2013: Pa lyfrau a thestunau Cymraeg wedi dod i’r parth cyhoeddus heddiw?

Blwyddyn newydd dda. Bob 1af o fis Ionawr ar Hacio’r Iaith rydyn ni’n dathlu’r awduron sydd wedi dod i’r parth cyhoeddus. Heddiw, yn ôl cyfraith hawlfraint, mae gweithiau testun gan awduron sydd wedi marw yn 1942 yn dod yn hollol rydd. Mae modd ailddefnyddio ac ailgyhoeddi nhw heb gyfyngiadau bellach. Mae rhestr ar Y Bywgraffiadur… Parhau i ddarllen 2013: Pa lyfrau a thestunau Cymraeg wedi dod i’r parth cyhoeddus heddiw?

Datganiad y diweddar dotCYM yn beirniadu Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, Nominet

Dw i newydd darllen bod dotCYM yn dod i ben fel menter cymdeithasol: […] “Wedi pedair mlynedd o Blaid Cymru mewn grym yn gwneud dim byd positif i’n helpu, daeth Edwina Hart yn Wenidog”, meddai Maredudd ap Gwyndaf, cyn-gyfarwyddwr dotCYM, “Cafodd Nominet y nód i symud i fewn a doedd dim gobaith gyda ni yn… Parhau i ddarllen Datganiad y diweddar dotCYM yn beirniadu Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, Nominet

Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yma: Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru Penglais SY23 1BU Aberystwyth Dydd Gwener 18fed mis Ionawr 2013 09:30 i 19:00 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i’w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i… Parhau i ddarllen Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Prosiect rhyngwyneb Reddit Cymraeg

Mae’r platfform sgwrs/rhannu dolenni Reddit newydd lansio prosiect cyfieithu’r rhyngwyneb i sawl iaith gwahanol gan gynnwys Cymraeg. Os wyt ti’n chwilfrydig am Reddit ac eisiau cael profiad cyntaf mae is-reddit o’r enw Cymru.

Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Mae’r Grŵp Hawliau Agored ar daith i siarad am y peryg o golli preifatrwydd personol ar y rhyngrwyd. Bydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 28ain mis Tachwedd 2012. Mae’r grŵp wrthi’n ymgyrchu yn erbyn y Siarter Ysbiwyr, sef bil drafft gan y llywodraeth clymblaid yn San Steffan i orfodi darparwyr rhyngrwyd, platfformau rhwydwaith cymdeithasol a darparwyr eraill… Parhau i ddarllen Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up

Mae amrywiaeth eang o ddyfeisiau symudol. Os wyt ti’n creu aps symudol neu gwefannau ac eisiau profi dy feddalwedd ar ddyfeisiau gwahanol mae’r cwmni Cover-Up ym Mhen-y-Bont yn cynnig labordy gyda llyfrgell o dua 100 dyfais gwahanol. Hefyd maen nhw yn hapus i groesawi unrhyw un am ddim – i gyd sydd angen ydy cofrestru… Parhau i ddarllen Labordy dyfeisiau agored ym Mhen-y-Bont gyda @cover_up

Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg

Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill. Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.) Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys… Parhau i ddarllen Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg

Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle

Rydyn ni wrthi’n drefnu Hacio’r Iaith 2013 yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ac mae’n fraint i ddweud bod modd cofrestru lle am ddim heddiw! Manylion Dydd Sadwrn 19fed mis Ionawr 2013 9:30YB – 5:00YH (amser cau i’w gadarnhau) Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Abersytwyth, Ceredigion, Cymru Diolch i Illtud Daniel a phobl Llyfrgell Genedlaethol Cymru am… Parhau i ddarllen Hacio’r Iaith 2013, Aberystwyth: cofrestrwch lle

Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron

Literatim (Android) Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android… Parhau i ddarllen Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron