Tagiwyd fel: iPad Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 12:50 AM ar 23 October 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Ap Geiriaduron, , , bysellfwrdd, , , iPad, , Literatim,   

    Lansiad dau ap symudol hanfodol: bysellfwrdd Literatim ac Ap Geiriaduron 

    Literatim (Android)

    Yn ein pabell yn Steddfod Gen eleni cyflwynodd David Chan ei brosiect newydd, bysellfwrdd darogan Cymraeg ar Android. Mae fe wedi bod yn gweithio’n galed ar y meddalwedd fel menter annibynnol llawrydd. Roedd ambell i berson yn y pabell mis Awst yn dweud bod nhw yn fodlon symud o ffonau eraill i Android er mwyn defnyddio’r ap. Dyma gwir ystyr ‘killer ap’ (fel VisiCalc ar yr Apple II…)

    Dw i newydd dysgu taw Literatim yw enw yr ap bysellfwrdd, sef y gair Lladin am ‘llythyren am llythyren’. Dydd Mawrth bydd lansiad yr ap ar gopa’r Wyddfa! O hanner dydd ymlaen bydd yr ap ar gael yn y storfa Google Play am ddim yn ogystal ag ap geiriaduron o’r enw… Ap Geiriaduron. Mwy am Ap Geiriaduron nes ymlaen.

    Yn gyntaf dyma sut mae Literatim yn edrych ar Android os wyt ti’n defnyddio teipio darogan. Mae dros 100,000 o eiriau gan gynnwys Cymraeg anffurfiol.

    Mae nodwedd diddorol i bobl sydd ddim yn rhugl yn Gymraeg. Os wyt ti’n dechrau teipio gair yn Saesneg mae’r bysellfwrdd yn awgrymu cyfieithiadau Cymraeg. Yn yr enghraifft yn y sgrinluniau mae ‘succeed’ yn gallu cyfieithu i ‘dilyn’ (yn yr ystyr o ‘succession’)…

    …neu ‘llwyddo’ felly mae’r meddalwedd yn awgrymu’r ddau yn ogystal ag opsiynau eraill. Mae geiriadur wrth law i helpu gyda’r ystyr priodol hefyd.

    Mae’r bysellfwrdd yn gweithio gydag unrhyw ap sydd yn defnyddio’r bysellfwrdd Android, e.e. e-bost, Negeseuon SMS, WordPress, Twitter, Evernote, Facebook, ayyb.

    Mae David Chan yn haeddu clod am ddatblygu ap mor ddefnyddiol sydd yn gallu gwneud cyfraniad sylweddol i ddefnydd o’r Gymraeg. Beth sydd angen ydy mwy o gyhoeddusrwydd er mwyn hybu defnydd. Gobeithio fydd yr ap yn weithio yn iawn ar yr amrywiaeth o ddyfeisiau Android sydd ar gael fel ffonau Samsung, ffonau HTC, Dell ac yn y blaen.

    DIWEDDARIAD: mae David yn bwriadu rhyddhau’r cod dan y GPL hefyd, sy’n wych. Mae fe hefyd yn paratoi fersiwn Tsieinëeg!

    Literatim – rhagor o wybodaeth

    Ap Geiriaduron (Android, iPhone ac iPad)

    Mae’r lansiad dydd Mawrth yn cynnwys dau ap. Roedd rhaid i mi ddewis un i ddechrau’r cofnod, Ap Geiriaduron yw’r llall sydd yn arbennig o dda hefyd ac yn haws i esbonio – geiriadur o 100,000 gair ar dy ffôn neu tabled gan gynnwys geiriadur cyffredinol Cysgair a geiriadur termau safonol Y Termiadur Addysg.

    Bydd Ap Geiriaduron ar gael am ddim trwy storfa ap Apple, Google Play a storfa ap Amazon.

    Cwdos i Patrick Robertson, David Chan (eto), Gruffudd Prys, Dewi Jones ac aelodau eraill o’r Uned Technolegau Iaith Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor.

