Diwrnod Ada Lovelace 2012: rhannu straeon am fenywod ym maes technoleg
Dydd Mawrth 16eg mis Hydref 2012 yw Diwrnod Ada Lovelace:
Diwrnod Ada Lovelace yw dathliad rhyngwladol o lwyddiannau benywod yn wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg. Amcan y digwyddiad yw rhannu straeon benywod sydd wedi ein hysbrydoli ni er mwyn creu modelau newydd i ferched a benywod ym meysydd lle mae dynion yn goruchafu. Cer i findingada.com am ragor o wybodaeth a sut i gymryd rhan.
Dechreuodd y digwyddiad yn 2009 fel diwrnod o flogio yn wreiddiol. Bellach mae modd cymryd rhan trwy rannu dy stori trwy unrhyw fformat gan gynnwys cofnodion blog, diweddariad Facebook, podlediad, trydariad ar Twitter a mwy. Os wyt ti’n chwilio am esgus i ddechrau blogio yn Gymraeg rwyt ti’n gallu creu blog Cymraeg am ddim yma. Does dim rhaid i ti sgwennu lot. Does dim rhaid i ti sgwennu hyd yn oed os wyt ti’n hoff o fideo neu awdio.
Mae sefydlwr y digwyddiad Suw Charman-Anderson wedi cyhoeddi erthygl ar Guardian amdano fe.
Dyma hanes y digwyddiad a mwy am Ada Lovelace ei hun.
Os wyt ti’n ystyried cymryd rhan, dyma enghreifftiau o gofnodion o ddiwrnodau Ada Lovelace a fu: Elin Rhys, danah boyd. Dyma’r unig enghreifftiau dw i’n gallu ffeindio yn Gymraeg ar hyn o bryd sori! Mae sawl cofnod mewn ieithoedd eraill. Mae croeso i ti bostio dolenni defnyddiol ar y pwnc yn y sylwadau.
llinos lanini 9:18 AM ar 16 Hydref 2012 Dolen Barhaol
I ddathlu diwrnod Ada Lovelace – ‘PwtFlog’
Dr Elen Jones Evans
Mae Dr Elen Jones-Evans, sy’n dod o Landyrnog, ger Dinbych yn wreiddiol, yn gweithio fel bridiwr planhigyn arbenigol i gwmni Monsanto yn nhref Latina, tref sydd i’r de o Rufain yn yr Eidal. Mae Elen yn rheoli a llywio’r ymchwil ac yn gweithio gyda ffermwyr a bridwyr i ddatblygu a meithrin melonau.
Dwi’n edmygu Elen yn fawr gan ei bod yn wyddonydd llwyddiannus benywaidd sydd wedi meistroli nid yn unig ei harbennigedd gwyddonol ond wedi gwneud hynnu drwy gyfrwng Eidaleg #seren
Rhodri ap Dyfrig 11:51 AM ar 16 Hydref 2012 Dolen Barhaol
Nes i sgwennu un i Elen Rhys ar Metastwnsh. Does dim fersiwn llawn ond dyma’r crynodeb http://www.blogiadur.com/hafan/category/elen-rhys/
Diolch am ddod â’n sylw ni at Dr Elen Jones-Evans!
Rhodri ap Dyfrig 1:04 PM ar 16 Hydref 2012 Dolen Barhaol
Newydd flogio am Christina Xu a merched Hacio’r Iaith.
Rhodri ap Dyfrig 2:06 PM ar 16 Hydref 2012 Dolen Barhaol
Mae @gwyddeles wedi postio dolen ddifyr i restr o ferched Cymreig sydd / oedd yn wyddonwyr http://chwaraeteg.com/women-in-science-in-wales/
Rhys Wynne 3:45 PM ar 16 Hydref 2012 Dolen Barhaol
Yn Gymraeg hefyd: http://cymraeg.chwaraeteg.com/menywod-mewn-gwyddoniaeth-yng-nghymru/
Rhys Wynne 11:45 AM ar 17 Hydref 2012 Dolen Barhaol
Postiodd Leia am ei ‘Adas hi’ ddoe