Am ryw reswm dwi wedi cael rhyw chwilen yn fy mhen am ddarllen barddoniaeth yn ddiweddar. Dwi rioed wedi o’r blaen, ond mae prinder amser a wedi arwain fi i ddechrau chwilota. Fy mhroblem i ydi, a dwi di cael yr un broblem gyda jazz o’r blaen, ydi bod darganfod beth dwi’n lecio chydig yn annodd. Mi allwn i holi Twitter am argymhellion, ond mae’n rhaid bod na ffyrdd gwell o wneud hynny, efallai gan ddefnyddio algorithmau.
Ond wrth feddwl am hyn, nesh i feddwl oes na’r data ar gael i wneud rhedeg unrhyw algorithm yn werth chweil? Oes data gan Gwales efallai am bryniannau? Oes data gan S4C am Clic? Oes data gan Golwg360 am ddarllenwyr? Dwi’n amau taw na yw’r ateb gan nad oes gan yr un (heblaw falle Gwales?) systemau sydd yn tracio dewisiadau defnyddwyr.
Nid yn unig byddai hyn o werth wrth feddwl am ba gynnwys sy’n gweithio, mae’n hollbwysig ar gyfer personoleiddio cynnwys. Mae data defnyddwyr yn rhan greiddiol o strategaeth Channel 4, a’r BBC trwy BBC ID.
Gan nad oes neb wedi cymryd cam i’r cyfeiriad hwn eto, beth am gynnig syniad: be am gael rhyw fath o system defnyddwyr (fel OpenID efallai) sydd yn gallu cael ei osod fel dull mewngofnodi ar draws y we Gymraeg. Byddai wedyn ffordd o gael data meintiol mawr am ddefnyddwyr, a fyddai nid yn unig yn arf marchnata grymus (faint o bobol sydd ddim yn prynu deunydd Cymraeg am nad ydyn nhw wedi ffeindio’r peth ma nhw isio?), ond yn bwysicach yn arf ar gyfer hybu diwylliant drwy ffeindio ffyrdd newydd o gael pobol at be ma nhw isio.
Be chi’n feddwl? Breuddwyd ffwl?
Rhys 9:41 AM ar 15 Awst 2012 Dolen Barhaol
Wow, dw i’n ymweld a gwefan G360 yn ddyddiol fwy neu lai, weithiau sawl gwaith mewn diwrnod, ond byth wedi gweld dim un o’r cofnodion hyn.
O glicio ar ei enw o restr cyfranwyr blogiau: http://www.golwg360.com/blog/bryn-salisbury mae wedi sgwennu sawl cofnod ddiddorol, ac wedi bod wrthi ers mis Mehefin!
Ond stwff da iawn, a diolch i G360.
Oes modd tynnu RSS allan o’r URL at gyfraniadau Bryn a’u gosod yn y golofn dde yma?
Rhodri ap Dyfrig 11:43 AM ar 15 Awst 2012 Dolen Barhaol
Mae modd cael ffrwd RSS o awduron WordPress fel arfer drwy roi /feed/ ar ddiwedd yr URL sydd yn dangos holl gofnodion yr awdur, ond efallai achos bod y blog wedi ei ymgorffori mewn i URL G360 bod hyn ddim yn gweithio. Dwi’n siwr bod modd gwneud yn weddol syml os fasan nhw’n mynd mewn i’r côd.
Ifan Morgan Jones 12:41 PM ar 15 Awst 2012 Dolen Barhaol
“Un peth sy’n biti mawr efo blog Golwg ydi bod dim un o’r cofnodion yn gwneud y dudalen flaen felly dwi’n amau os ydi llawer o’r darllenwyr cyffredinol yn eu gweld nhw. Dwi’n sicr yn methu llawer o bethau yno yr hoffwn i eu darllen.
Mae’n rhoi’r agraff, nid ar bwrpas dwi’n siwr, bod y cofnodion blog yn eilradd rywsut er eu bod nhw llawn cystal darlleniad (os nad gwell!) na llawer i erthygl sy’n cyrraedd y dudalen flaen.”
Y broblem yw mai dim ond hyn a hyn allet ti ei wasgu i mewn i’r dudalen flaen. Os wyt ti’n rhoi blogiau rywle ar y brig fel bod pobol yn eu gweld nhw, ti’n gwthio pethau eraill oddi yno. Yn anffodus dyw lot o bobol ddim yn crwydro tu hwnt i’r dudalen flaen ac felly dydyn nhw ddim yn gweld yr holl gynnwys arall sydd ar y wefan.
Mae’r dudlen flaen wedi ei drefnu yn ol pa gynnwys sy’n tueddu i ddenu’r mwyaf o ddarllenwyr, a pa adrannau sy’n tueddi i fod mwyaf bywiog o ran cynnwys, felly Cymru > newyddion gweddill y byd > stwff celfyddydau > stwff chwaraeon.