    Ap Geiriaduron – rhagfanylion

    Byddai bysellfwrdd Cymraeg a geiriadur(on) Cymraeg mewn poced yn ddefnyddiol iawn i filoedd o bobl. Gobeithio fydd y tywydd yn iawn ar gopa’r Wyddfa ar gyfer y lansiadau! Byddwn i wedi mynd am y dafarn i ddangos pa mor symudol yw’r aps felly chwarae teg, byddai’r pwynt uchaf yng Nghymru yn lle penigamp. Fydd unrhyw signal ffôn yna?!

     
    • David 8:05 AM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Diolch Carl! Anghofiais sôn am y nodwedd leiaf ond un eithaf pwysig: ers y sgrinluniau uchod, dw i wedi symud y collnod i’r prif fysellfwrdd, fel bod modd teipio pethau bach syml fel “dwi’n hoffi’r bla bla bla” heb orfod switsio yn ôl ac ymlaen rhwng dwy fysellfwrdd.

    • Iestyn Lloyd 2:40 PM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Bysellfwrdd yn edrych yn grêt.
      Oes na linc i lawrlwytho y Geiriadur? Fedrai’m ffeindio fo.

    • Aled 3:20 PM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

    • Carl Morris 4:04 PM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Wrthi’n profi’r bysellfwrdd ar fy ffôn i deipio’r sylw hwn!

      Roedd gosodiad yn weddol syml:
      1. cer i Google Play, chwilio am LiteratIM, gosod
      2. cer i Settings | Language & Keyboard | rhoi tic ar LiteratIM
      3. cer i deipio rhywbeth rhywle, pwyso ar y sgrin er mwyn newid modd mewnbwn (input method)
      4. y tro cyntaf mae’r ap yn lawrlwytho’r geiriau i’r ffôn yn awtomatig felly mae di-wi yn syniad da

      Gwych! Mae’n braf i deipio ‘i’ pan o’n i’n arfer disgwyl ‘I’ mawr awtomatig! Heb sôn am yr acenion a’r geiriadur.

    • Iestyn Lloyd 4:13 PM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Diolch Aled, ond i’r iPhone.

    • David 6:30 PM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Smae Iestyn, yn anffodus doedd hi ddim yn bosibl creu bysellfwrdd sy’n gweithio ar iPad / iPhone — dydy Apple ddim yn caniatáu hynny. Fydd yna ap bysellfwrdd Cymraeg yn y dyfodol? Dim ond Apple sy’n gallu penderfynu (neu Lywodraeth Cymru). Mae’n ddrwg gen i am hynny!

    • Hywel 10:46 PM ar 23 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Ardderchog. Roedd wir angen geiriadur Cymraeg (mae ap geiriadur Gwyddeleg – Get the Focal Irish Translator – wedi bod ar gael am ddim ers sbel). Mae’r bysellfwrdd i’w weld yn gweithio’n dda hefyd.

      Dyma fantais meddalwedd cod agored fel Android dros system caeedig fel un Apple, sef bod modd i bobl ddatblygu pethau y maen nhw am eu datblygu yn hytrach na dim ond beth mae cwmni mawr rhyngwladol am i ni gael.

    • Carl Morris 2:44 PM ar 24 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Dw i newydd sgwennu adolygiadau o’r ddau ap ar Play sydd yn gyfnewid teg – oherwydd maent am ddim! Byddwn i’n annog pobl eraill i wneud yr un peth os bosib.

    • Leia 6:14 PM ar 26 Hydref 2012 Dolen Barhaol

      Fendigedig i weld y bysellfwrdd yn cael eu rhyddhau! Defnyddiol dros ben!

    • Richard 9:33 PM ar 4 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Bendigedig. Yn sgil dy flogpost nes i fewnosod yr ap ac mae’n gweithio’n dda, ond am un peth bach, h.y. mae’r bysellfwrdd yn cuddio’r bowtm ‘tweet’ yn fy ap Twitter (Twicca). Yn bendant nai gario mlaen gyda fe gan ei fod mor ddefnyddiol a chyflym.

    • Carl Morris 12:26 PM ar 5 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Richard, dw i wedi anfon dolen i dy sylw i David Chan.

