y. y gwahaniaeth mawr rhwng dilynwyr Saenseg a dilynwyr Cymraeg. Ond mae hwn yn rhywbeth seicolegol bwysig – mae’n dangos fod y Gymraeg yn iaith go iawn. Gwyddoch wedyn fod gennych gorff o bobl (pa bynnag bychan mewn nifer) sydd yn gallu defnyddio’r Gymraeg. Mae modd meithrin y nifer yma fel eu bod yn defnyddio rhagor o’r gwasanaethau Cymraeg. Dwi hefyd ddim eisiau darllen yr un neges ddwywaith syth ar ol ei gilydd mewn dwy iaith. Mae hyn yn gwneud i’r Gymraeg edrych fel ‘after thought’ neu, os yw’r Gymraeg gyntaf, mae’n rhoi’r argraff fod trydar yn Gymraeg fel rhegi – mae’n rhaid trydar yn unionsyth yn Saesneg rhag pechu pobl. Mae hefyd jyst yn  hynod irritating i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg ac yn gwastraffu lle ar y ffrwd Twitter.

    2. Mae’r Llyfrgell yn defnyddio platfform Hootsuite oedd yn galluogi ni i gael dau (neu fwy mae’n siwr) cyfrif ar yr un rhyngwyneb. Roedd hyn yn golygu fod modd i’r un person sgwennu’r 2 twîts yn y ddwy iaith a’u danfon allan. Polisi y Llyfrgell oedd anelu i ddanfon 3 twît y dydd gan weithiau amseru nhw i fynd allan yn y nos os oeddem am gyrraedd pobl gwahanol – sdim rhaid i twîts y sefydliad fod rhwng 9.00 – 5.00! Mae Hootsuite yn galluogi chi i’w danfon ddiwrnodau’n hwyrach (handi os ydych yn mynd off ar wyliau hefyd).

    3. Roeddwn i wastad yn danfon y Gymraeg allan yn gyntaf fel fod ‘added value’ i’r Gymraeg a hefyd i gael gwared ar y stigma fod y Gymraeg yn eilradd neu’n gyfieithiad o’r Saesneg. Mae hyn yn rhan o’r strategaeth i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ar we ac mewn cymdeithas. Roeddwn i’n teimlo fod hwn yn un ffordd o ddangos fod y gwasanaeth Cymraeg yn un go iawn ac nid fersiwn ‘odd’ o’r Saesneg.

    4. Wrth drydar, baswn i’n aml yn rhoi bwlch o rhyw 5 neu 10 munud neu fwy rhwng y ddwy iaith. Wrth gwrs os oedd yna neges bwysig, roeddwn i’n danfon y negeseuon yr un pryd. Roeddwn yn rhoi bwlch rhwng y ddwy iaith am sawl rheswm:

    a) Mae pobl unai’n dilyn y ffrwd Gymraeg neu Saesneg. I bob pwrpas, doedden nhw fawr callach os oedd y Saesneg 5 munud yn hwyrach na’r Gymraeg

    b) Os oedden nhw’n dilyn y ddwy iaith, yna roedd rhoi bwlch yn help wrth ddarllen ac yn gwneud y neges yn gryfach gan fod e’n dod lan ddwy waith ac nid fel un bloc.

    c) Prin yw’r bobl sy’n dilyn Twitter yn fyw, felly, wrth fwrw golwg dros ei ffrwd Twitter, dyweder amser cinio, yr ail twît fyddai’n dod gyntaf.

    Os ydy’r sefydliad yn sensitif am hyn, yna gellid byrhau’r gwahaniaeth, neu hyd yn oed, trydar weithiau’n Gymraeg gyntaf ac weithiau’n Saesneg gyntaf. Ond plîs, heblaw fod neges bwysig, oes wir angen trydar union yr un pryd?

