Tagiwyd fel: cyfryngau Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 2:07 PM ar 6 December 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , cyfryngau, , , , ,   

    Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013 

    Dw i’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yma:

    Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol
    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Penglais
    SY23 1BU
    Aberystwyth
    Dydd Gwener 18fed mis Ionawr 2013
    09:30 i 19:00

    Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i’w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i gael chwarae gyda’r data a’r delweddau o’r prosiect cyn iddo gael ei lawnsio i’r cyhoedd, gyda mynediad uniongyrchol i’r wefan beta a’r API sy’n sylfaen iddi.

    Mae’r Hacathon ar agor i bobl creadigol o bob math yn ogystal â datblygwyr, a daw â phobl gyda syniadau ynghyd â phobl gyda’r sgiliau i’w gweithredu.

    Hawliwch docyn drwy’r dudalen hon a mi ddanfonwn ni becyn gwybodaeth i chi gyda manylion o amserlen y digwyddiadau sy’n arwain at yr Hacathon ei hun yn Aberystwyth ar Ionawr y 18fed.

    Bydd detholiad o gynnyrch yr Hacathon yn cael ei arddangos yn lawnsiad y wefan yng Nghaerdydd ar y 13eg o Fawrth, 2013. Yn ogystal, bydd gwobrau ar gyfer y datblygiadau gora.

    Rydyn ni wedi cyd-weithio gyda Llyfrgell Genedlaethol i amseru’r Hacathon a Hacio’r Iaith gyda’i gilydd. (Bydd Hacio’r Iaith 2013 ar y diwrnod canlynol, dydd Sadwrn.)

    Cer i’r digwyddiad Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol ar Eventbrite os wyt ti eisiau cofnodi diddordeb.

     
  • Carl Morris 2:21 PM ar 30 September 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: cyfryngau, , marchnata, ,   

    Seminar (Caerdydd) ar ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru 

    Mae gwahoddiad yn cael ei ddanfon heddiw i fynychu ein seminar brynhawn rhad ac am ddim ar 19fed o Hydref, sy’n trafod ein darganfyddiadau ymchwil newydd ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol defnyddwyr yng Nghymru. Hwn yw’r diweddaraf o seminarau Beaufort sydd wedi ei arwain gan ymchwil gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar dueddiadau allweddol agweddau defnyddwyr yng Nghymru.

    Mae data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd nodedig mewn defnydd o gyfryngau cymdeithasol dros y flwyddyn diwethaf ar draws y DU. Yn 2011, am y tro cyntaf erioed, mae dros hanner o oedolion wedi bod ar wefan cyfrwng cymdeithasol, gan ddangos pwysigrwydd rhwydweithio cymdeithasol ym mywyd oedolion Prydeinwyr.

    Felly beth yw’r sefyllfa yng Nghymru? Gan ddefnyddio data perchnogol wedi ei gasglu drwy arolwg Omnibws Cymru Beaufort gyda sampl gynrychioladol o oedolion yng Nghymru, a’r ychwanegiad o dechnegau ansoddol sydd wedi ei cynllunio i ddeall yn well gymhelliant defnyddwyr, byddwn yn ateb cwestiynau megis:

    • pwy sy’n defnyddio gwefannau rhwydweithio yng Nghymru?
    • pam ydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol mwy a mwy?
    • pa rôl sydd gan rhwydweithio cymdeithasol ym mywyd pobl?
    • pwy yw’r defnyddwyr mwyaf rheolaidd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru?
    • sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol?
    • sut mae Cymru’n wahanol i weddill y DU?

    mwy o fanylion / archebu dy le
    http://www.beaufortresearch.co.uk/index.php/site/news/social_media_use_in_wales_seminar_launched/

     
    • Rhodri ap Dyfrig 2:34 PM ar 30 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Diolch am bostio’r ddolen. Swnio’n wych. Sdim llawer o ystadegau yn ôl iaith. Dyw Ofcom ddim yn cyhoeddi breakdown o’u ffigyrau adroddiadau marchnad yn ol iaith, er aparyntli eu bod yn eu casglu, sydd yn biti mawr.

