Ar agor: Cynllun Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-16

Llun o Raspberry Pi gan Jan Grosser
Llun o Raspberry Pi gan Jan Grosser

Mae’r Grant Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg 2015-2016 Llywodraeth Cymru  ar agor i geisiadau rhwng nawr a’r 30ain o Ionawr 2015.

Mae’r grantiau yn cefnogi amcanion y cynllun gweithredu Technoleg a chyfryngau digidol Cymraeg.

Pwrpas y cynllun gweithredu yw annog gweithgareddau sy’n hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg trwy dechnoleg a chyfryngau digidol. Prif ffocws y grant fydd cefnogi gweithgareddau sy’n:

  • codi ymwybyddiaeth o, neu hybu’r defnydd o feddalwedd, aps, gwasanaethau ar-lein, a theclynnau creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys digidol Cymraeg.
  • cefnogi datblygiad meddalwedd a gwasanaethau digidol Cymraeg
    ar-lein
  • cynyddu faint o gynnwys Cymraeg sydd ar gael ar-lein.

Croesawir ceisiadau gan gyrff o’r trydydd sector, y sector breifat a’r sector gyhoeddus ar gyfer gweithgareddau nad ydynt yn ddarostyngedig i’w Cynlluniau Iaith Gymraeg statudol.

Gweithgareddau cymwys

Dyma rai o’r gweithgareddau sy’n gymwys i’w hariannu dan y cynllun:

  • Datblygu gwasanaethau rhyngweithiol Cymraeg ar-lein newydd;
  • Yr isadeiledd digidol sydd ei angen er mwyn rhoi sylfaen i’r Gymraeg yn y maes digidol. E.e. llais i destun a deallusrwydd artiffisial;
  • Mapiau rhyngweithiol yn y Gymraeg lle gellir mewnosod mapiau gyda labeli ac enwau llefydd Cymraeg ar dudalennau we;
  • Prosiectau i gynyddu faint o gynnwys digidol yn y Gymraeg sydd ar gael ar-lein. Mae cynigion cynnwys sy’n ysbrydoli eraill i gyfrannu ac ehangu ar y cynnwys yn debygol o sgorio’n uwch na phrosiectau sy’n cyflwyno cynnwys gorffenedig;
  • Mentrau hyfforddi a chyrsiau codio, gan gynnwys hyfforddiant ar gyfer pobl ifanc;
  • Mentrau i godi ymwybyddiaeth a hybu’r defnydd o feddalwedd, cynhyrchion seilwaith, cymwysiadau, gwasanaethau ar-lein, ac offer creu cynnwys Cymraeg – a chynnwys Cymraeg digidol;
  • System rheoli digwyddiadau ar lein a all hwyluso’r broses o drefnu digwyddiad, gwahodd/dosbarthu tocynnau a hyrwyddo’r digwyddiad ar draws y cyfryngau cymdeithasol;
  • Cleient Twitter Cymraeg ar gyfer cyfrifiaduron llechen a ffonau clyfar;
  • Teclyn torfoli trosiadau rhyngwyneb sy’n hwyluso defnydd termau safonol ar gyfer labelu botymau a negeseuon yn y porwr;
  • Ap treiglo;
  • Ategion/widgets Cymraeg ar gyfer gwasanaethau blogio a datblygu gwefannau;
  • Systemau gweithredu dwyieithog megis systemau adnoddau dynol a systemau cyllid;
  • Unrhyw weithgareddau eraill fyddai’n cyfrannu at gyflawni’r amcanion a gyflwynwyd yng Nghynllun Gweithredu Technoleg a Chyfryngau Digidol Cymraeg Llywodraeth Cymru, ac a fyddai’n addas i dderbyn grant.

 Am fwy o wybodaeth am y grant, yn cynnwys y ffurflen gais a’r canllawiau a meini prawf:

http://cymru.gov.uk/techcy

 

Gan Gareth Morlais

- gweithio i Lywodraeth Cymru fel arbennigwr y Gymraeg, technoleg a'r cyfryngau digidol - fy marn i sydd yma, nid y cyflogwr. - diddordeb arbennig mewn straeon digidol a gwefannau a hanes lleol - byw yng Nghaerdydd