    5. Y math o negeseuon: 

    a)  Mae pobl yn hoffi ffotos – mae pobl yn hoffi ffotos o bobl hyd yn oed yn fwy! Roedd lot o bobl yn ail-drydar ffotos.

    b)  Byddem yn edrych yn Dyddiadur Desg y Lolfa ac ar google am anniversaries neu digwyddiadau neu dyddiadau mewn hanes. Wrth gwrs, bydd angen i chi gael stwff sy’n berthnasol i’ch sefydliad ond ddim mynd dros ben llestri! Rhai awgrymiadau – gemau rygbi a phêl-droed, Cân i Gymru, dydd Santes Dwynwen, Diwrnod Ewyllus Da yr Urdd, eisteddfod gylch. Mae ‘na wastaf Diwrnod Bwyta Tatws neu Ddiwrnod Cenedlaethol Gwisgo Fflip-fflops neu efallai Ddiwrnod y Menywod/Ieithoedd/Addysg y Cenhedloedd Unedig. Bachwch arnyn nhw!

    c)  Cofio tagio pobl – hyd yn oed os nad ydyn nhw’n siarad Cymraeg. Roeddwn i’n @io rhaglenni Saesneg i fy trydar Cymraeg – pam lai? Mae’r di-Gymraeg weithiau’n RT stwff Cymraeg achos mae’n quirky neu mae nhw wir yn falch o gael y sylw. Falle fod nhw hyd yn oed yn siarad Cymraeg. Mae hefyd yn ffordd syml o godi proffil y Gymraeg ar Twitter ac felly gwneud ein gwaith ni i gyd yn haws a mwy ‘normal’ ym marn cymdeithas. Mae modd defnyddio y stats yma wedyn yn eich adroddiad blynyddol ac mae tebygrwydd cryf da fod ‘na pobl Cymraeg yn gweld y  RT ac yn eich dilyn chi.

    c)  Thema – efallai twît y dydd yn arwain lan at ddigwyddiad e.e. Dolig, diwrnod pwysig i’r sefydliad, gêm ryngwladol?

    6.   Creu Rhwydwaith – mae hyn yn bwysig, yn enwedig yn y Gymraeg.

    a) Dilyn mwy o bobl – bydd canran uchel ohonyn nhw yn dilyn chi wedyn.

    b) Trafod gyda pobl eraill o’r un diddordeb neu ardal daearyddol a gofyn i’w haelodau nhw ddilyn chi.Chi’n help nhw hefyd wrth gwrs.

    c) Cystadleuaeth – oes rhywbeth gallwch roi am ddim? Tocyn i sioe neu jyst tocyn paned i ddilynwyr? Efallai fod modd cynnig rhywbeth ar y cyd gyda sefydliad neu busnes arall?

    7. Steil

    Mae angen bod yn safonnol ond os yw’r Saesneg yn defnyddio ‘journalese’ wrth sgwennu, pam ddim y Cymraeg? Efallai bod lle i ddefnyddio steil mwy agos atoch? Ein hiaith ni yw hon, beth am fwynhau ei defnyddio!? Mae angen i’ch steil fod yn gyfforddus i’w gynulleidfa darged. Gall hynny gymryd i ystyriaeth daearyddiaeth (acen), cefndir, lefel safon yr iaith (awdurdodol neu anffurfiol). Bydd rhai sefydliadau’n ceisio meddwl am ‘lais’ i’r trydar – dychmygu sut lais fase’r newyddiadurwr Dewi Llwyd neu’r cyflwynydd pêl-droed Dylan Ebenezer neu’r cyflwynydd rhaglenni plant Anni Llŷn, yn trydar ynddo? Gall hyn roi canllaw i bobl wrth drydar sy’n handi os oes tîm ohonoch yn trydar ar ran y sefydliad. Ond yn fwy na dim, does dim rhaid i ni feddwl am yr athrawes Gymraeg bob tro fyddwn ni’n trydar!

    8. Cymreig

    a) Yr holl bwynt o ddilyn twitter yn Gymraeg yw ei fod yn Gymreig! Os yw jyst yn gyfieithiad o’r Saesneg bydd pobl yn sefyll gyda’r Saesneg. Polisi y Llyfrgell oedd 3 twît gwahanol y dydd ar yr un pwnc yn y ddwy iaith. Ond doedd y Gymraeg ddim yn gyfieithiad o’r Saesneg – roeddem yn defnyddio cyfeirnodau diwylliannol, hanesyddol a chyfredol gwahanol .

