Wel, am llawer wedi cyrraedd, di cael paned ac wedi gosod eu syniadau am sesiwn ar y grid. Dwi rwan yn eistedd yn ystafell 1 yn gwrando ar drafoddaeth eang iawn oedd wedi dechrau am Golwg360 ond sydd rwan wedi mynd i son am fod yn fasnachol yn y Gymraeg yn fwy cyffredinol. Un broblem… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith wedi cychwyn!
Categori: Amrywiol
bore da!
edrych mlaen i ddydd sadwrn
One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!
Rhwng 12-1pm ar ddydd Sadwrn, byddwn ni’n darlledu’n fyw o Hacio’r Iaith. Criw podlediad Metastwnsh fydd yno, yn mynd trwy eu petha, gan edrych ar bynciau llosg technolegol y dydd. Dwi’n credu mod i’n iawn i ddweud y bydd Bryn, Iestyn, Sioned, a Rhys yn cynrychioli. Gair. Mae’r ffrydio yn dod i chi drwy garedigrwydd… Parhau i ddarllen One, two…One, two…testing…Y Darllediad Byw!
Sticeri Adnabod
Da ni wedi creu set o dempladau ar gyfer creu sticeri “Helo” ar gyfer Hacio’r Iaith. Cliciwch ar y ddelwedd i weld y set gyfan. Oes ganddoch chi awgrym am un mewn tafodiaith arall?
Yn cyhoeddi…Y Poster
Felly dyma’r poster ar gyfer y digwyddiad. Kudos *hiwj* i Iestyn Lloyd yn Sbellcheck (ac un o gyfrannwyr diweddara Metastwnsh) am ddylunio fo i ni, ac am wneud y logo bach cŵl yn y gornel dop chwith. Dwi’n siwr bydd y digwyddiad yr un mor ôssym, os ychydig llai sinematig, na’r poster. Revenge of the… Parhau i ddarllen Yn cyhoeddi…Y Poster
Croeso
1, 2… 1, 2… Croeso i’r wefan Hacio’r Iaith.