  • Carl Morris 6:11 PM ar 9 August 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: cyfryngau, , , , Euryn Ogwen Williams, , , ,   

    Euryn Ogwen Williams ‘Y Newid Mawr’ (testun llawn o ddarlith Eisteddfod 2011 am gyfryngau a darlledu) 

    Euryn Ogwen Williams yn ei Darlith Goffa Owen Edwards wythnos diwethaf:

    .
    .
    Dyma’r trydydd tro i mi gael yr anrhydedd o draddodi darlith yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y byd digidol. Y tro cyntaf oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1998, a’r testun oedd “Byw ynghanol y Chwyldro”. Bryd hynny, rhywbeth i’r geeks oedd y byd digidol ac roedd nifer sylweddol yn y gynulleidfa yn credu mod i wedi “colli fy marblis”, a doedden nhw ddim yn swil o ddweud hynny! Ar ddiwedd y ganrif ddiwethaf, ffordd o feddwl oedd digidol – wedi ei gyfyngu i bobl ifanc a phobl fusnes. “Dim byd i’w wneud gyda ni”, oedd agwedd y sefydliad Cymreig bryd hynny. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mi gefais wahoddiad i wneud cyflwyniad yn Eisteddfod Caerdydd a’r testun oedd “Beth wnest ti yn y Chwyldro” Erbyn hynny roedd digidol wedi dod yn ffordd o fyw a’r byd yn newid wrth i’r mwyafrif fabwysiadu’r dechnoleg. Roedd y chwyldro bellach yn nwylo’r bobl. Yn y tair blynedd ers hynny, mae’r chwyldro wedi cyflymu ac mae’r defnydd o’r dechnoleg wedi ymdreiddio i bobman a dechrau creu ei chwyldro ei hun…

    Y Newid Mawr gan Euryn Ogwen Williams, Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2011 (PDF)

    Dw i wedi rhoi’r testun llawn ar y we gyda chaniatâd yr awdur.

    Bydd trafodaeth fanwl o’r ddarlith yma yn ddefnyddiol… Mae sylwadau isod ar agor. Mae’r we ar agor.

     
    • Rhys 3:36 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Gwych! Diolch i ti am roi’r testun ar-lein.

    • Annette Strauch 6:25 PM ar 11 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Esboniad (testun) da, Carl. Mae Euryn Ogwen yn edrch ymlaen. ‘Rwy’n hoffi hynny. Mae’r sgwrs hefyd yn ymwneud ag S4C. Nid wyf yn gwybod beth yw’r dyfodol, os nad oes arian. 3D, HD?? – ‘Rwy’n defnyddio S4C/Clic. Dim amser i ysgrifennu mwy. Cwestiwn pwysig: beth fydd y dyfodol yn rhoi â’r Rhyngrwyd ac yn ein bywyd cymdeithasol ni nesa’. Credaf fod Cymru’n gwneud yn dda. Dim ond biti bod yna dim digon o fideos da gan S4C ar YouTube neu unrhyw ffilmiau Cymraeg allan o Gymru. Mae’r cyfryngau newydd yn rhoi mwy o help i’r iaith er enghraifft. Roedd cael sianel deledu S4C yn dda bryd hynny, erbyn hyn mae cyfryngau newydd yn bwysicach.

    • Carl Morris 3:05 PM ar 12 Awst 2011 Dolen Barhaol

      Y tro cyntaf oedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 1998, a’r testun oedd “Byw ynghanol y Chwyldro”…

      Gyda llaw dyma’r testun i’r darlith hon yn Comic Sans http://web.archive.org/web/20070707055608/http://www.ogwen.com/index2.html

      Diolch i @dafyddt am y dolen ac i archive.org am gadw’r tudalen.

  • Carl Morris 1:31 AM ar 14 June 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: cyfryngau, , Derwen Gam,   

    Derwen-gam yn y cyfryngau – ond pa gyfryngau? 

    Derwen-gam ac S4C, erthygl o Golwg 360 – geiriau cryf:

    Mae trigolion pentref wedi eu siomi gan benderfyniad S4C i beidio â rhoi sylw i gymuned Gymraeg sydd wedi ail-sefydlu yno.
    .
    .
    .

    Un o’r rhai a oedd wedi ei wahodd i gyfrannu i’r rhaglen, ac a fu’n rhan o’r protestio yn ôl yn y 1970au, yw’r Parchedig Cen Llwyd, sy’n dweud fod y penderfyniad wedi ei adael “yn grac iawn”.

    “Dim ond ddydd Sadwrn ddes i ddeall eu bod nhw wedi tynnu’r plwg ar y rhaglen,” meddai, ac fe gyfeiriodd at hynny yn ei araith ar hanes ymgyrch Derwen-gam yn ystod y cyngerdd.

    “Daeth nifer o bobol ata’ i ddydd Sadwrn i ddweud eu bod nhw’n bwriadu cwyno wrth S4C am y penderfyniad … roedd pobol yn grac iawn pan glywon nhw.”

