LinkedIn yn Gymraeg – trafodaeth

Does dim llawer o ganlyniadau ar Google am ‘LinkedIn Cymraeg’ neu ‘LinkedIn yn Gymraeg’. Dw i ddim yn meddwl bod trafodaeth amdano fe trwy gyfrwng y Gymraeg wedi digwydd o gwbl ar y we. Hefyd mae eisiau trafodaeth am ddefnydd o Gymraeg ar y platfform sydd yn wahanol. Dydyn ni ddim wedi cael trafodaeth ar y blog ers sbel felly penderfynais i ddechrau un.

  • Pwy sy’n defnyddio LinkedIn?
  • Pwy sydd yn bostio neu yn diweddaru’r proffil personol yn Gymraeg?
  • Beth yw’r heriau / problemau sydd yn stopio pobl rhag defnyddio’r iaith yna?
  • Oes enghreifftiau da o ddefnydd o ieithoedd bychan ar LinkedIn?
  • Ydy Amwythig a Cheredigion yn un peth achos dyma beth mae LinkedIn yn meddwl?

Does dim rhyngwyneb Cymraeg wrth gwrs ond dyw’r diffyg rhyngwyneb Cymraeg ddim yn stopio’r iaith ar blatfformau eraill (fel Twitter). Yn fy mhrofiad i mae canran llai o bobl ar LinkedIn yn postio yn Gymraeg. Does dim data cadarn gyda fi, iawn, ond dyma sut dw i’n teimlo ar ôl cyfanswm o oriau ar y wefan.

Mae ambell i grwp fel MEWN Cymraeg (496 aelod) a Cyswllt (151 aelod).

LinkedIn yw’r groesffordd rhwng ‘cymunedau’ ar-lein, y byd gwaith/busnes a’r iaith ysgrifenedig (3 her i lot o siaradwyr Cymraeg). Ddylen ni poeni? Yn fy marn i mae e’n rhwydwaith o oedolion. Ac oedolion sydd yn rheoli’r byd felly mae’r diffyg Cymraeg yn broblem.

Dw i’n methu gwadu bod y cyfanswm o arian ar gael trwy ddefnydd o Saesneg yn fwy – fel cyfanswm byd eang. Ydy defnyddwyr LinkedIn yn meddwl bod yr iaith yn atal cyfleoedd rhywsut hefyd? Dw i wedi ffeindio prosiectau gwaith trwy LinkedIn er bod gyda fi proffil dwyieithog (wel, dw i wedi trio o fewn cyfyngiadau’r meddalwedd). Byddwn i’n licio meddwl bod pobl yn colli cyfleoedd trwy ddiffyg defnydd o’r Gymraeg.

Efallai mae gen ti ffrwd fyrlymus o Gymraeg yna ac mae fy nghysylltiadau i yn wahanol.

Beth bynnag, byddaf i’n ddiolchgar am dy sylwadau isod.

4 sylw

  1. Dim ond brawddeg neu ddwy sy gen i yn Gymraeg ar fy mhroffeil LinkedIn, mae’n ddrwg gen i ddweud. Mae rhyngwyneb LinkedIn yn ganolog i holl weithrediad y wefan, o’i gymharu â Twitter lle gellir anwybyddu iaith y rhyngwyneb i raddau helaeth, ac mae hynny siŵr o fod yn dylanwadu ar bobl. Dim ond drwy LinkedIn ydw i wedi cysylltu â nifer o bobl, a’r rheini’n bobl rwy’n adnabod drwy’r gwaith yn unig (sy’n gweithio mewn sefydliadau Saesneg eu hiaith yn bennaf), neu’n gysylltiadau tramor. Gan mai gwneud cysylltiadau yw prif ddiben LinkedIn, fel y mae’r enw’n awgrymu, mae’r dylanwad normadol i ddefnyddio’r lingua franca modern, sef y Saesneg, yn drwm ar bawb mae’n debyg.

  2. Wel mae pob sefydliad yng Nghymru yn sefydliad dwyieithog erbyn hyn wrth gwrs.
    🙂

    Dw i wedi dysgu mwy am ieithoedd a LinkedIn.

    O ran rhyngwyneb mae 18 iaith ar gael.

    Ond beth sy’n ddiddorol yw bod modd creu prif broffil a phroffil amgen mewn iaith arall (‘secondary profile’). Dweud bod ti eisiau’r prif proffil yn Gymraeg. Ar hyn o bryd mae rhaid dewis Other am Gymraeg. Ac wedyn rwyt ti’n gallu creu ail broffil yn Saesneg – dw i’n meddwl.
    http://help.linkedin.com/app/answers/detail/a_id/1680
    http://www.linkedin.com/profile/edit-profile-in-another-language

  3. Hefyd mae modd ychwanegu ieithoedd fel sgil. Cer i olygu proffil | ychwanegu adran (‘Add Sections’) | ieithoedd (‘Languages’).

    Dw i wedi rhoi tair iaith: English, Cymraeg a Welsh er mwyn tynnu pobl sydd yn chwilio.

Mae'r sylwadau wedi cau.