Open Rights Group: digwyddiad am breifatrwydd yng Nghaerdydd, 28ain mis Tachwedd 2012

Mae’r Grŵp Hawliau Agored ar daith i siarad am y peryg o golli preifatrwydd personol ar y rhyngrwyd.

Bydd cyfarfod yng Nghaerdydd ar ddydd Mercher 28ain mis Tachwedd 2012.

Mae’r grŵp wrthi’n ymgyrchu yn erbyn y Siarter Ysbiwyr, sef bil drafft gan y llywodraeth clymblaid yn San Steffan i orfodi darparwyr rhyngrwyd, platfformau rhwydwaith cymdeithasol a darparwyr eraill i ysbïo ar eich data cyfathrebu.

Bydd mynediad am ddim ond mae rhaid cofrestru o flaen llaw.

Dyma ragor o wybodaeth am Grŵp Hawliau Agored a’r dudalen ar Wicipedia Cymraeg. Byddai rhai o bobl yn nabod Jim Killock, cyfarwyddwr gweithredol y grŵp, trwy Hacio’r Iaith 2012 yn Aberystwyth ym mis Ionawr. (Gwnaeth e redeg sawl sesiwn gan gynnwys trafodaeth am sensoriaeth ar y rhyngrwyd).