    Yn ôl un o drefnwyr y cyngerdd a ddenodd gynulleidfa o 800 o bobol, Carys Morgan, mae’r pentrefwyr eu hunain yn anhapus â’r penderfyniad.

    “R’yn ni fel pentrefwyr yn siomedig nad oes rhaglen ddogfen wedi dod ohoni,” meddai, “roedd y gyngerdd ddydd Sadwrn i fod yn gefndir i’r cyfan.”

    Er hynny, mae rhaglen Wedi 7 wedi penderfynu y bydd peth o’u harlwy heno yn mynd i ddarlledu rhai o uchafbwyntiau’r cyngerdd ddydd Sadwrn.

    Pan gysylltodd Golwg 360 ag S4C y prynhawn yma, dywedodd y sianel eu bod nhw’n awr yn “trafod os oes modd darlledu rhaglen i gynnwys gweddill yr eitemau a recordiwyd yn yr ardal”.

    Dw i newydd gweld yr eitem ar Wedi 7 o nos Lun – eitem gyntaf 01:00 ac eitem olaf 21:50 (gyda rhywun o Hacio’r Iaith – syndod!).

    Bydd rhaglen llawn neu cyfle i weld y “gynnwys gweddill yr eitemau a recordiwyd yn yr ardal” gan S4C yn ddiddorol iawn – o fy safbwynt. Ond pwy ydw i? Dw i’n byw mewn dinas ac wastad wedi byw mewn trefi neu ddinasoedd. Hoffwn i ddysgu mwy am amcanion trigolion Derwen-gam (ac efallai trigolion yn bentrefi bychain eraill, os mae’n bosib i fod yn gyffredinol i raddau.).

    1. Pam yn union oedd y trigolion Derwen-gam eisiau rhaglen ar S4C? Dw i’n gallu trio dyfalu ond beth yw amcanion nhw? Beth yw’r amcanion pwysicaf?

    2. Sut ydyn ni’n gallu gwasanaethu’r amcanion yma, efallai rhai ohonyn nhw, gyda chyfryngau digidol – os o gwbl?

    e.e. cyfryngau Cymraeg efallai yn bwysig (fyddan nhw yn weddol hapus gyda rhaglen arbennig yn Saesneg?), croesawi Angharad Mair i’r pentref yn bwysig i rai, rhaglen gan bobol proffesiynol, dangos y stori/straeon y pentref i drigolion y pentref, darlledu i niferoedd da o bobol ledled Cymru, y ffactor kudos trwy bod ar S4C fel pentref neu fel unigolion, bydd rhaglen yn ‘digwyddiad’ nodedig, dechrau trafodaeth, ymgyrchu dros ddiddordebau’r pentref?, sylw yn y wasg yn sgil y rhaglen, ‘dilysiad’, dangos i blant…

    Yn 2011 dw i ddim yn gweld blogio lleol neu fideo ar-lein ac ati fel cystadleuaeth i deledu neu hyd yn oed papurau bro. Maen nhw i gyd yn bodoli nawr. Ond yng Nghymru ydyn ni’n wneud y gorau o’n cyfryngau digidol?

    (Nac ydyn.)

    3. Pa mor bwysig ydy’r stori i bobol ledled Cymru? Sut ydyn adlewyrchu’r pwysigrwydd yn y cyfryngau ni’n gallu rheoli?

    O ran pobol Cymru a’r ymgyrch yn y 70au, mae Dafydd Iwan yn dweud yn ystod yr eitem gyntaf Wedi 7 “mae’r enw Derwen-gam, mewn ffordd, yn atseinio fel Tryweryn i ryw raddau”. Efallai wir ond dyw e ddim yn atseinio llawer ar-lein. Un cymhariaeth, doedd dim byd ar YouTube pan nes i chwilio am ‘Derwen-gam’, ‘Derwen Gam’ ayyb. Mae dim ond 6 llun ar Flickr am yr un chwiliadau. 7 nawr achos dw i newydd ychwanegu llun arall.

    Sylwadau? Yma i ddysgu.

     
    • Rhys Wynne 1:08 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Mae’n dipyn o warth nad oedd rhywbeth gwell na Wedi 7 ar S4C i gofnodi hyn. Ar hyn o bryd ‘Lleol/Y gymuned’ ydy thema ar gyfer rhagleni presenol y sianel. meddwl bod ail-gomisiynnu cyfresi uber-shite fel Bro yn ddigon da!
      Do’n i erioed wedi clywed am y Dderwen-gam, felly mae S4C yn gwendu cam (esgusodwch y pun!) gyda’r cyhoedd drwy beidio a’n haddysgu am ddigwydidadu mor arwyddocaeol, ond fel ti’n deud, mae hi’n 2011 ar mae’n bosib i unrhyw un gyhoeddi eu stori heddiw i’r byd i gyd – fideo YouTube, erthygl ar y Wicipedia Cymraeg (a ieithoedd eraill), gwefan/blog lleol….

