RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

Mae’r wefan Directgov sydd yn cynnig gwasanaethau fel:

  • treth car
  • pasbortau
  • swyddi
  • gwybodaeth a mwy

ar ran Llywodraeth DU yn dod i ben cyn hir. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o ymwelwyr i’r cofnod yma wedi defnyddio Directgov unwaith o leiaf. O 17eg mis Hydref 2012 ymlaen bydd gwasanaethau Llywodraeth ar gael trwy wefan newydd sbon o’r enw GOV.UK

Mae datganiad ar y fersiwn Saesneg o Directgov heddiw:

Ond does dim sôn eto ar y fersiwn Gymraeg:

Mewn gwirionedd does dim llawer o eitemau newyddion eraill chwaith:

(Ond mae cyfle i fynegi adborth fel y mae’r sgrinlun uchod yn ddangos.)

Er bod diffygion ar Directgov fel y mae, roedd ymdrech i gynnig gwasanaethau a gwybodaeth Cymraeg. Beth am y wefan newydd GOV.UK?

Bydd GOV.UK yn ‘simpler, clearer, faster’ yn ôl y sôn ond does dim opsiwn Cymraeg ar y beta. Gofynnais i ym mis Chwefror eleni ac mae’r cyfrif Twitter GOV.UK wedi addo Cymraeg. (Gweler hefyd.)

Does dim cyfeiriad i’r iaith ar y beta chwaith, dim gair ar hyn o bryd.

Fydd y ddwy iaith ar gael ar GOV.UK mewn mis ar 17eg mis Hydref 2012? Bydd llawer iawn o wasanaethau trwy’r gwefan. Heb sôn am y polisi ‘digital by default’, diolch i Francis Maude

Bydd Cymry ac efallai’r Comisiynydd y Gymraeg eisiau gwybod beth fydd y cynllun o ran cydraddoldeb ar y gwefan hwn.

4 sylw

  1. Ond mae’r wefan yn defnyddio techneg datblygu Agile felly fe allen nhw ychwanegu’r nodwedd fory, ei brofi dros y penwythnos a’i ryddhau yn y build ddydd Llun, wrth gwrs.

  2. Mae gan Debian fersiwn Agile mae nhw’n alw’n ‘sid’.. mae pecynnau’n diweddaru bob dydd, yn torri a wedyn cael eu trwsio. Dda ar gyfer datblygwyr ond ddim yn arbennig o addas i systemau byw!

  3. Mae https://www.gov.uk/cymraeg yn bodoli bellach (dolen reit ar waelod y hafan y fersiwn Saesneg). Mae’r mwyafrif o’r dolenni wedi torri neu’n mynd ar dudalenau Saesneg Directgov (hyd yn oed pan mae rhai Cymraeg yn bodoli), ond efallai bydd hyn yn newid.

    Dw i ddim yn gwybod beth i’w wneud o’r neges sy ar waelod yr hafan Cymraeg:

    Erbyn diwedd 2012, bydd gan GOV.UK gynnwys Cymraeg ar amrywiaeth o wasanaethau a gwybodaeth gan y llywodraeth, ee gwneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith, adnewyddu treth eich cerbyd a deall yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol.

Mae'r sylwadau wedi cau.