    • Rhys Wynne 12:42 PM ar 5 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Problem arall Twitteraidd dwi newydd darganfod ydy dim botwm ‘underscore’ sy’n codi reit aml mewn cyferiiadau Twitter. Fel arall, ap ardderchog.

    • David 1:06 PM ar 5 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Richard, yn fersiwn 1.1 (sydd bellach ar gael o Google Play) dw i wedi ychwanegu opsiwn “cuddio” pan wyt ti’n pwyso’r botwm “cog”, felly dylai fod hi’n hawdd pwyso “tweet” wedyn. Gobeithio fod hynny’n helpu – gad i mi wybod!

    • Gruff 4:13 PM ar 5 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      Mae David hefyd wedi ychwanegu llythrennau acennog (fel á, ï, ô, ŵ etc.) i’r bysellfwrdd. Gallwch eu hychwanegu drwy bwyso’n hir ar y llythyren briodol ac yna dewis yr acen o’r ddewislen sy’n ymddangos. Diolch David!

    • Sion 6:22 PM ar 27 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      OK, sori ond dwi’n gweld hwn yn hollol frustrating. Dwi wedi ei lawrlwytho dros mis yn ol ond yna dileu’r linguabeth bynnag ydy’r enw. Doedd e ddim yn gweithio o ran rhagsgwennu, unig beth oedd yn neud oedd peidio rhoi I i fi yn lle i, Dwi wedi ceisio ei lawrlwhytho eto ond wedi rhoi give-up.

      1. Mae’n amhosib i rhywun nad sy’n dallt y dalltings i ddod o hyd i hwn. Ddim modd ei ffeindio yn Play Store heb fod rhywun yn gwybod enw’r blincin app. Teipio fewn ‘predictive texting + Cymraeg’ heb weithio i fi.

      2.Datganiad sydd ar y we jyst yn son am fod ar ben y Wyddf a pha mor hanesyddol ydy’r peth, Dwi jyst eisiau dolen syml i’r app yn esbonio beth mae’n feddwl. Doedd dim blincin dolen syml i’r app arno. Des i hyd i’r ddolen ar gwefan haciaith.cymru – faint o bobl sydd am wneud hynny?

      3.Dwi ddim yn gwybod pa fath o ffon sydd gen i.HTC o rhyw fath.Ydy’r app yn gwehthio i bob math o HTC neu ddim?

      4.Dwi wedi ceisio ei lawrlwytho eto – ar ol gorfod mynd i’r wefan yma i ffeinidio’r dolen.Mae hynny’n golygu fod take up hwn lot lot lot llai na galle fod.

      5.Wedi ei lwytho (dwi’n meddwl) ond yn cael neges fel ‘this imput methos may enable you to collect all the text you type, including personaldata like pass wordsand credit card numbers …’. So, na, dwi ddim arwyddo i hwn!

      Hoffwn arwyddo a gwneud i 2 ffon arall sydd gan fy mhlant (sydd bythnyn textio’n Saesneg).Ond mae’n rh drafferthus,wnaeth e ddimgweithio pan wnes i e i gychwyn mis yn ol, a nawr dwi ddimam arwyddo rhag i rhyw gwmni cael fy holl manylion. Yn fras, mae’r gwaith yn wych.Dwi eisiau ei ddefnyddio ond dwi methu a gwna i ddim.Mae’n rhy gymleth.

    • Carl Morris 7:55 PM ar 27 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      1. Enw’r ap ydy Literatim.
      3. Dylai’r ap gweithio ar unrhyw HTC gydag Android.

    • David 2:22 AM ar 28 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      Smae Sion,

      Sori bod pethau mor rhwystredig! Dw i’n ymddiheuro fod gosod bysellfwrdd ar Android mor gymhleth: byddwn i’n falch pe tasen nhw’n streamleinio’r broses.

      Dylai’r ap weithio ar dy ffôn di; gwna yn siŵr dy fod ti’n dilyn http://troi.org/literatim.html yn ofalus, gan gynnwys y sgrinluniau efo saethau mawr coch.