      “Get a podcast, butt”

    • Carl Morris 1:58 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Iawn, mae’r ‘byd i gyd’ yn wir – fel potensial. Ond mae lot o gyfleoedd os rydyn ni’n siarad ar-lein gyda 10 o bobol ledled Cymru neu 100.

      Gawn ni archwilio pam dydyn ni ddim yn gymryd mantais o’r cyfleoedd yma?

      O’n i’n sôn am 2011 (yn hytrach na 3000) achos mae cyd-destun penodol gyda ni ac mae cymysgiad o gyfryngau gyda ni. Mae pobol yn deall manteision ‘y cyfryngau’ yn barod (efallai). Felly beth sy’n bod?

      Rydyn ni wedi adnabod yr uber-problem felly beth yw’r problemau bychain?

      “Get a podcast, butt” Beth yw e? Pam? Sut? Methu ffeindio canllaw yn Gymraeg… Neu enghreifftiau i ddangos y peth… Efallai dylen ni ddechrau gyda phodlediad sy’n esbonio gyda thermau mae lleygwr o unrhyw gefndir yn gallu deall…

    • Carl Morris 2:01 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Ond ar y llaw arall, efallai does dim rhaid i ni greu canllaw. Mae pobol yn gwerthfawrogi cyfryngau Cymraeg ac mae rhai ohonyn nhw yn fodlon mynd i’r carchar dros gyfryngau Cymraeg. Beth yn union yw’r atalfeydd?

    • Rhys Wynne 2:03 PM ar 14 Mehefin 2011 Dolen Barhaol

      Ie, mae “Get a podcast, butt” yn ateb rhy hawdd, ac yn cymryd yn ganiataol bod pawb gyda’r un ‘dealltwriaeth’ a ni. Tra bod canllawiau yn yr iath yn holl bwysig, mae enghreifftiau yn bwysicach (yn fy marn i), gan y gall ‘pawb’, mewn theori, fynd a chwilio a darganfod canllawiau mewn iaith arall maen nhw’n ddeall.

      Mae gwir angen rhyw fath o gynllun o weithdai lleol ar draws ein cymunedau i ddangos y dechnoleg.

  • Rhodri ap Dyfrig 9:43 PM ar 6 September 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , cyfryngau, , ,   

    Beth yw pwynt gwneud y Pethau Bychain, os oes neb yn darllen? 

    Dyma fy ymateb i gofnod blog gan Ifan Morgan Jones – “Faint sy’n darllen?” – sy’n cwestiynu gwerth cael nifer fawr o gyfraniadau bychain ar y we, os oes bron neb yn eu darllen.

    Dwi wedi cau sylwadau yma, er mwyn i chi fynd a rhoi unrhyw sylwadau ar flog Ifan. Diolch.

    Petai David R Edwards wedi meddwl am gynulleidfa yn yr wythdegau, fyddai ganddon ni’r gwaith oedd ganddo yn y 90au?

    Petai pob rhaglen S4C yn cael ei barnu ar gynulleidfa fyddai hynny’n golygu bod dim pwynt cynhyrchu rhaglenni?

    Un peth am y ‘gynulleidfa’ we os alli di alw fo’n hynny hyd yn oed, ydi ei fod ddim yn dilyn pethau yn ddyddiol yn aml iawn ac yn dibynnu ar ddolenni gan bobol (ar Twitter neu Facebook gan amlaf) neu sefydliadau (Golwg360 neu BBC Cymru gan amlaf) i dynnu traffig drwodd i ddarnau unigol o gynnwys. Dydi o ddim yn ddibynnol ar amser (gall cofnod blog fod yn boblogaidd dros amser byr neu amser llawer hirach).

    O mhrofiad i o flogio, mae gen ti gynulleidfa gyson gymharol fach (ac mae’r gymharol yn bwysig), sydd yn driw, ac yn werth sgwennu ar eu cyfer. Os ti’n hapus yn blogio i 20 yna mae hynny’n gret. Mae llawer iawn o fanzines yn gweithredu fel’na. Mae unrhyw sin DIY yn gweithredu fel’na. Mi gei ambell i gofnod sydd rywsut yn cyrraedd tu hwnt i hyn ac yn rhoi spike mawr yn y traffig yna sefydlogi nol eto i’r un lefel, ac mae hyn yn gret, ond fel yn y cigfyd, dim ond rhai o’r llawer fydd yn cyrraedd cynulleidfa fawr.