    b) Mae modd sgwennu mwy o twîts Cymraeg nag sydd i’w gael yn Saesneg – falle cwpwl o twîts yr wythnos yn fwy ond ar bynciau gwahanol. Pam lai? Os yw rhywun yn gallu siarad 2 iaith yna mae’n gwneud sens fod nhw efo acses i 2 ddiwylliant. Gellir cyfiawnhau hynny (os oes angen) gan fod mwy o amser yn cael ei ddefnyddio yn Saesneg yn ateb cwestiynau penodol neu’n re-tweetio stwff, felly, mae cwpwl o twîts ychwanegol i’r craidd gwybodaeth swyddogol y Cyngor, yn dderbyniol.

    c) Dydy ‘Cymreig’ ddim yn golygu Cymru chwaith. Mae modd trydar am bethau rhyngwladol hefyd – ond rhowch gyd-destun Cymreig iddo. Ac wrth gwrs, nid diddordeb dilynwyr trydar Saesneg ei hiaith yw’r ‘norm’. Mae ‘na fyd-olwg Gymraeg i’w chael; mwy o ddiddordeb mewn iaith a thraddodiad efallai, gwell dealltwriaeth o wahaniaethau tramor.

    ch) Peidiwch byth, byth, byth, trydar ‘Aberawe, De Cymru’! Oes unrhyw un sy’n dilyn trydar yn Gymraeg ddim yn gwybod fod Abertawe yn ne Cymru? Ydy nhw am ddrysu rhwng Abertawe De Cymru ac erm, Abertawe Papua Guinea Newydd?  Felly, ‘Abertawe’, jyst ‘Abertawe’. Ac fel arall, oes angen dweud ‘Gogledd Cymru’ a ‘De Cymru’ o gwbl? Beth sy’n bod ar ‘y gogledd’ ac ‘y de’? Ac ie, dwi’n edrych arnat ti fan hyn @LlyrGruffudd AC y Gogledd … ond nid Llyr yw’r unig un sy’n euog o hyn o bell ffordd!

    d) Y pwynt bach olaf. Os ydych yn rhoi dolen ar eich postiad Twitter Cymraeg … rhowc ddolen i’r dudalen Gymrae? Eh? Checiwch gyntaf i weld os oes postiad Cymraeg ar Wicipedia neu Bywgraffiadur arlein dudalen y Llywodraeth, cyngor neu’r fusnes. Os oes ddim, iawn, ond mae’n bwynt bach ond pwysig.

    Mae’r pwyntiau yma yn rhan o’r strategaeth o ddangos fod y Gymraeg ddim jyst yn gyfieithiad o’r Saesneg. Mae’n rhan bwysig o newid y mantaliti hynny. Heb newid y mentaliti yma bydd adnoddau’r Cyngor wastad yn cael ei ‘wastraffu’ ar darparu gwasanaeth sydd ond yn cael ei defnyddio gan leiafrif bychan iawn.

    Dwi am roi enghraifft penodol gan gyfeirio at Gaerdydd – dim ond gan ‘mod i wedi fy magu yn y ddinas a bod @CyngorCaerdydd wedi bod yn ddigon dewr a chall i ofyn i bobl i’w dilyn (… ond peidiwch gwneud hyn yn rhy aml, rag i chi edrych yn desparet).

    Felly, yn yr un modd ag y byddai gweithdrefn a pholisi casglu llyfrau llyfrgell yn Sblot (dyweder) yn wahanol i un yr Eglwys Newydd (ond o fewn strategaeth fawr ganolog y Cyngor wrth gwrs) mae’n iawn fod y math o drydar sydd yn y Gymraeg a’r Saesneg yn gallu amrwyio – ond gan sicrhau fod y gwybodaeth craidd corfforaethol yr un peth. Baswn i’n dadlau fod  2 gwasanaeth trydar ychydig yn wahanol yn y ddwy iaith yn ei gwneud ill dau yn fwy diddorol i bobl ddilyn y dau ffrwd ieithyddol.