Mae yna lot o bobol yn darlen blogs unigol, ond oherwydd bod prif ffocws staff y wefan ar yr ochor newyddion does dim cymaint a hynny o flogiau’n cael eu cyhoeddi,* felly isel iawn yw nifer darllenwyr yr adran blogiau yn ei gyfanrwydd o;i gymharu gyda’r adrannau mwy bywiog (alet ti ddadlau bod hyn yn ryw fath o Catch-22, ond dyna ni mae’n rhaid blaenoriaethu rhwyle!). Byddai unrhyw adran blogiau ar y dudalen flaen yn eitha statig. Dyna pam bod angen gwefan arall sy’n canolbwyntio ar stwff barn yn unig a sydd heb ei ariannu’n gyhoeddus (fel bod mwy o le i fod yn cheeky a gofyn am gyfraniadau am ddim), a gadael i Golwg ganolbwyntio ar y newyddion yn llawn amser, yn fy nhyb i.
*Mae’r blog wedi bod yn eitha prysur dros yr wythnosau diwethaf, ond mae’n gallu bod yn eitha marwaidd ar adegau!
Carl Morris 12:11 AM ar 16 Awst 2012 Dolen Barhaol
http://quixoticquisling.com/2011/05/dilyn-barnau-golwg360/
Carl Morris 5:30 PM ar 16 Awst 2012 Dolen Barhaol
Gyda llaw mae’n braf i weld gymaint o fideos Golwg360 ar y blog eleni. Mae 10 fideo o’r Steddfod dw i’n meddwl. Ond mae angen hyrwyddo nhw!
Rhodri ap Dyfrig 9:54 PM ar 16 Awst 2012 Dolen Barhaol
Dwi’n anghytuno yn eitha sylfaenol efo dy awgrym y dylia Golwg360 ganolbwyntio ar newyddion yn unig. Mae barn yn rhan bwysig o bob darpariaeth newyddion. Mae pobol yn prynu a darllen am y colofnwyr yn aml iawn. Teimlo i fi fel bod G360 yn methu tric mawr iawn. A pham bod rhaid cael un wefan barn? Faswn i’n deud bod lle i G360 wneud *a* chael gwefan barn ar wahan. Mae’n nhw am roi lle i farn gwahanol.
Os gall ddarparwyr newyddion eraill fel y Guardian, BBC, roi dolenni i flogiau a cholofnau ar eu tudalen flaen yna dwi ddim yn meddwl taw real estate sgrin yw’r broblem. Mater o ddylunio ia ddim?
Dafydd Tomos 10:50 PM ar 16 Awst 2012 Dolen Barhaol
Fe ddylai Golwg360 hyrwyddo cofnodion blog o’r dudalen flaen a peidio gwahaniaethu rhyngddynt a “erthyglau” newyddion (mae’n anodd galw eitemau tri paragraff yn newyddion ond dyna ni). Dyma be mae wefan y BBC yn wneud gyda eu erthyglau ‘cylchgrawn’ wythnosol. Yn amlwg does gan Golwg ddim cyfrannwyr cyson, proffesiynol i’r blog, felly os nad oes cofnodion blog yn yr wythnos ddiwethaf, fase dim angen dolen.
Mae’n dda cael y fideos, ond does dim gair o esboniad na cyflwyniad yn y cofnodion hynny. Dim ond un neu ddau baragraff sy eisiau.
Ifan Morgan Jones 7:39 PM ar 20 Awst 2012 Dolen Barhaol
“Dwi’n anghytuno yn eitha sylfaenol efo dy awgrym y dylia Golwg360 ganolbwyntio ar newyddion yn unig.”
Sori nawr dw i’n gweld dy ymateb. Dw i’n cytuno y byddai yn wych petai modd i Golwg 360 fuddsoddi mewn mwy o stwff barn. Yn anffodus ychydig iawn o adnoddau sydd gan Golwg 360 o’i gymharu gyda e.e. y BBC a’r Guardian. Mae’r holl adnoddau bron yn cael eu gwario ar yr ochor newyddion (sydd, fel y mae DT yn ei agwrymu uchod, angen mwy o adnoddau os rywbeth). Os fydden nhw’n penderfynu buddosoddi mwy mewn stwff barn byddai rhaid buddsoddi llai yn y stwff newyddion. O ystyried yr adnoddau sydd ar gael i’r cwmni, dw i’n credu ei fod yn well ceisio sicrhau gwasanaeth newyddion o safon na ‘taenu’r menyn yn rhy denau’ wrth geisio gwneud ychydig o bopeth, a gwneud hynny’n wael.
Carl Morris 12:19 AM ar 21 Awst 2012 Dolen Barhaol
O ran buddsoddiad, o’n i’n meddwl bod y blogwyr gwadd yn gwirfoddoli?
Ifan Morgan Jones 3:47 PM ar 21 Awst 2012 Dolen Barhaol
Mae rhai blogwyr yn gwirfoddoli, mae rhai yn disgwyl taliad. Ond prynu amser mae’r buddsoddid, yn fwy na’r arian i dalu cyfranwyr. Hyd yn oed os oes rhywun yn fodlon cyfrannu am ddim mae angen rhywun i drefnu i gysylltu ag o i ofyn am flog a dewis y pwnc a ballu / golygu’r deunydd / sortio llun / ei gyhoeddi, ayyb. Does gan olygydd sy’n delio efo 30+ o straeon y dydd, a gohebwyr sy’n gwneud 10+ straeon y dydd, ddim amser i fod yn hel cyfrannwyr i’r blog drwy’r dydd. Roeddwn i’n arfer sgwennu lot o flogiau pan oeddwn i yno, ond hynny yn ystod yr awr ginio gan amlaf, gan nad oedd amser fel arall!