    Dwi ddim yn meddwl bod hyn yn destun siom, jest fel’na ma’r we yn gweithio. Mae Twitter wedi gwneud gwahaniaeth mawr i dynnu traffig drwodd i wefannau eraill. Dydi rhan fwyaf o flogiau Cymraeg ddim yn gwthio eu cynnwys drwodd i Twitter, lle mae pobol yn gallu lledu gair am gofnod yn hawdd.

    Os ti isio ffigyrau yna dyma rai fideobobdydd.com am Awst:

    Ymwelwyr Unigol Absoliwt = 643
    Ymwelwyr Unigol = 1,175
    Ymweliadau Tudalen = 2,264
    Cyfartaledd amser a dreulir ar y wefan = 2 funud 17 eiliad
    Cyfartaledd tudalennau a ddarllennir = 1.93

    A bod yn onest, dwi’n fwy na hapus os mae na 643 o unigolion wedi ymweld a gwefan gwbl annibynnol, di-hysbyseb, di-farchnata (ish), a di-arian.

    Meddyliwch beth allai pobol wneud gyda chyllideb?

    A does neb yn ‘cyhoeddi ffigyrau’ am fod dim llawer o neb efo iot o ddiddordeb! Os mae blog yn cynhyrchu un darn da o gynnwys y mis. Mae hynny’n lwyddiant. Mae’n gwneud cystal a llawer i bapur bro neu raglen radio gymunedol fyswn i’n tybio.

    Efallai bod beth mae Catrin Beard yn dweud yn wir, fod na dipyn o bethau diflas ar-lein, ond mae nhw’n siwr o fod yn ddiddorol i rywun! Pam bod popeth yn gorfod bod yn ddiddorol i un person penodol? Mae’r we yn ddi-ddiwedd, does na ddim prinder lle na column inches, felly mae lle i gael blog crochet lluniau o superheroes y 50au yn Gymraeg os oes na un person yn darllen ac yn gwerthfawrogi hynny.

    Mae pobol dal i feddwl yn y ffordd, bod rhaid i bethau weithio fel print, fel teledu, fel radio – lle mae lle yn brin ac felly rhaid dewis a dethol beth fydd yn mynd arnynt. Ar y we, mae na infinte self space, felly does dim ots os oes blog sydd â dim ond deg darllennydd dyddiol (ac mae dyddiol yn misnomer hefyd – sawl ymwelydd i gofnod fasa’n fesur gwell – neu faint o amser mae nhw’n treulio ar y wefan).

    Mae blogiau hefyd yn lif o gynnwys yn hytrach nac yn erthgyl fisol, lle mae rhywun yn hogi fo i fod yn berffaith. Publish or be damned ydi’r ethos, ac os oes rhywbeth yn taro deuddeg bob yn hyn a hyn yna gret.

    Mae yna’r broblem o critical mass ar gyfer sylwadau ar flogiau Cymraeg, ond mae hynny’n rhywbeth arall yn llwyr.

    Dwi’n credu dy fod yn gwbl anghywir o ddweud bod darllen rhywbeth Cymraeg ar-lein yn fwy adeiladol na chreu rhwybeth newydd. Pam ar wyneb y ddaear bod y ddau yn mutually exclusive i ddechrau, a sut mae bod yn passive mewn byd lle mae cyfranogiaeth yn ein amgylchynu yn rhoi’r Gymraeg ar y droed flaen wn i ddim. Rhaid i ni gymryd rhan ym mhob agwedd o ddiwylliant digidol os da ni am gadw unrhyw berthnasedd yn y degawdau nesaf.

    Os mae digon o flogiau, a rhaid cofio taw nid dim ond blogiau yw’r we o bell, bell ffordd, yna mae pethau mwy poblogaidd yn bownd o godi ohonyn nhw.

     
  • Carl Morris 1:01 AM ar 14 August 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , cyfryngau,   

    Saesneg yw’r iaith trafodaethau cyfryngau Cymraeg, teledu ac S4C? 

    Dw i wedi bod yn siomedig gyda’r we Cymraeg ers 2007.

    Yn ddiweddar, mae lot o bethau wedi digwydd yn y maes cyfryngau: teledu Cymraeg a thrafodaethau am dyfodol S4C.

    Dw i’n mor siomedig gyda’r diffyg erthyglau/cofnodion am gyfryngau Cymraeg – S4C yn enwedig.

