Mae Hacio’r Iaith bellach ar .cymru

Dw i newydd symud gwefan Hacio’r Iaith i’r enw parth haciaith.cymru (un o’r pethau sydd wedi bod ar fy rhestr o bethau i’w gwneud ers sbêl!). Dylai dolenni at yr hen enw fynd yn awtomatig at yr enw newydd. Hynny yw mae haciaith.com/X yn mynd i haciaith.cymru/X Gadewch wybod os ydych chi’n gweld unrhyw wallau… Parhau i ddarllen Mae Hacio’r Iaith bellach ar .cymru

Datganiad y diweddar dotCYM yn beirniadu Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, Nominet

Dw i newydd darllen bod dotCYM yn dod i ben fel menter cymdeithasol: […] “Wedi pedair mlynedd o Blaid Cymru mewn grym yn gwneud dim byd positif i’n helpu, daeth Edwina Hart yn Wenidog”, meddai Maredudd ap Gwyndaf, cyn-gyfarwyddwr dotCYM, “Cafodd Nominet y nód i symud i fewn a doedd dim gobaith gyda ni yn… Parhau i ddarllen Datganiad y diweddar dotCYM yn beirniadu Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, Nominet

Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

Cwrddais i rywun o Nominet ddoe – roedd e’n rhedeg stondin marchnata ar ran Nominet mewn cynhadledd yn Abertawe. Mae Nominet wedi dechrau ymgyrch marchnata cynnar er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales. Mae angen aros tan fis Mehefin 2013 am ateb oddi wrth ICANN ynglŷn â’r ceisiadau.… Parhau i ddarllen Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

Dim cais .cymru o Gymru. Be ddigwyddodd?

Cefndir Ar y 12fed o fis Ionawr 2012 bydd ICANN (sef, y cwmni nid-ar-elw sy’n cyfrifol am enwau parth ar y rhwngrwyd) yn dechrau’r broses o dderbyn ceisiadau o gwmpas y byd am barthau lefel-uchaf newydd sbon. Er enghraifft mae’n debyg bydd cwmni Canon yn ceisio am .canon ac ati. Ac bydd dinas Berlin yn… Parhau i ddarllen Dim cais .cymru o Gymru. Be ddigwyddodd?