      Os dw i’n teipio “Predictive texting + Cymraeg” mewn i Google Play yna mae’r ap yn dod yn gyntaf i mi. Beth sy’n dod yn gyntaf i ti? Rhyw ap arall, dw i’n cymryd …

      Mae’r neges am rifau cerdyn credyd yn frawychus on’d ydy! Mae’n dod i fyny os wyt ti’n gosod *unrhyw* fysellfwrdd newydd ar dy ffôn. Mae’n dweud, mewn theori, y gallai ap bysellfwrdd drwg logio popeth rwyt ti’n ei deipio a’i anfon ymlaen at ladron mewn crysau-T streipiog. (Yn yr un ffordd, gallai unrhyw ap drwg ar dy luniadur ddwyn dy rif cerdyn credyd … sgeri!) Yr ateb tymor hir yw i’r llywodraeth fynnu bysellfwrdd Cymraeg/Saesneg ar bob ffôn newydd. Ond yn y cyfamser na i wenu mewn ffordd gredadwy 🙂

      Eniwe, sori am y profiad rhwystredig, ond dw i’n ffyddiog bydd yr ap yn gweithio ar dy ffôn Android di. Wyddi di beth, os wyt ti’n dilyn y cyfarwyddiadau ar fy ngwefan (uchod) yn berffaith, a dydy’r ap dal ddim yn gweithio, yna gwna i brynu peint i ti a dau ffrwt shwt i’r plant. Trust me, I’m a software engineer 😉

      A diolch am dy adborth!

    • David 2:59 AM ar 28 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      Sion, dw i wedi newid y testun yn Google Play i fod yn fwy clir am y rhifau cerdyn credyd a’r camau gosod. Dw i’n siŵr bydd pobl eraill efo’r un cwestiynau, felly gobeithio bydd hynny yn helpu. Diolch eto!

    • Sion 10:53 AM ar 28 Rhagfyr 2012 Dolen Barhaol

      David – diolch. Meddwl fod popeth yn iawn nawr, diolch. Am geisio lawrlwytho’r app I ffons fy mhlant.

      Un broblem dwi’n gael ydy defnyddio’r collnod – i’r, a’r, y’r etc. Mae’r app yn cynnig ‘r etc ond mae’n rhaid teipio fewn y collnod er mwyn i’r dewis ddod ar y dewislen,mae rhywun wedyn yn teipio ‘r ac yn cael dau gollnod – a”r neu i”r etc.Sut mae dod dros hyn?

    • Iestyn Lloyd 10:14 AM ar 5 Mehefin 2014 Dolen Barhaol

      Unrhyw gobaith fydd y bysellfwrdd yn dod i iOS 8 rwan eu bod nhw yn ei gefnogi? http://www.engadget.com/2014/06/02/ios-8-keyboards-on-the-way/

  • Iestyn Lloyd 10:19 AM ar 27 September 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , eBooks, , iPad,   

    “Yes, we support books in Welsh.” 

    Ychydig yn ôl fe gysylltodd Y Lolfa a Amazon am gael ei llyfrau yn y siop eLyfrau Kindle, dywedodd Amazon eu bod nhw ddim yn cefnogi llyfrau Cymraeg, a byddai rhaid iddyn nhw gyflogi siaradwyr Cymraeg i brawf ddarllen y llyfrau cyn iddyn nhw gael eu gosod ar y safle.
    Ar ôl clywed am y siom yma penderfynais gysylltu â Apple am eu iBookstore a gofyn iddynt a oeddynt yn cefnogi llyfrau yn yr iaith Gymraeg, ac yn nodweddiadol o Apple gefais ebost byr ac i’r pwynt yn ôl

    “Yes, we support books in Welsh.”

    Bellach rwyf wedi rhoi cais i mewn i fod yn gyhoeddwr ar yr iBookstore i allu gwerthu llyfrau, fe adawai chi wybod sut mae’n mynd yn y dyfodol.

