Cyrsiau technoleg, cyfrifiadureg a pheirianneg ar y we – rhydd (ac am ddim)
Pethau fel nodiadau, fideos, awdio, ‘handouts’
http://see.stanford.edu/see/courses.aspx
Dw i newydd ffeindio’r stwff yma (dw i ddim yn gwybod pryd naethon nhw ddechrau rhyddhau stwff yn rhydd).
Maen nhw wedi dewis Creative Commons-BY sy’n rhydd iawn. Mewn geiriau eraill, mae unrhyw sefydliad, ysgol, cwmni, llyfr, person (ti neu fi) yn gallu eu ailddefnyddio nhw. Does dim lot o amodau ond maen nhw yn gofyn am credit i Stanford (BY yn golygu ‘attribution’) fel amod.
Wrth gwrs mae lot o brifysgolion yn licio cadw pethau yn ecscliwsif ac yn nerfus am rhannu stwff. “Beth am y gystadleuaeth a chopio?” “Rydyn ni’n gwerthu’r nodiadau, ble fydd ein busnes os fyddan ni’n rhannu?”
Wel dyma’r manteision:
- mae pob ailddefnydd yn rhoi credit ac yn cyfrannu at enw da Stanford
- presennoldeb Stanford o gwmpas y byd
- maen nhw yn annog rhannu o wybodaeth
- hygyrch i bobol o wledydd tlawd, yn Saesneg neu cyfieithiadau
- mae’n haws i’r myfyrwyr i ffeindio’r nodiadau ar-lein ar y we agored yn hytrach na chofio cyfrinair ayyb
Dyma beth sydd dal yn wir:
- mae myfyrwyr dal eisiau mynd i Stanford er mwyn cael gradd o fri gyda phrifysgol o fri
- mae Stanford yn gwerthu’r profiad – amser gydag athrawon proffesiynol a chyd-myfyrwyr
- mae Stanford yn gwerthu mynediad i offer
- ti’n methu copio’r profiad Stanford, mae’n unigryw
Dw i wedi bod yn meddwl am Y Porth, sef yr adran ar-lein o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Bydd e’n wych os maen nhw yn gallu rhannu deunyddiau cyrsiau yn Gymraeg ar y we agored dan drwydded rhydd fel Creative Commons. Pam lai?
Mae manteision eraill i’r Gymraeg:
- helpu safoni termau arbennig
- mwy o gynnwys Cymraeg ar y we
- mwy o werth o’r buddsodiad
- dangos bywyd y sefydliad a chyfleoedd bosib i gyd-weithio gyda sector preifat / byd tu allan
- datblygu addysg Gymraeg a dyfodol yr iaith fel ‘cymuned’
- DIWEDDARIAD 19/08/2011: gweler pwynt Rhys yn y sylwadau am ddangos enghreifftiau da o ddefnydd o Gymraeg mewn addysg
DIWEDDARIAD 24/08/2011: Sgwrs da iawn yn y sylwadau. Newydd ffeindio gwerslyfrau agored o bob math – yn Saesneg wrth gwrs
Carl Morris 2:57 PM ar 20 Medi 2013 Dolen Barhaol
Dyma erthygl am rannu deunydd rhwng prifysgolion yng Nghymru ond does dim sôn am un o’r elfennau pwysicaf, sef y drwyddedau.
Rhys 6:18 AM ar 27 Medi 2013 Dolen Barhaol
Aha – diolch am hyn. O’n i wedi clywed sïon y byddai’r CCC yn gwneud mwy â CC yn y dyfodol.
Felly beth yw’r gwahaniaeth ymarferol rhwng NC-SA ac SA yng nghyd-destun prifysgolion?
Carl Morris 3:03 PM ar 30 Medi 2013 Dolen Barhaol
Mae SA yn debyg i ‘copyleft’ yn y GPL.
Er mwyn addasu’r deunydd (testun, llun, fideo, awdio, beth bynnag) a’i dosbarthu, mae’n rhaid pasio’r un rhyddid ymlaen.