    Pam ydy’r sgyrsiau yn digwydd CYNTAF yn Saesneg?
    http://www.clickonwales.org/2010/08/welsh-broadcasting-in-limbo/
    http://www.clickonwales.org/2010/07/probing-the-deafening-silence-around-s4c%E2%80%99s-crisis/

    Does dim problem Saesneg gyda fi, mae unrhyw un yn gallu postio unrhyw beth ar y we.

    Ond dw i’n disgwyl mwy o Gymry Cymraeg a’r we Cymraeg.

    Dyna ni.

     
    • Dafydd Tomos 9:12 PM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Dwi wedi trafod ychydig ar y cyfryngau/S4C yn y gorffennol. Sdim pwynt.. nifer yn darllen.. bron neb yn ymateb (dim ond yr usual suspects ffyddlon). Lot o bobl hefyd yn y diwydiant yn dal barn gref yn breifat ond ddim yn fodlon dweud yn gyhoeddus oherwydd eu gwaith.

      Mae’n mynd yn ddiflas iawn gwario amser prin ar sgrifennu mewn gwactod. Dwi byth wedi sgrifennu blog yn saesneg ar y we, ond dwi’n ystyried gwneud. Mae’r gynulleidfa yn filiwn gwaith yn uwch (oce ti’n denu trolls, ond dyna’r pris).

      Er hyn dwi’n meddwl fod angen barn unigolion, ac ar blatfformau annibynnol (nid MySpace/Facebook/Twitter). Mae newyddiadurwr professiynol yn gallu cael lot o sylw a ‘access’ i’r bobl iawn, ond yn aml mae nhw’n rhan o’r stori. Mae nhw’n” ddi-duedd” ond yn aml y stori yw nhw yn gwneud ffys am ‘beidio cael atebion’ (agwedd hunan-bwysig y cyfryngau torfol).

      Mae ychydig o drafodaeth wedi bod ar maes-e am S4C (nid fel yr hen ddyddiad). I ddod a sgwrs o Twitter i fan hyn.. mae angen fforymau trafod sy’n annibynnol.. fel fod y wybodaeth/drafodaeth ar gael am byth nid dan reolaeth cwmni masnachol, neu yn diflannu pan mai gwefan yn cau.

      Lot i gnoi cîl drosto.. Mae llawer mwy o Gymry Cymraeg ifanc ar y we nac yn 2007… falle un o’r pethau gorau allwn ni wneud yw denu nhw nôl i maes-e a dangos gwerth y cyfrwng? Neu arwain nhw i fewn drwy YouTube/Twitter ac ati?

    • Carl Morris 9:35 PM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      W hw! Mae gyda fi aelod (o leia) am fy project newydd:
      http://ybydysawd.com

      Cadwch y donfedd yn glir.

    • Dafydd Tomos 9:44 PM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Dylen i sgrifennu blog call am y peth, ddim mewn tymer (fydde cyfle i gywiro’r camgymeriadau iaith a teipio wedyn). Jyst angen llusgo fy hun ffwrdd o’r 3 neu 4 peth arall dwi’n gweithio arno..

    • Melys 10:08 PM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Mae gen i flog Gymraeg ac un Saesneg ag rwyf wedi ysgrifennu yn diweddar am y diffyg sylwadau dwi’n cael i gymharu gyda fy mlog Saesneg – er fy mod i wedi bod yn flogio yn yr Gymraeg am 5 mlynedd ag yn y Saesneg am 6 mis.

      Fel yn llawer o elfennau o’r gymdeithas Cymru Cymraeg rwyf wedi darganfod fod yna hierarchaeth yn yr byd Cymraeg ar y we ag mae rhai unigolion yn cael digon o sylw tra bod eraill yn cael ei anwybyddu. Roddwn i yn aelod o Maes-e ar un tro ag roeddwn i’n teimlo fod yr un peth yn wir – fod sylwadau rhai pobol anwybyddus o’r byd Gymraeg yn yn creu trafodaeth tra bod eraill yn mynd heb sylw.

      Mae’n amser i’r cymuned Cymraeg ar yr we ddod ynghyd ag cefnogi ein gilydd – ag dim yn unig yr pobol anwybyddus ond yr unigolion ddi-clod sydd yn cadw’r iaith Gymraeg yn fyw ar y we sydd angen gwybod fod rhywun allan yn yr rhyngrwyd yn clywed nhw.

    • Rhodri ap Dyfrig 11:40 PM ar 18 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Mi wnaeth Ron Jones sgwennu erthygl bwysigam S4C yn Barn a gafodd ei gyhoeddi ar-lein, ond ydi mae swmp a sylwedd y drafodaeth yn isel. Mae sylwebaeth yn cael ei amsugno gan y teledu a radio, ac mae pawb sydd a rhywbeth i’w ddweud am S4C yn dueddol o gadw’n dawel oherwydd sensitifrwydd eu cwmniau/bywoliaeth.