     
  • Rhys Wynne 9:15 PM ar 3 May 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , , iPad, ,   

    ‘Y dyfodol i lyfrau…’ (Bedwen Lyfrau 2011, Caerdydd 7.5.11) 

    Rhai wythnosau’n ôl, cefais wahoddiad drwy Facebook gan berthynas i mi sy’n trefnu Bedwen Lyfrau 2011, sy yng Nghaerdydd eleni. Fel arall, faswn i ddim yn ymwybodol bod digwyddiad y Fedwen Lyfrau yn y brifddinas eleni.  Dyma fynd i chwilio am fwy o fanylion a darganfod bod trafodaeth diddorol ar ddiwedd y dydd:

    Y dyfodol i lyfrau… Yn oes y Kindle a’r iPad, beth yw dyfodol argraffu? A oes mwy o bobl yn darllen blogiau na llyfrau bellach?

    Tybed sut fydd pobl yn darllen gwaith ein cenhedlaeth ni yn y dyfodol?

    Gyda Sion Jobbins a’r blogiwr Carl Morris /NativeHQ

    Ddim yn siwr pa mor ddefnyddiol yw cymharu blog gyda llyfr, ond gobeithio bydd ffigyrau ar gael.   Os yw’n helpu, roedd 400+ o ddarllenwyr dyddiol gan y Blogiadur  ar gyfartaledd yn mis Mefefin 2007, tra mae Ifan Morgan Jones yn trafod gwerthiant ei ddwy nofel ar ei flog (ble mefyd cewch ddwy gofnod am Kindle).

     
    • Carl Morris 11:09 AM ar 4 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Ah diolch. Gobeithio bydd e’n sgwrs gynhyrchiol.

      Mae llyfrau electronig yn gyfle enfawr i gwmnïau cyhoeddi!

      O safbwynt y gwmnïau, mae’n defnyddiol i weld pethau fel “darllen blogiau vs darllen llyfrau”, neu “elyfrau vs print” fel perthnasau yn hytrach na cystadleuaeth.

    • Carl Morris 9:28 PM ar 7 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Ces i amser da heddiw – sgyrsiau da. Dylen ni gwahodd rhai o’r bobol Bedwen Lyfrau i ddigwyddiadau Hacio’r Iaith.

      Roedd y sesiwn Y Dyfodol i Lyfrau yn hwyl er bod e bach yn fyr – dim lot o amser i drafod pethau yn ffordd fanwl iawn. Yn enwedig, o’n i eisiau archwilio’r cytundeb Faustaidd gyda chwmnïau fel Amazon. Dw i’n licio’r cysyniad o e-lyfrau, dylai llyfrau Cymraeg bod ar gael i bobol beth bynnag yw’r platfform. Mae cyfleoedd i’r cwmnïau cyhoeddi. Ond fydda i ym mhersonol brynu rhywbeth o gwmni sy’n dibynnu ar DRM heb warant os dw i eisiau trosglwyddo’r llyfrau i ddyfais arall yn y dyfodol? Hmm..

      Nes i joio’r sesiwn am gomics a chyfieithiadau Tintin.

      Beth feddyliest ti Rhys?

    • Rhys Wynne 1:31 PM ar 10 Mai 2011 Dolen Barhaol

      Sesiwn diddorol, a biti garw ei fod mor fyr, o ystyried pwsigrwydd y pwnc. Gwnaeth Sion Jobbins job dda o wisgo dwy het (adran digideiddio’r Llyfrgell Genedlaethol a chadeirydd (?) presenol Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru) – byddai rhwyn o un o’r gweisg sy wedi dechrau gwerthu e-lyfrau (ai dim ond y Lolfa sydd wedi?) ar y panel wedi bod yn dda.

      O ran y Cwlwm Cyhoeddwyr, roedd yn swnio fel eu bod yn gweld bygythiadau yn hytrach na chyfleodd, a’u dau prif ofid ydy:
      1. Pobl yn medru copio a dosbarthu elyfrau am ddim
      2. gostyniad mewn incwm

      O ran gofid 1., efallai mod i’n bod yn naif, ond dw i ddim yn meddwl bod rhaid iddynt boeni bydd yr un peth yn digwydd a sydd wedi digwydd i’r diwydiant cerddoriaeth byd-eang, oherwydd dw i’n meddwl mai ychydig iawno gopio CD’s cerddoriaeth Cymraeg fuoedd yna gan bod pobl yn reit driw i’r cerddorion, ac ynsylweddoli pa mor fach ydy eu gwerthiant yn barod. Yn yr un modd, dw i’n meddwl bod darllenwyr Cymraeg yn fwy tebygol o brynu llyfr Cymraeg na’i fenthyg o lyfrgell, eto oherwydd ffyddlondeb i’r gweisg Gymraeg.