    9. Rhai syniadau ar gyfer strands Cymreig

    • holi dilynwyr @CyngorCaerdydd i twîtio nol yn dweud lle cawsant eu magu – Caernarfon, Llundain, Pakistan, Aberystwyth – ffordd i bobl fagu perthynas â chi.
    • Lle mae dilynydd pellaf @CyngorCaerdydd yn byw?
    • Beth am atgofion Caerdydd mewn 140 nod?
    • Hoff air Cymraeg?
    • Cas air Cymraeg?
    • Hoff enw lle yng Nghaerdydd … a rhoi’r atebion i Radio Cymru fel eitem difyr i’r gwasanaeth newyddion neu stori ar Heno ar S4C!
    • Awgrymwch enwau Strydoedd Cymraeg newydd?
    • Beth am gael bach o hwyl gyda’r Gymraeg a gyda’r iaith – cyfres o twîts ar ‘iaith Glantaf a Plasmawr?’
    • Dywediadau Cymraeg doniol o Gaerdydd
    • Atgofion disgyblion ysgolion Cymraeg Caerdydd
    • Grwpiau pop Cymraeg o Gaerdydd gyda dolen i YouTube
    • Ystyr rhai o enwau llefydd Caerdydd

    Yn syml, meddwliwch am stwff bydd pobl yn siarad amdano dros baned!

    Cofiwch y 3 C:

    Cyfoes, Cyfforddus, Cymreig

    Siôn Jobbins (@MarchGlas)

     
    • Leia 3:04 PM ar 1 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Diddorol iawn a llawn o syniadau bach defnyddiol – mae rhaid i fi trio cwpl ohonyn ar y cryf Trydar yn y gwaith nawr!

    • Carl Morris 3:24 PM ar 2 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Oi, mae’r Gymraeg YN iaith ryngwladol!
      🙂

      Canllaw da iawn.

      Byddwn i’n ychwanegu tip am ail-drydar: efallai mae angen ail-sgwennu pethau Saesneg achos dwyt ti ddim eisiau torri ar draws y ffrwd Cymraeg. Mae ambell i bwynt tebyg yn fy nadansoddiad bach yma.

      Mae rhesymau dilys i sgwennu ‘Cymru’ ayyb mewn trydariad – fel metadata er mwyn helpu chwilio. Dw i’n derbyn y pwynt ond weithiau mae pobl eisiau chwilio am dermau er mwyn ffeindio stwff ar hap.

      Er enghraifft mae’r chwiliad am ddefnydd o’r tag ‘cymraeg’ ar YouTube gyda lanlwythiadau heddiw yn unig yn ddiddorol.

      Wrth gwrs dw i’n siarad am YouTube achos dw i’n meddwl bod lot o’r tips uchod yn addas i gyfryngau cymdeithasol yn gyffredinol, yn enwedig cyhoeddi: e.e. fideos ar YouTube, blogio, awdio/podlediadau … Yn aml iawn, er bod cyfieithu yn iawn mae’n golygu cyhoeddusrwydd heb ysbryd weithiau (fel datganiadau i’r wasg). Ar gyfryngau cymdeithasol rydyn ni eisiau CYNNWYS sydd yn arwain at fywyd go iawn i’r ddwy iaith.

    • Siôn 9:56 AM ar 5 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Carl – ie, pwynt da am ddefnyddio’r gair Cymru fel tag. Deall yn iawn – fsawn i’n rhoi # o’i flaen wedyn. Baswn i hefyd, am yr un rheswm yn ceisio osgoi treiglo enwau llefydd – yn enwedig y treiglad trwynol! Felly, sgwennu ‘gig yn #Caerdydd’ yn hytrach na ‘gig yng Nghaerdydd’.

    • Carl Morris 6:58 PM ar 5 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      ‘Dylai’ chwilio trio treigladau hefyd… Ond yn y cyfamser mae angen sylweddoli dy bwynt.

      Efallai dylwn i sgwennu ategyn WordPress i ychwanegu treigladau i chwilio…

    • Carl Morris 7:13 PM ar 5 Hydref 2012 Dolen Barhaol

  • Carl Morris 9:48 AM ar 20 September 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , twitter   

    Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb 

    Heddiw mae Twitter wedi anfon negeseuon preifat i ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ryngwyneb Cymraeg.

    Mae’r prosiect ar agor i bawb gyda chyfrif Twitter sydd yn fodlon gwirfoddoli. Mae Cymraeg ar y rhestr ymhlith lot o ieithoedd eraill.

    1. Cer i http://translate.twttr.com ar dy gyfrifiadur os wyt ti eisiau cymryd rhan. (Dw i ddim yn meddwl bod modd defnyddio ffôn.)

