Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

Cwrddais i rywun o Nominet ddoe – roedd e’n rhedeg stondin marchnata ar ran Nominet mewn cynhadledd yn Abertawe. Mae Nominet wedi dechrau ymgyrch marchnata cynnar er mwyn codi ymwybyddiaeth o’r posibilrwydd o enwau parth lefel uchaf .cymru a .wales. Mae angen aros tan fis Mehefin 2013 am ateb oddi wrth ICANN ynglŷn â’r ceisiadau.… Parhau i ddarllen Nominet yn camddefnyddio Google Translate i hyrwyddo .cymru a .wales

META-NET: astudiaethau o sefyllfa technoleg iaith 30 o ieithoedd Ewrop

Mae cyfres o adroddiadau wedi cael eu cyhoeddi gan META-NET, yn edrych ar sefyllfa 30 o ieithoedd Ewrop o ran technoleg iaith. Mae Basgeg, Catalan a Gwyddeleg yn eu plith ond dydy’r Gymraeg ddim gwaetha’r modd. Dyma’r canlyniadau allweddol: http://www.meta-net.eu/whitepapers/key-results-and-cross-language-comparison Gellir llwytho copïau o’r adroddiadau unigol llawn o: http://www.meta-net.eu/whitepapers/index_html

Sawl tafarn sydd yn Gaernarfon? 2 yn ôl Apple.

Neithiwr fe lawr-lwythais iOS 6 i fy iPad ag fy iPhone. Y newid mwyaf oedd yn dod gyda’r diweddariad yma oedd y ffaith fod Apple yn cael gwared o Google fel eu system mapio ac yn creu un eu hyn. Roedd gennai ddim llawer o ffydd y fydd Apple yn poeni am ein cornel bach… Parhau i ddarllen Sawl tafarn sydd yn Gaernarfon? 2 yn ôl Apple.

Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

Heddiw mae Twitter wedi anfon negeseuon preifat i ddefnyddwyr sydd wedi gwneud cais am ryngwyneb Cymraeg. Mae’r prosiect ar agor i bawb gyda chyfrif Twitter sydd yn fodlon gwirfoddoli. Mae Cymraeg ar y rhestr ymhlith lot o ieithoedd eraill. 1. Cer i http://translate.twttr.com ar dy gyfrifiadur os wyt ti eisiau cymryd rhan. (Dw i ddim… Parhau i ddarllen Twitter yn ychwanegu Cymraeg i'r prosiect cyfieithu rhyngwyneb

RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

Mae’r wefan Directgov sydd yn cynnig gwasanaethau fel: treth car pasbortau swyddi gwybodaeth a mwy ar ran Llywodraeth DU yn dod i ben cyn hir. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf o ymwelwyr i’r cofnod yma wedi defnyddio Directgov unwaith o leiaf. O 17eg mis Hydref 2012 ymlaen bydd gwasanaethau Llywodraeth ar gael trwy wefan… Parhau i ddarllen RIP Directgov Cymraeg. Ond beth nesaf?

Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru

Mae’r sefydliad nid-ar-elw tu ôl Raspberry Pi wedi datgan heddiw bod nhw wedi comisiynu’r ffatri Sony ym Mhencoed i gynhyrchu cyfrifiaduron Raspberry Pi yna. Mae’r stori ar BBC Newyddion a Wales Online hefyd. Mae’n siwr fydd mwy o lwyddiant na chyfrifiaduron eraill y gynhyrchwyd yng Nghymru fel y Sam Coupé a’r Dragon 32. Mae sawl… Parhau i ddarllen Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru

Dyma fi dwi fan hyn Ac fan hyn…

Dyma fi, dwi fan hyn! Ac, fan hyn : http://www.golwg360.com/blog/dai-lingual Wedi son am y prosiect www.blogwyrbro.com yn fy mlog newydd i Golwg 360, ni fydd y blog cyn hired a hynny bob wythnos! Cynhyrfais i braidd y tro cyntaf, ond mae hynny’n reit gyffredin mae nhw’n dweud

Cyhoeddwyd
Wedi'i gategoreiddio fel Amrywiol

Profi fersiwn newydd o Debian

Mae system weithredu Debian GNU/Linux yn ddosbarthiad poblogaidd o Linux sy’n sail i nifer o ddosbarthiadau eraill yn cynnwys gwahanol flasau o Ubuntu ac eraill (rhestr llawn yma). Ar hyn o bryd, mae fersiwn newydd Debian 7.0 (wheezy) yn cael ei gwblhau a’u brofi. Mae sefydlydd y system ar gael mewn nifer o ieithoedd yn… Parhau i ddarllen Profi fersiwn newydd o Debian

Cyfres @Bryns ar dechnoleg ar flog Golwg360

Mae cyfaill Hacio’r Iaith Bryn Salisbury wedi dechrau sgwennu cyfres ddifyr iawn o erthyglau ar flog Golwg360 am dechnoleg. Un peth sy’n biti mawr efo blog Golwg ydi bod dim un o’r cofnodion yn gwneud y dudalen flaen felly dwi’n amau os ydi llawer o’r darllenwyr cyffredinol yn eu gweld nhw. Dwi’n sicr yn methu… Parhau i ddarllen Cyfres @Bryns ar dechnoleg ar flog Golwg360