      Fel y nodaist ar y dydd, prin iawn yw’r data/profiad sy gyda ni o’r dechnoleg hyn gyda llyfrau Cymraeg/ieithoedd lleafrifol i weld beth fydd y patrwm defnydd, ond hoffais awgrym Penri y basai’n syniad da rhoi llyfrau Cymraeg Stori Sydyn mas am ddim drwy e-lyfr.

      O ran gofid dau, os deallais yn iawn, poeni am y cut bydd Amazon yn gymryd oedden nhw? Dychmygaf bod cut Amazon ar Kindle yn debyg i’w cut sylweddol o werthu llyfrau ar eu gwefan, ac mae llyfrau Cymraeg bellach ar Amazon, achos mae’r cyhoeddwyr yn sylweddoli, mae sawl achos, os na all cwsmer brynnu llyfr ar Amazon, mi benderfynan nhw brynu llyfr arall yn hytrachna chwilio amdano rhywle arall (er bod modd prynnu llyfrau Cymraeg yn hawdd ar-lein dyddiau yma mewn sawl lle). Yny dyfodol, os na fydd llyfr ar gael i’w brynnu ar Kindle, fydd o ddim yn cael ei brynu full-stop.

      Hoffais hefyd dy syniad y gallwn i gyd fod i yn lyfrgellwyr bellach yn llyfrgell byd-eang y we, ac y dylwn fynd ati i uwchlwytho a threfnu cynnwys CYmraeg i’r yd i gyd ei fwynhau.

      Yn yr un modd, d wi’n meddwl bod dyletswydd ar y rhai ohonom sy’n darllen llyfrau Cymraeg i ymddwyn fel staff mwyaf cyfeillgar a cymwynasgar Waterstones drwy hyrwyddo a helpu darpar ddarllenwyr/prynnwyr o lyfrau/e-lyfrau Cymraeg ddod o i a gwybod am y gorau o lenyddiaeth Cymraeg. Dim ond drwy ddenu darllenwyr a chwsmeriaid newydd y gallwn sicrhau ffyniant. Gallwn wneud hyn drwy ysgrufennu adolygiadau ar-lein (unigolion) ac adeiladu gwefannau hawdd i’w cyrchu (cyhoeddwyr a Chyngor Llyfrau!).

    • Carl Morris 3:23 PM ar 24 Mai 2011 Dolen Barhaol

  • Carl Morris 11:35 AM ar 13 October 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: cylchgronau, , gwe agored, iPad   

    cylchgronau digidol ar iPad etc – gormod o erddi muriog? 

    http://gigaom.com/2010/10/09/too-many-magazine-apps-are-still-walled-gardens/

    When Wired launched its magazine app for the iPad in May, it got a wave of publicity — in part because it was the first, and also because it released a gee-whiz video pointing out how the ads actually moved, and so on. But now there are more and more iPad magazine apps every day, with Esquire’s only the latest example from the Hearst empire, and one thing is becoming clear: publishers mostly just want you to look at their content, and are hoping that you will forget all about the Internet and social media and all of those irritating things that get in between you and the consumption of their wonderful content.

    Everyone talks about how what publishers love about apps is the ability to charge readers for their content again, especially now that Apple says it will allow them to charge subscriptions. But the app economy marks — for now at least — a return to the good old days when the walled-garden approach to publishing was the norm, and the Internet was just some pesky chat room for nerds. Wired’s app provides a slick interface to the magazine, but no way of actually sharing it, or of linking it to related content somewhere else — not even to Wired’s own website. It’s like an interactive CD-ROM from the 1990s…

    Meddyliau… Ble fydd cyhoeddi yn Gymraeg yn 2011 a 2012? Gallen ni proffwydo’r dyfodol hwn am Gymraeg. Yn fy marn i, mae cyhoeddi’n agored yn well i’r iaith Gymraeg na gerddi muriog neu apps ar gau. Her yw, mae’n anodd codi arian o hysbysebion ar erthyglau agored.