    2. Cytuna i’r termau ac amodau (!)

    3. Dewisa ‘Welsh (Cymraeg)’

    4. Cer i ‘Translate | Twitter Glossary’

    5. Mae modd cyfieithu neu pleidleisio ar dermau sydd yna eisioes

    Ar hyn o bryd mae 5 term yn cyfrif fel tua 2%. Felly mae cyfanswm o tua 250 term yn unig. Mae lot llai o linynnau (eitemau o destun) na lot o brosiectau cyfieithu eraill. Mae pobl wedi dechrau eisoes felly bydd y gwaith ar ben cyn hir. DIWEDDARIAD: Rhodri yn dweud ‘Dim ond y glosari prif dermau sydd ar gael i’w cyfieithu ar hyn o bryd. Dyna pam bod cyn lleied. Byddan nhw wedyn yn agor fyny ar gyfer yr holl sdwff boring fel Telerau ac Amodau ac FAQs.’

    (Gweler hefyd: sgwrs am dermau Twitter.)

    Does dim modd trafod y cyfieithiadau ar y system. Felly mae croeso i bawb trafod isod.

    O fy safbwynt i, mae’r lansiad yn golygu bod Twitter wir yn barod i lenwi’r gwasanaeth gyda mwy o hysbysebion! Mae’r adran ‘Localize | Review Users’ yn gofyn am gyfrifon poblogaidd er mwyn bwydo’r rhestr o ddefnyddwyr i’w awgrymu (SUL – Suggested User List) pan mae pobl yn ymaelodi. Un problem yw’r diffyg ymwybyddiaeth o Gymru fel gwlad – ‘United Kingdom’ yw’r endid. Efallai mae’r argymelliadau cyfrifon yn rhan o strategaeth busnes Twitter hefyd achos maen nhw yn gallu cynnig pethau i’r cyfrifon hynny.

     
    • Sian 10:51 AM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      validation / verification
      Gweld bod “dilysu” wedi’u cynnig ar gyfer y ddau derm.

      Fyddai “cadarnhad” yn gwneud ar gyfer “validation” = Noun. A proof of accuracy and legitimacy.
      A “dilysu” (neu ffurf arno) ar gyfer “verification” = Noun. A process whereby a user’s Twitter account is stamped to show that a legitimate source is authoring the account’s Tweets.

      Anodd gwybod weithiau hefyd pryd i ddefnyddio “enw” (noun) a phryd i ddefnyddio berfenw – Mae’r Gymraeg yn fwy tueddol na’r Saesneg o ddefnyddio berfenwau

    • Dafydd 11:04 AM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Os ‘Sbam’ yw ‘Spam’ yn hytrach na ‘Sothach’ neu debyg yna dylai ‘Report as Spam’ fod yn ‘Nodi fel Sbam’ yn hytrach na ‘Nodi fel Sothach’. Mae engreifftiau arall tebyg.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:06 AM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Dim ond y glosari prif dermau sydd ar gael i’w cyfieithu ar hyn o bryd. Dyna pam bod cyn lleied. Byddan nhw wedyn yn agor fyny ar gyfer yr holl sdwff boring fel Telerau ac Amodau ac FAQs.

    • Carl Morris 11:08 AM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Sian, allet ti cynnig y ddau gyda dy gyfrif? Mae gen ti enw da am gyfieithu – mwy o ‘gadarnhad’. 🙂

      Rhodri, ah ha. Dw i wedi diweddaru’r cofnod.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:11 AM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Mae na fforwm gan Twitter ar gyfer trafod cyfieithiadau, ond does dim categori ar gyfer Cymraeg eto: http://translate.twttr.com/cms/

    • Rhodri ap Dyfrig 11:13 AM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Mae Aled Powell eisoes wedi holi am agor adran ar gyfer y Gymraeg: http://translate.twttr.com/cms/node/2679

    • Aled 12:06 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Mae na sianel IRC (#TwitterCy) eisoes yn agored i sgwrsio ar y gweinydd irc.freenode.org – yr un mae Twitter yn defnyddio.

      I’w agor, defnyddiwr ChatZilla gyda Firefox, AndroIRC ar Android, neu cleient IRC arall.

    • Dafydd 12:37 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Ai fi di’r unig berson sy’n cael problemau efo http://translate.twttr.com/phrases/22040?

      Dwi wedi gadael twitter wybod am y broblem beth bynnag.