      Does gen ti ddim llawer o tier proffesiynol i’r we Gymraeg chwaith. Dyma pam dwi’n bangio mlaen bod angen i bob sefydliad sydd a stake yn y cyfryngau (ac mae na lawer, o S4C i’r Cyngor Llyfrau ac eraill) roi buddsoddiad *rwan* yn y cyfryngau gwe a chymryd o o ddifri. Lle i ploncio sdwff ydi’r we i’r rhan fwyaf o’r sefydliadau hyn. Does dim llawer o ymgais i ddarganfod na chynyddu cynulledifa Gymraeg eu iaith ar-lein. Da ni heb grafu arwyneb be all ddigwydd ar y we Gymraeg, ond i wneud hynny mae angen buddsoddiad. Neu yr unig beth gawn ni ydi yr un pobol yn rhygnu mlaen a dal i drafod pam bod ni’n boddran gneud sdwff Cymraeg ar-lein mewn 5 mlynedd. Oedd boi mewn cynhadledd yn ddiweddar yn son ein bod ni’n gweld internet 2 tier yn datblygu: y rhyngrwyd broffeisynol a’r jam-makers. Wel, dim ond y jam-makers sydd di bod yn cynnal y we gymraeg. Allith hynna bara? Mae angen y tier broffesiynol i gynnal y jam-makers. Fel yn Google, mae na

      Dydi atgyfodi maes-e ddim yn ateb yfmi. Mae fforymau yn teimlo’n ddull hen ffasiwn, er fy mod yn caru y trafodaethau hirfaith oedd i’w cael yno. Mae diffyg sylwedd Twitter a Facebook yn codi braw arnai weithiau.

      Wn i ddim yr atebion, ond dwi’n gwybod bod cael sylw i sdwff Cymraeg ar-lein yn frwydr galed, ac mae angen cael cefnogaeth S4C ac eraill er mwyn cynyddu’r nifer o bobol sydd yn teimlo bod y we Gymraeg yn beth ‘normal’, nid yn le i gics a ffrics, chwadal y stori BBC na ar maes-e nol yn y dydd.

    • Carl Morris 1:08 AM ar 19 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Mae’r sefydliadau yn darllen nawr. (Dych chi’n gallu eu teimlo nhw?)

      Bydd buddsoddiad yn neis iawn a defnyddiol.

      Annwyl sefydliadau. Buddsoddwch mewn arbenigwr gyda PHROFIAD ARLEIN GO IAWN cyntaf. Her fawr, i gwmnïau cyfryngau yn enwedig – rydych chi’n hoffi pethau pert felly rydych chi’n chwilio am ddylunyddion cyntaf. Peidiwch. Cyn i chi neidio i mewn dylech chi chwilio am bobol sy’n deall cynnwys arlein, deall y dechnoleg, sy’n gallu adeiladu cymunedau arlein.

      (Dyn ni i gyd yn gallu enwi ein hoff engreifftiau o fuddsoddiadau annoeth yn y byd arlein hefyd.)

      Un syniad: darnau Uned 5 ar YouTube – dyw arlein ddim yn golygu gwefan newydd sbangli sbon (a drud) bob tro. Rydych chi’n gallu datrys problemau gyda teclynnau am ddim weithiau… Beth allech chi lanlwytho NAWR?

      @Rhodri
      Dylen ni disgwyl pethau amrywiol. Dylai niche yn bodoli am bob math o gymuned / cynnwys. Mae lot lot o fforymau ‘hen ffasiwn’ dal yn fywyiog yn ieithoedd eraill. Dw i ddim eisiau siarad am fforymau fel ‘yr ateb’ wrth gwrs. Mae popeth yn rhan o’r ecosystem.

      Dw i’n cytuno. Mae’r MSM (mainstream media fel blogwyr Saesneg yn galw fe) yn bwydo’r amaturiaid – a vice-versa mewn ffordd. Dyma pam mae’r ecosystem yn ddelwedd dda.

