Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn gweithio, gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, ar brosiect sy’n ceisio mesur effaith rhannu data agored gydag Wikimedia. Bydd prosiect Wicipobl yn canolbwyntio ar ddarparu amrywiaeth o weithgareddau gan gynnwys rhannu delweddau digidol ar drwydded agored, gweithio gydag ysgolion ar ddigwyddiadau estyn allan, creu erthyglau  Wicipedia Cymraeg newydd, rhannu metadata’r Llyfrgell… Parhau i ddarllen Bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Hacio’r Iaith yn cynnal Hacathon Hanes yng Nghaerdydd.

Rhannu llyfrau Cymraeg – gwersi o Norwy

Mae Hacio’r Iaith 2018 newydd ddechrau! Diolch o galon Andrew Green am gyflwyniad hynod ddiddorol bore yma am ei hanes mewn llyfrgelloedd, yn enwedig ei sôn am brosiect Norwyaidd i ddigido holl lyfrau Norwyeg, a’r syniad cyffrous iawn o ganfod ffordd o roi pob llyfr Cymraeg ar y we. Mae hyn yn sicr yn rywbeth… Parhau i ddarllen Rhannu llyfrau Cymraeg – gwersi o Norwy

Archif papurau newydd Cymru – dros 100 o deitlau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol

Llun o’r Gwladgarwr, mis Rhagfyr 1884 Mae Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn sganio a digido hen bapurau newydd o Gymru gan gynnwys dros 100 o deitlau gwahanol yn Saesneg ac yn Gymraeg. Bydd y casgliad ar gael i bawb cyn hir. Yn y cyfamser maen nhw newydd gwahodd pobl sy’n mynychu’r Hacathon ar ddydd Gwener… Parhau i ddarllen Archif papurau newydd Cymru – dros 100 o deitlau ar wefan Llyfrgell Genedlaethol

Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Dw i’n edrych ymlaen yn arw at y digwyddiad yma: Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol Llyfrgell Genedlaethol Cymru Penglais SY23 1BU Aberystwyth Dydd Gwener 18fed mis Ionawr 2013 09:30 i 19:00 Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi digido bron i filwn o dudalenni o bapurau newydd hanesyddol Cymru, i’w lawnsio ym mis Mawrth 2013. Dyma gyfle i… Parhau i ddarllen Hacathon! Papurau Newydd Hanesyddol – Aberystwyth, mis Ionawr 2013

Llyfrgell Gen yn cymryd rhan mewn Hackathon casgliadau digidol

http://llgcymru.blogspot.com/2011/09/sgons-archifau-thragwyddoldeb.html Mae sut i ddod ag archif hybrid – papur a digidol – at ei gilydd yn her gadwraethol i ni yn y byd archifol. Yn fuan, byddaf i a rhai eraill o staff y Llyfrgell yn mynychu Hackathon yn Efrog, lle byddwn yn edrych ar daclo rhai o’r cwestiynau hyn gyda chydweithwyr ledled Ewrop.… Parhau i ddarllen Llyfrgell Gen yn cymryd rhan mewn Hackathon casgliadau digidol

£2.8 miliwn i lyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau Cymru

Bydd y cyllid yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau, sy’n amrywio o foderneiddio adeiladau llyfrgelloedd cyhoeddus i gefnogi amgueddfeydd a reolir gan wirfoddolwyr. Eleni, mae nifer o gynlluniau i gefnogi arloesi a gweithgareddau addysgol wedi cael cyllid… http://wales.gov.uk/newsroom/cultureandsport/2011/110328libraries/?skip=1&lang=cy