    • Carl Morris 1:26 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Dafydd, dw i’n cael problem hefyd. Mae’n ddweud bod Rhodri wedi cynnig ‘Trydariad’ ond yn gwrthod derbyn fy mhleidlais.

    • Dafydd Tomos 2:03 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Gwych.. mae’n bosib cyfieithu Twitter 3 mlynedd ar ôl ei anterth, ac wrth iddyn ddechrau ar y gwaith o’i wneud yn amherthnasol. Synnu hefyd pa mor wael yw’r system gyfieithu ar ôl ei ddatblygu dros dair blynedd.

    • Rhodri ap Dyfrig 2:30 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Ma’r system yn hollol crap o’i gymharu a rhwyddineb un Facebook.

      Rysait da am clownsourcing!! O’n i’n clywed bod y Basgiaid a’r Catalaniaid wedi bod yn anhapus iawn efo’r broses gyfieithu hefyd.

      A bod yn gwbl onest, fasa lot gwell gen i gael cyfieithu Eventbrite na Twitter, ond er pledio a phledio mae’n nhw’n dweud nad oes ‘roadmap’ ar gyfer cyfieithiadau pellach ar hyn o bryd.

    • Colin Nosworthy 9:38 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Galwch fi yn naif os liciwch chi, ond dwi’n eithaf blesed gyda’r cyhoeddiad.

    • Hedd Gwynfor 10:31 PM ar 20 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Wedi cychwyn hwn yn gofyn iddynt ychwanegu Cymareg i’r fforwm http://translate.twttr.com/cms/node/2692

    • Hogyn o Rachub 11:38 AM ar 21 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Un peth sy ddim yn iawn ar gyfer verification/verify ydi “gwirio” ond dyma sy’n mynd â hi ar y funud; a’r afiach ‘gwireddiad’!

      Sylwi bod ‘na duedd i ddefnyddio ‘ti’ – ddim yn licio hwn o gwbl, ma’n swnio’n blentynnaidd imi, a dw i’m isio gwefan yn deud ‘ti’ arna i chwaith!

    • Gerallt Roberts 4:59 PM ar 22 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Allan o ddiddordeb felly, ym mha achos ma ‘gwireddiad’ yn dderbyniol? Fel term TG dwi ‘di cael yn nysgu mai verify = gwireddu; validate = dilysu, wele manyleb TGCh Lefel A CBAC (http://www.cbac.co.uk/uploads/publications/11757.pdf – pwynt 4.14) – er dwnim faint o dryst di hi i gadw at hwnnw?

    • Carl Morris 3:21 PM ar 28 Medi 2012 Dolen Barhaol

      Mae cymuned o gyfieithwyr wrthi’n drafod termau Twitter ar Maes T.

      Mae ffrwd RSS yma: http://maes-t.com/rss/comments.ashx?dictId=1015

    • Carl Morris 5:26 PM ar 31 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Helo bobl. Sut mae’r prosiect yma?

      Mae ambell i drafodaeth yn y fforwm…
      http://translate.twttr.com/cms/forum/94

    • Heledd 1:43 PM ar 15 Ebrill 2013 Dolen Barhaol

      Ma twitter reit anoying, ma tudalen y Robot ryn deud ‘Diolch am sylwi were mynd i atgyweriri….blahblah’ yma constantly dod popio fynnu pan dwi trio neud petha a pan dwisho postio yn y fforwm.
      Wedi sylwi hefyd bod y Ieithoedd mawr fel Sbaeneg efo pobol wedi eu cyflogi i helpu efo’r cyfieithiad.. ond dim y ieithoedd bach, twitter werth 11 biliwn, cwilydd rili bo nhw methu cyflogi un person i helpu efo hyn!

  • Carl Morris 12:49 PM ar 1 May 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , twitter,   

    RIP Stwnsh? Dolenni’r we Gymraeg wedi torri am byth? 

    DIWEDDARIAD 2/5/2012: mae Gareth Stwnsh wedi gadael sylw ac mae fe wrthi’n adfer y gwasanaeth.

    DIWEDDARIAD: mae’r wefan a’r dolenni yn ôl.