     
  • Carl Morris 7:31 PM ar 2 April 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , iPad,   

    Paid prynu iPad 

    fy marn i
    http://quixoticquisling.com/2010/04/paid-prynu-ipad-os-oes-unrhyw-ddiddordeb-gyda-ti-yn-yr-iaith/

    Dw i eisiau prynu uned amgen a datblygu shwmaePad.

     
    • Rhodri ap Dyfrig 3:12 PM ar 4 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Neu Bangor-aye-Pad. Dwi’n gynyddol siomedig nad oes yn 2010 unrhyw ffordd o gael Cymraeg ar yr Apple Mac. Cachu.

    • Alan Chamberlain 11:09 PM ar 4 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Dw i’n chwilio am rywbeth fel gliniadur touchscreen ar hyn o bryd. Wyt ti wedi gweld un rhywbeth fod ti’n lico? Wyt ti wedi gweld y HP TouchSmart tm2t?

    • Carl Morris 12:15 AM ar 5 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Rhodri, ti’n gallu defnyddio Ubuntu a rhyngwyneb GNOME gyda’r lleoleiddiad? Ti’n gallu cael cychwyn-deuol gyda OS X (“the world’s most advanced OS”)?

      Bydd Dafydd, Iestyn, Rhys, Telsa a Thomas yn hapus i ffeindio rhywun arall i helpu hefyd. 🙂
      http://l10n.gnome.org/teams/cy

      Alan, dw i wedi gweld e ond does dim profiad gyda fi. Rhywun arall?

    • Rhodri ap Dyfrig 10:41 AM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Ond dwi ddim eisiau Ubuntu – dwi eisiau Mac! Doeddwn i ddim wir yn hoffi Ubuntu ar yr Eeepc. Sori Linux fans ond mae’n well o lawer gen i Vista neu OS X. Dydi’r ffaith bod o ar gael yn Gymraeg ddim yn deal-breaker o ran dewis pa OS i’w ddefnyddio. Mae’n rhywbeth rhy hanfodol i’r profiad o ddefnyddio’r cyfrifiadur.

    • Carl Morris 1:39 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Iawn, mae gen ti ddewis Rhodri!

      Mae Apple yn creu pethau da, dw i’n deall.

      Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

      Fydd Apple ddim yn arwain. Pwy fydd yn arwain a dylanwadu cwmniau mawr? Côd agored, Linux, Android, mwy na thebyg.

      Ond dydy Apple ddim yn barod eto. Er enghraifft, bydda i’n eitha siomedig os dw i’n gweld iPad yn yr ysgolion Cymraeg. Dydy’r Gymraeg ddim ar gael heblaw nifer bach o apps. Y neges i’r plant yw: dydy Cymraeg ddim yn pwysig yn y byd technoleg.

      “Dylanwad” yw fy hoff gair ar hyn o bryd. Dyma pham dw i’n hoffi Richard Stallman. Oedd e’n afresymol. Creuodd e Free Software Foundation. Dechreuodd e mudiad. Dychmygu byd heb GPL. Dim Linux, dim Firefox, dim WordPress, dim Apache, dim Perl, dim PHP, dim Ruby on Rails…

      Mae newid yn hollol bosib.

      Heddiw? Mae Apple yn hybu eu meddalwedd nhw. Ond mae amgen côd agored Cymraeg yn bodoli. Ydy pobol normal yn gwybod bod amgen yn bodoli? Pwy sy’n hybu’r amgen?

      Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

    • Rhodri ap Dyfrig 4:33 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      >> Y breuddwyd yw profiad Cymraeg 100% ar pob cyfrifiadur – os ti’n dewis.

