Datganiad y diweddar dotCYM yn beirniadu Llywodraeth Cymru, Plaid Cymru, Nominet

Dw i newydd darllen bod dotCYM yn dod i ben fel menter cymdeithasol:

[…] “Wedi pedair mlynedd o Blaid Cymru mewn grym yn gwneud dim byd positif i’n helpu, daeth Edwina Hart yn Wenidog”, meddai Maredudd ap Gwyndaf, cyn-gyfarwyddwr dotCYM, “Cafodd Nominet y nód i symud i fewn a doedd dim gobaith gyda ni yn erbyn cwmni mawr o’r fath, oedd yn cael cymorth gymaint o Gymry i gymryd adnodd mor bwysig oddi wrth y wlad. Does dim ots punai Llafur neu Plaid Cymru sydd a’r grym, does dim diddordeb mewn mentrau cymdeithasol, yn enwedig os oes sôn am gefnogi iaith neu ddiwylliant fel rhan o’r fenter”.

Gyda dim ond dau wirfoddolwr yn gweithio yn eu hamser rhydd gyda dotCYM, roedd yn bosib i redeg y fenter ond yn amhosib ymladd yn erbyn Nominet, y gweison sifil yng Nghymru, Llywodraeth Cymru, Darran Hill a’i gwmni PR, a Ieuan Evans ac aelodau eraill Grŵp Yngynghorol Nominet Cymru. […]

Ŵff.

Mae’r datganiad llawn yn cynnwys rhagor o sylwadau.

Mae cyfieithiad Saesneg hefyd.

2 sylw

  1. Rwy’n aelod o dîm sy’n gweithio ar brosiect pwysig newydd sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a hoffen ni ofyn am eich help. Tybed a fyddai modd i chi anfon eich cyfeiriad ebost ata i fel ‘mod i’n gallu anfon mwy o wybodaeth, os gwelwch yn dda?
    Cofion,
    Dr Dawn Knight, Prifysgol Newcastle
    CorpwsCymraeg@gmail.com

Mae'r sylwadau wedi cau.