    • Huw 8:30 PM ar 19 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Meddyliais am hwn pnawn ma a sidro, a yw hi’n bosib creu rhaglen Facebook, gan fod cymaint yn treulio/wastio’u hamser ar y gwefan, sy’n tynnu trafodaeth gan bobol? Ar yr un pryd defnyddio API Twitter i tynnu ‘tweets’ perthansol pobol? Bydd yr atebion sy’n cael eu tynnu yn gysylltiedig â phwnc gosodiedig ar wefan. I.e. Ar wefan penodedig “Ai Gari Williams oedd comedîwr gorau Cymru?” Bydd y cwestiwn yma’n cael ei yrru i’r rhaglen Facebook, a ‘tweets’ mae’r wefan yn ei weld yn berthnasol i’r pwnc yn cael eu tynnu a’u gosod gyd yn yr un lle. Tipyn o Yahoo answers fath o beth.

      Dwi’m yn meddwl bod API Twitter yn caniatâu labelu ‘tweets’ gyda iaith nac efo unrhyw bwriad gwneud?

    • Rhodri ap Dyfrig 2:06 PM ar 23 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Par: Hirhoedlogrwydd ein cynnwys.

      Edrych fel bod o yn y zeitgeist ar hyn o bryd:

      http://techcrunch.com/2010/08/22/thnks-fr-th-mmrs/
      http://leoville.com/buzz-kill

    • Carl Morris 5:46 PM ar 23 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Huw, swnio’n ddiddorol. Efallai dylet ti greu rhaglen, wnaf i brofi e!

      Dyw Twitter ddim yn amgodio tweets am iaith yn anffodus ond allet ti drio Google Translate API am ddatgeliad iaith…

    • Carl Morris 6:15 PM ar 23 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Cofnod ddoe am sylwadau
      http://www.annatarkov.com/online-comments-need-an-overhaul-but-what-exa

      Diolch Rhodri – dw i ddim yn licio Paul Carr o gwbl! Ond dw i newydd wedi darllen Leo Laporte, dw i’n teimlo rhywbeth tebyg am Facebook a chynnwys Cymraeg. Mae’r canlyniadau yn difrifol i’r iaith Gymraeg arlein. Faint o sgyrsiau ydyn ni wedi colli yna? Siwr o fod, mae’r pethau dal ar gael ond
      – heb dolen parhaol
      – cau i Google
      – rhwng ffrindiau yn unig
      – ‘claddwyd’

      Blogiau yw gorau! Gyda blogiau a phlatfformau agored:
      – dyn ni’n creu cynnwys agored
      – agored i dolenni
      – agored i chwilio
      – weithiau dyn ni’n creu cynnwys ‘ar hap’ fel byproduct
      – polisi preifatrwydd hawsa. Pam? Paid postio unrhyw beth sensitif

  • Carl Morris 10:59 AM ar 9 August 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , CMS, cyfryngau, , Media Wales,   

    Ydy Media Wales yn deall y we o gwbl? Enghraifft WalesOnline 

    Enghraifft.
    http://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/2010/08/07/cymdeithas-concern-over-media-cuts-91466-27014833/

    Ar yr un tudalen:
    1. Teitl: “Cymdeithas concern over media cuts”
    2. Oriel o luniau hollol random o Eisteddfod 2010
    3. Erthygl Cymdeithas
    4. Erthygl Merched y Wawr
    5. Erthygl UCAC
    6. Erthygl ailgylchu yn yr Eisteddfod!

    (Sefyllfa bosib: dw i eisiau rhannu’r erthygl ailgylchu gyda fy ffrindiau trwy ebost/fy mlog/Twitter. Sut?)

    Newidiwch eich teitl, Media Wales? Neu newidiwch eich CMS!

    7. Gyda llaw, dim dolenni chwaith (tu fewn WalesOnline neu tu allan).

     
    • Dafydd Tomos 3:42 PM ar 9 Awst 2010 Dolen Barhaol

      Dal yn well na Golwg! Wnes i edrych ar rai o erthyglau Golwg 360 o’r steddfod, fel hwn Lluniau Eisteddfod

      1. Dim sylwadau, ond blog ar wahan (a dim cysylltiadau rhwng stori/eitem blog)
      2. Lluniau ‘raw’ anferth wedi ei llwytho yn syth o’r camera i’r blog heb newid maint
      3. Lluniau o gamera rhad a gwael
      4. Dim esboniad o’r lluniau, jyst random selection gan ‘snapper’ amatur.

      Ond mae erthygl Dylan Iorweth o’r ŵyl jazz yn dda.

  • Carl Morris 3:21 PM ar 23 July 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , cyfryngau, , , , ,   

    Ieithoedd, gwledydd a’r we – araith TED gan Ethan Zuckerman yn Rhydychen 

    Nodiadau
    http://www.ethanzuckerman.com/blog/2010/07/14/a-wider-world-a-wider-web-my-tedglobal-2010-talk/

    Tryloywderau

     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel