Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Es i i’r Hacathon Hanes diwethaf ac roedd hi’n diwrnod ardderchog ac ysbrydoledig – o ddatblygwyr, pobl data, haneswyr, ymchwilwyr, pobl chwilfrydig, ac eraill yn dod at ei gilydd i geisio canfod dulliau o ddarganfod a chyfleu hanes mewn ffyrdd newydd. Mae trefnwyr yr Hacathon Hanes wrthi eto, yn Aberyswyth y tro hwn, ac wedi… Parhau i ddarllen Dewch i’r Hacathon Hanes, 11 Chwefror 2020, Aberystwyth

Rhestr o wefannau Cymraeg colledig: Dim Cwsg, Pep le Pew, Dic Sais…

‘Dyn ni wedi dechrau tudalen o wefannau Cymraeg colledig ar Hedyn. Mae 36 gwefan arni hi eisoes gydag ambell i ddolen i archifau. Pam ydyn ni’n creu tudalen o hen wefannau Cymraeg? Ymchwil ac ysbrydoliaeth ydy dau reswm. Mae teimlad hefyd bod pobl yn anghofio faint sydd wedi ei gyflawni yn Gymraeg ar y we,… Parhau i ddarllen Rhestr o wefannau Cymraeg colledig: Dim Cwsg, Pep le Pew, Dic Sais…

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel post Cofnodion wedi'u tagio

Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones

Mae Dr Rhys J. Jones newydd rhannu dolen i bapur difyr o 2010 am hanes y Gymraeg ar-lein gan gynnwys grwpiau Usenet, rhestrau e-bost fel WELSH-L, agweddau cynnar y wasg Gymraeg a mwy. Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones Peidiwch anghofio i fwydo eich darllenydd blogiau/RSS gyda blog… Parhau i ddarllen Cilfachau electronig: geni’r Gymraeg ar-lein, 1989-1996 – papur gan Dr Rhys J. Jones

Arddangosfa Hanes y We Gymraeg #steddfod2013

Yn ogystal â chyfres o sesiynau Hacio’r Iaith yn Ninbych eleni mae arddangosfa Hanes y We Gymraeg trwy’r wythnos yn yr un adeilad – sef ‘m@es’ ar y maes ger y brif fynedfa. Dewch i weld yr holl ddatblygiadau – ac i ffeindio ysbrydoliaeth am y blynyddoedd i ddod! Diolch yn fawr iawn i Aled… Parhau i ddarllen Arddangosfa Hanes y We Gymraeg #steddfod2013

Casglu hanesion y we Gymraeg – beth ydi dy hanes di?

Efallai bod rhai ohonoch chi wedi gweld gwefan hanesywegymraeg.com yn barod ond dyma bostio cofnod amdano ar haciaith.cymru er mwyn gwneud yn siwr bod pawb wedi ei weld. Mae hanesywegymraeg.com ymdrech i gasglu hanesion, cerrig milltir, digwyddiadau allweddol a phrofiadau personol o’r hyn sydd wedi digwydd yn natblygiad y we Gymraeg o 1991 hyd 2012.… Parhau i ddarllen Casglu hanesion y we Gymraeg – beth ydi dy hanes di?

Stori Mair Russell Jones, Bletchley Park ac Enigma

[…] Am dros 70 mlynedd mae gwraig, mam a mam-gu wedi cadw cyfrinachau a heb egluro wrth ei theulu be yn union yr oedd hi’n ei wneud yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Mair Russell Jones yn fyfyrwraig ifanc ym Mhrifysgol Caerdydd pan gafodd gyfweliad gyda’r Swyddfa Dramor. Cafodd y swydd ac am bedair… Parhau i ddarllen Stori Mair Russell Jones, Bletchley Park ac Enigma

Dyfyniad da gan Dave Winer heddiw

I think history has shown over and over, that you must rise to the challenge of new technology, or be marginalized by it. Mae Dave Winer yn siarad am y diwydiant newyddion yma ond wrth gwrs dw i’n meddwl amdanom ni. http://scripting.com/stories/2010/10/12/allTheNewsThatsFitToPrint.html#p2692

blog Labs ar Casgliad y Werin

Mae blog gyda Chasgliad y Werin. http://labs.peoplescollection.co.uk Orffennwyd? Wel, maen nhw yn siarad amdano fe ar Twitter. Dyw’r rhyngwyneb y blog ddim ar gael yn yr ail iaith yn anffodus. (Ond mae gyda nhw “hub” ar Second Life.)