      Mae byw dy fywyd mewn dull eilradd yn diflasu rhywun weithia. Gorfod gofyn am daflenni yn dy iaith, gorfod cwyno am bopeth…mae defnyddio OS Linux, sydd dal ddim digon hawdd i’w ddefnyddio a’i lwytho yn rhoi profiad cyfrifiadura eilradd.

      Mae’n gachu nad oes gan Apple unrhyw fwriad i gynnwys ieithoedd eraill heb sôn am ieithoedd lleiafrifol, ond dwi ddim yn teimlo bod gen i ddewis. Y dewis yw Windows / Mac, ar hyn o bryd. Efallai y daw Ubuntu i fod yn system sydd yn hawdd i’w ddefnyddio ar desktops, fel sydd wedi digwydd gyda Android ar ffonau symudol, ond ar hyn o bryd mae’n or-gymleth, hyd yn oed i gîc (honedig) fel fi.

      Roedd Xandros ar yr Eeepcs i ddechrau – newidiais i o i Eeebuntu, oedd yn Gymraeg. Gret. Gofynnodd y system os o’n i isio diwedaru’r feddalwedd i roi bug fixes. Dwedais ‘ydw’, ond fe lwythodd o fersiwn gyfan o Ubuntu arno yn lle’r fersiwn ysgafn Eeebuntu oedd gen i yn wreiddiol. Dwi rwan wedi gorfod ail-osod Eebuntu (ar drydydd partition achos sgen i ddim clem sut ma gneud y sdwff disg galed na) ac mae’r peiriant yn rhedeg yn araf. Dwi’n galw hynna’n brofiad cwsmer gwael, ac oherwydd mod i wedi trio ei gael yn Gymraeg.

      Oes bai arna i am fynd am yr ‘opsiwn hawdd’, sydd yn anffodus yn brofiad Saesneg? Mae rhywun yn trio byw ei fywyd yn y Gymraeg gymaint ag sydd bosib, ac yn trio bod yn ‘afresymol’. Mae bywyd siaradwr Cymraeg yn ‘afresymol’ yn ôl confensiynau y gymdeithas da ni’n byw ynddi!

      >> Gyda llaw, beth faset ti wneud gyda £1m?

      faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu. Dwi o’r farn ar hyn o bryd taw nid y caledwedd na’r feddlawedd sydd bwysig ond meddylfryd y bobol sy’n defnyddio nhw. Ella wedyn fydd pobol ddim yn ofn defnyddio meddalwedd Gymraeg.

    • Carl Morris 5:05 PM ar 13 Ebrill 2010 Dolen Barhaol

      Trafodaeth dda, dyma pam mae Hacio’r Iaith yn bodoli!

      Dwedais i ‘breuddwyd’ am reswm. Pam lai eh?

      >> faswn i’n rhoi addysg cynhyrchu cynnwys gwe Cymraeg i bob cymuned sy’n
      >> siarad yr iaith a gweld os byddai rhywbeth yn tyfu.

      Syniad cyffrous. Mae’n hollol bosib wneud y dau (meddalwedd a phobol). Rydyn ni wedi dechrau yn barod – gobeithio.

      Pwy yw’r blogwr newydd nesaf? Dechrau gyda hedyn bach a thyfu. Dylanwad!

      Dylwn i fynd ond dw i’n meddwl amdano fe yn bendant.
      🙂

    • Huw Waters 4:11 PM ar 28 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Gan mai ‘hacio’ yw hwn, oes rhywun wedi ystyried gwneud hyn i unrhyw ddarn o galedwedd yn ei perchnogaeth? Dwi di bod yn edrych sut i hacio fy nheledu newydd Panasonic Viera a cheisio cael yr EPG yn y Gymraeg. Dwi’n meddwl bod modd gwneud hyn gan fod rhan o’r feddalwedd yn un cod agored, ac mae pyrth ‘Common Interface’ a cherdyd SD.

    • Carl Morris 11:36 PM ar 28 Mai 2010 Dolen Barhaol

      Huw, sa’ i’n gwybod ond mae’n werth trio am ychydig o hwyl!

c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel