Hacio’r Iaith yn Llundain?
Neges gan Marc Webber:
Os diddordeb gan Hacio’r Iaith am drefnu sesiwn yn Canolfan Cymry’n Llundain rhywbryd?
Bydd e’n siawns i gwrdd a gics Gymraeg sy’n weithio yn Lundain ac, fallai, gwrdd a rhai o bobl sy isio gweithio i hybu’r iaith arlein?
Beth wyt ti’n feddwl?
Rhys Wynne 9:30 AM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Dychmygaf byddai galw. Dw i ddimyn nabod lot o siaradwyr Cymraeg sy’n byw yn Llundain, ond dw i’n gwybod bod miloedd ohonyn nhw. Off top fy mhen mae rhai pobl adnabyddus yn byw unai yn y ddinas neu’ de ddwyrain Lloegr Jim Killock (Open Rights), Sue Charman (Clwb Malu Cachu a mwy…), Owen Blacker (blaenllaw yn Open Rights a MySociety, ddim yn siwr pa mor hyderus yw e yn ei Gymraeg).
Petai’n cael ei drefnu i gydfynd ag un o’r gigs yno, falle byddai’n rheswn i rai deithoi o Gymru!
Rhodri 10:55 AM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Faswn i wrth fy modd yn cymryd rhan yn rhywbeth fel hyn. O drefnu’r peth yn iawn byddai’n gyfle i dynnu pobol allan o’r woodwork. Pam lai!
Felly pa fath o sesiwn fasa orau? Meetup? Demos? Rhywbeth BarCamp-aidd agored?
Rhys Wynne 11:28 AM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Wps, bron i mi anghofio Bryn S yn y rhestr enwogion!
Carl Morris 12:07 PM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Hoffwn i gymryd rhan hefyd!
Dw i newydd dechrau tudalen wici ar Hedyn i gasglu enwau/syniadau.
http://hedyn.net/wici/Hacio%27r_Iaith_Llundain_2012
Rhys Wynne 12:19 PM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
@Carl, faswn i’n meddwl mai Hacio’r Iaith Bach teip o beth sydd gan Marc dan sylw (ella mod i’n rong).
Leia 12:53 PM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Mae nifer o ddysgwyr SSIW yn Llundain hefyd. Siwr o fod basai diddordeb gyda rhai ohonyn nhw.
Jonathan 6:36 PM ar 25 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Mae’na nifer o ddysgwyr a siaradwyr o fewn cyrraedd Llundain hefyd, e.e. mae’r daith dim ond awr a 50 muned o Derby i Lundain ar y tren. Felly gad i mi wybod os oes Hacio’r Iaith yn digwydd yn Llundain.
Marc Webber 10:15 AM ar 27 Ebrill 2012 Dolen Barhaol
Helo,
Pawb yn positf am y syniad. Gwych! Deud y gwir, dim cynlluniau bendant gen i am gynnwys sesiwn yn lundain.
Ond, wi’n gwybod ( fel aelod o Ganolfan Cymru LLundain) dwi’n gallu rhenti ystafell mewn ganolfan a fydd tim rheoli ganolfan yn hapus iawn i gefnogi cyfarfod yno.
Pwrpas ‘Haciaith a’r daith’ i mi yw tynnu sylw at digwyddiadau/ adnoddau mewn byd technoloeg cymraeg i bobl gymraeg sy’n byw yn Lundain (a Derby, Jonathan!) ond hefyd, i’r bobl yn y byd technoloeg gyffedinol yn lundain.
Felly cael sesiwnau sy’n ddangos beth sy ar gael twy’r gymraeg nawr, ond hefyd edrych ymlaen i’r dyfodol ac efallai creu perthnasau efo bobl o lundain sy’n gweithio mewn byd digidol yno.
Beth ydych chi’n feddwl?
Bryn 12:06 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol
Haia pawb. Dwi’n hoffi’r syniad ‘ma hefyd… a nid jest achos bod o’n agos 🙂
Pryd da ‘ni am gwneud hwn felly?
Marc Webber 12:58 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol
Beth wyt ti’n feddwl. Ar ol gemau olympaidd?>
Rhodri 4:07 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol
Medi? 5 mis cyn Hacio’r Iaith diwedd Ionawr 🙂 Fydd hi’n amser dechrau cynllunio hwnna eto cyn i ni droi…
Bryn 8:38 PM ar 1 Mai 2012 Dolen Barhaol
Aye, fysa disgwyl tan ar ol yr Olympics yn syniad da. Fydd rhan ‘na o Llundain yn nuts amser ‘na…
cathasturias 5:29 PM ar 2 Mai 2012 Dolen Barhaol
Mae’n bosib y byddaf i yn Llundain rywbryd ym mis Medi – os felly, mi ddo’i. Os am arddangos yr e-fyd Cymraeg beth am wahodd Rory Cellan Jones i wneud rhywbeth i’r Bib – eu Gwasanaeth Bydeang – fyddai’n gallu cyrraedd defnyddwyr ieithoedd lleiafrifol eraill?
Rhodri ap Dyfrig 9:38 AM ar 4 Mai 2012 Dolen Barhaol
@cathasturias syniad da: mae Gareth Mitchell sydd yn cyflwyno rhaglen BBC Click (http://www.bbc.co.uk/programmes/p002w6r2) yn Gymro ac wedi dangos diddordeb mewn sdwff Haciaith o’r blaen.