    Un o’r gwasanaethau byrhau URLs mwyaf poblogaidd ymhlith defnyddwyr Cymraeg yw http://stwnsh.com

    Rhywbryd wythnos yma aeth y gwasanaeth i lawr. Rydyn ni i gyd yn dibynnu ar yr URLs i ein gwefannau a thudalennau. Mae miloedd o ddolenni yn methu bellach. Bydd unrhyw colled stwnsh.com yn anaf i’r we Gymraeg.

    Er bod i erioed wedi creu dolen byr gyda’r gwasanaeth ym mhersonol dw i’n eu clicio nhw bob dydd.

    Beth yw’r newyddion yma? Dw i wedi e-bostio’r perchennog.

    Yn y cyfamser efallai mae’n well i ddefnyddio rhywbeth fel http://bit.ly
    Ond wedi dweud hynny dw i ddim yn ffafrio’r arfer o fyrhau URLs o gwbl. Mae’r angen byrhau URLs yn un o’r gwendidau y we yn 2012 achos mae pob un yn creu pwynt o fethiant yn y we. Mae bai ar Twitter yn wreiddiol! Os ydyn nhw yn gallu ategu lluniau i drydariadau pam dydyn nhw yn ategu dolenni llawn hefyd?

     
    • Nic Dafis 4:40 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Mae stwnsh.com yn cael ei sgwoto erbyn hyn, felly prin iawn fydd y dolenni yna yn dod yn ôl.

      Dw i’n defnyddio tinyurl ar gyfer pethau mewn cylchlythyr ebost dw i’n wneud, yn bennaf ar gyfer dolenni Googlemaps, gan mod i’n gallu cofio nhw – tinyurl.com/pentre-arms yw’r dafarn leol, er enghraifft. Ro’n i’n arfer defnyddio stwnsh am yr un peth, nes i mi sylweddoli bod stwnsh.com wedi dechrau lapio tudalennau targed mewn ffram.

    • Carl Morris 11:37 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Dydd Gwener daeth y berchnogaeth i ben, yn ôl WHOIS.

      Dw i ddim yn licio’r fframiau ar draws y we chwaith. Pan oedd Twitter yn trio nhw roedd pobol yn defnyddio’r term dickbar.

    • iestyn 10:27 AM ar 2 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Gwarthus

    • Dafydd Tomos 5:49 PM ar 2 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Mae gan Gareth y gallu i adnewyddu’r parth yn ystod y mis nesa, ond wedyn mi allai’r pris godi neu fe allai fynd ar ocsiwn (dwi ddim yn siwr beth yw polisiau penodol Enom).

      Dwi ddim yn credu fod llawer o werth masnachol i’r wefan (yn wir, mae’r ffaith nad yw wedi ei adnewyddu yn brawf o hyn efallai). Ond mae yna werth o gael y dolenni i weithio o hyd, beth bynnag.

      Fasen i ddim yn ei golli os yw’n diflannu ond yn amlwg mae yna lawer o bobl wedi bod yn ei ddefnyddio. Os nad ydi Gareth eisiau ei gadw, fe ddylai ei drosglwyddo i rywun arall (wrth gwrs, all e ddim trosglwyddo rheolaeth a pherchnogaeth nes iddo dalu’r ffi adnewyddu).

    • Carl Morris 5:56 PM ar 2 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Pwyntiau da.

      Mae bywyd potensial fel archif o ddolenni, does dim rhaid prosesi ddolenni newydd.

    • Gareth 7:15 PM ar 2 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Dwi wedi bod heb y wê ers dydd Iau, felly rwan dwi’n gweld hyn. Mi fyddai’n ei sortio heddiw.

    • Carl Morris 7:16 PM ar 2 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Pob bendith Gareth. Dw i wedi diweddaru’r cofnod.

    • Gareth 12:31 AM ar 3 Mai 2012 Dolen Barhaol

      Diolch am ddod a hyn i fy sylw. Am ryw reswm ni chefias ebost gan y cwmni i adael mi wybod bod yr enw parth wedi dod i ben. Roedd y cwmni wedi canslo yr enw hefyd!

      Ddylsiau bopeth fod yn ôl yn fuan iawn.

    • Gareth 12:35 AM ar 3 Mai 2012 Dolen Barhaol

      @nicdafis Nid yw stwnsh.com bellach yn lapio tudalennau mewn ffram. Nid yw’r wefan wedi gwneud hyn ers peth amser.

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel