Profi fersiwn newydd o Debian
Mae system weithredu Debian GNU/Linux yn ddosbarthiad poblogaidd o Linux sy’n sail i nifer o ddosbarthiadau eraill yn cynnwys gwahanol flasau o Ubuntu ac eraill (rhestr llawn yma).
Ar hyn o bryd, mae fersiwn newydd Debian 7.0 (wheezy) yn cael ei gwblhau a’u brofi. Mae sefydlydd y system ar gael mewn nifer o ieithoedd yn cynnwys Cymraeg. Y tro yma, roedd y fersiwn Gymraeg am ddiflannu oherwydd nad oedd wedi ei ddiweddaru ers rhai blynyddoedd.
Felly fe es i ati i gwblhau’r cyfieithiad gan fod y meddalwedd yn cael ei ‘rewi’ ddiwedd mis Mehefin. Fe ddylai’r gwaith yma fwydo mewn i Ubuntu yn y dyfodol.
Erbyn hyn mae fersiwn beta o sefydlydd Debian ar gael. Os ydych am brofi’r sefydlydd newydd a’r cyfieithiad Cymraeg, fe allwch gael copi o’r sefydlydd fan hyn (ffeil ISO). Mae’n bosib defnyddio VirtualBox neu rhywbeth tebyg i osod system newydd mewn peiriant rhithwir. Mi fase’n ddefnyddiol cael adborth am unrhyw wallau amlwg.
Carl Morris 7:39 PM ar 3 Medi 2012 Dolen Barhaol
Gwych iawn. Diolch yn fawr am dy waith Dafydd. Oes deadline am adborth?
Dafydd Tomos 10:43 AM ar 4 Medi 2012 Dolen Barhaol
Mae Debian yn enwog am beidio ryddhau tan fod nhw’n trwsio pob nam ond dwi’n meddwl fod rhyw fwriad i ryddhau erbyn Chwefror 2013 yn dilyn y patrwm blaenorol.
Felly dwi’n meddwl fydd cwpl o fisoedd eto ar gael i newid pethau cyn “rhewi’r” llinynnau.
Wnes i anghofio ddweud fod y cyfieithiad yma yn adeiladu ar waith Dafydd Harries ac eraill o 2004 ymlaen.
Raspberry Pi: gynhyrchwyd yng Nghymru | Hacio'r Iaith 4:28 PM ar 6 Medi 2012 Dolen Barhaol
[…] Profi fersiwn newydd o Debian […]
Aled Treharne 2:37 PM ar 3 Hydref 2014 Dolen Barhaol
Dafydd,
Diolch o galon am helpu – we’n temilo fel ‘mod i’n hala hanner ‘mywyd i yn disgwyl am ffyrdd i wneud systemau i weithio’n y Gymraeg.
Un peth – wy’n disgwyl ar fersiwn 0.9 o /usr/share/i18n/locales/cy_GB – ai dyna dy fersiwn mwya diweddar? Dydw i ddim cweit yn sicr am gyfieithedau y diwrnodau – e.e.
setlocale(LC_ALL,”cy_GB”);
echo strftime(“%A”);
> Gwener
On yn y Saesneg, cei “Friday” yn ol. Dyle’r ateb yn Gymraeg fod “Dydd Gwener”?
Diolch,
Aled.
Dafydd Tomos 10:17 PM ar 20 Hydref 2014 Dolen Barhaol
Diolch Aled. Oes mae yn wall yn y dyddiau. Dwi wedi bod yn ceisio diweddaru hwn gyda’r ffynhonnell i’r locales (glibc). Yn anffodus mae’r person oedd yn cynnal y ffeil yn wreiddiol ddim mewn cysylltiad a mae’n rhaid i mi brofi fod gen i hawliau i ddiweddaru’r ffeil! Wnai ddal ati.