Mae’n rhaid i unrhyw un sy’n dosbarthu gwaith newydd sy’n seiliedig ar rhywbeth o dan SA rhannu eu gwaith newydd nhw o dan SA hefyd. Ar hyn o bryd does dim lot o gwmniau masnachol sy’n fodlon rhyddhau pethau o dan Creative Commons o unrhyw fath. Does dim lot o sefydliadau hyd yn oed. Dyma pam mae’r cymal yn actio fel NC iddynt. Mae’n digon i stopio nhw rhag addasu’r cynnwys heb sôn am NC.
Os ydyn nhw (cwmniau cynhyrchu, cyhoeddi, cerddoriaeth, ayyb) yn fodlon mabwysiadu trwydded SA neu addasu pethau o dan SA maent yn gyfrannu at gynnwys rhydd.
Ar hyn o bryd byddai pethau anfasnachol fel Wicipedia Cymraeg, blogwyr annibynnol ayyb yn gallu manteisio ar gynnwys o dan SA. Ond yn y dyfodol pe tasai cwmniau neu sefydliadau yn fodlon derbyn yr SA byddan nhw yn gyfrannu at gynnwys rhydd beth bynnag.
Efallai mae prinder o Gymraeg yn y byd yn fwy o broblem nag ychydig o ddefnydd masnachol. (Sy’n cynyddu’r swm o gynnwys rhydd yn Gymraeg.) Dweud ein bod ni’n creu crys-t neu lyfr neu hyd yn oed cwrs masnachol sy’n seiliedig ar ddelwedd(au)/ddeunydd o archif Goleg Cenedlaethol – oes ots? Mae ‘busnes’ nhw yn seiliedig ar bethau eraill fel enw da, arbenigedd, y profiad wyneb-i-wyneb ayyb. Dw i’n siarad am hawlfraint yma yn hytrach na nodau masnach.
Gellid dweud bod angen ehangu cyfleoedd i fentrau masnachol! Pwy sydd wedi talu am y cynnwys gwreiddiol? Yn aml iawn, ti, fi a ni trwy’r pwrs cyhoeddus!
Ac mae trafodaethau ymhlith pobl Creative Commons am gael gwared â’r opsiwn NC am rai o’r rhesymau blaenorol.
Robin Owain 11:47 AM ar 3 Hydref 2013 Dolen Barhaol
Papur gwerth chweil yn fama:
http://www.wikimedia.de/images/1/15/CC-NC_Leitfaden_2013_engl.pdf
Yn fyr: mae CC-NC yn caniatau i’ch cynnwys / ffeiliau gyrraedd tua 20% o’r byd. Mae CC-BY (neu CC-BY-SA) yn ei ledu dros y byd cyfan: “am ddim i bawb”.
Mae’r cyfyngiad “Non Commercial” yn dwyllodrus: y weithred sy’n ei wneud yn fasnachol neu beidio. Er enghraifft: ydy ysgol fonedd yn fasnachol? Ydy. Dim hawl defnyddio’r drwydded NC. Ydy ysgol sirol yn fasnachol? Nac ydy… Ond: os yw’r ysgol sirol honno’n gwerthu Prospectws neu Lyfryn arall sy’n cynnwys ffotograff CC-NC yna mae’r weithred yn fasnachol, ac mae’r ysgol felly’n torri’r drwydded a gellir ei herlyn mewn llys. Disgrifio’r weithred mae’r C yn NC ac nid y corff.
Mae rhoi trwydded CC-NC ar ffeiliau yn feiopic iawn, a dyna mae’r Amgueddfa Genedlaethol (ac eraill) wedi’i wneud yn cyfrannu eu lluniau i Gasgliad y Werin. Chaiff gweisg na siroedd na cholegau Cymru ddim defnyddio’r cynnws, na gwefannau megis Wicipedia. Dw i’n sylwi hefyd fod y Llywodraeth (yn ddifeddwl mae’n debyg) wedi mynd am “yr opsiwn hawdd” yma yn ddiweddar efo’r lluniau maen nhw’n ei uwchlwytho ar Flickr gyda thrwydded CC-NC. Trist iawn.
Agorwch y ffenestri bobl!