Tagiwyd fel: ystadegau Toglu Trafodaethau mewn Sylwadau | Bysellau Brys

  • Carl Morris 1:42 PM ar 19 January 2013 Dolen Barhaol
    Tagiau: , ystadegau   

    Sesiwn 2a: Wicipedia Cymraeg (dolenni) 

    Wicipedia Cymraeg
    http://cy.wikipedia.org

    Ystadegau am Wicipedia Cymraeg
    http://stats.wikimedia.org/EN/SummaryCY.htm

    Ieithoedd – mae Cymraeg yn lle 69!
    http://meta.wikimedia.org/wiki/List_of_Wikipedias
    Llywodraeth Gwlad y Basg yn buddsoddi yn prosiectau Wicipedia Basgeg ac maent wedi cyrraedd lle 33 gyda 10x mwy o erthyglau na Wicipedia Cymraeg.

     
  • Carl Morris 3:28 PM ar 7 November 2012 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , ystadegau   

    Dyddiad canlyniadau cyfrifiad – a chymunedau Cymraeg 

    Caiff ystadegau’r Cyfrifiad 2011 ar y Gymraeg eu rhyddhau ar dydd Mawrth 11eg Rhagfyr 2012, ymhlith ystadegau eraill.

    Mae prinder o wybodaeth Cymraeg amdano fe ar hyn o bryd. (Dw i ddim yn hoff iawn o’r cyfrif Cymraeg Cyfrifiad2011, mae’n wan.)

    Dw i’n siwr bydd pobl sydd yn hoffi data eisiau dadansoddi’r canlyniadau gan gynnwys yr ystadegau ym meysydd eraill. Efallai byddai pobl yn ffeindio cysylltiadau newydd rhwng y Gymraeg a data eraill.

    Trafodaeth: ym mhersonol dw i ddim yn disgwyl llawer o syndod o ran yr ystadegau ar y Gymraeg: mwy o siaradwyr potensial ar y cyfan ar sail addysg Cymraeg, lot llai o gymunedau Cymraeg. Fydd ddim lot o iechyd i’r iaith Gymraeg heb gymunedau Cymraeg.

    Ond mae sawl lle i drafod y broblem ehangach. Rydym ni’n trafod pynciau gyda rhyw fath o gysylltiad i dechnoleg yma. Felly’r cwestiwn anodd sydd yn bwysig i mi felly yw: sut allai technoleg a chyfryngau digidol helpu’r ymdrech i gynnal cymunedau Cymraeg cynaliadwy? Dw i wedi bod yn meddwl am y cwestiwn yma eithaf lot yn ddiweddar. Dw i’n gallu meddwl am sawl pwnc o fewn ein maes ni: ymgyrchu/lobio, newyddion lleol, gwaith, arloesi/cwmnïau cychwynnol, addysg, datblygu polisi.

    Un elfen bwysig o’r sgwrs yw natur cymunedau. Dw i’n disgwyl pobl i ddweud bod cymunedau yn ‘wahanol’ dyddiau yma. Wel, ie ac na… Ambell waith dw i’n defnyddio’r term ‘cymunedau ar-lein’ ond mewn gwirionedd does dim wal galed rhwng ar-lein a’r byd corfforol. Mae ar-lein yn gallu cryfhau cysylltiadau ‘off-lein’ – dw i wedi gweld enghreifftiau. Wrth gwrs mae lot o bobl heb gysylltiad i’r rhyngrwyd neu yn ei defnyddio dim ond bob hyn a hyn. Wedi dweud y cwbl, mae’n anodd i mi ddychmygu cymuned leol go iawn heb ‘sefydliadau’ fel ysgol, swyddfa bost a siop (yn enwedig mewn pentref bach) ac yn anffodus mae grym tu allan i’r cymuned sydd yn penderfynu ac yn dylanwadu ar bethau mor hanfodol fel ‘na.

    Mae’r cofnod yma wedi bod yn llif o feddyliau heb lot o strwythur. Byddwn i’n croesawu unrhyw sylwadau perthnasol isod.

     
    • ioan 2:17 PM ar 8 Tachwedd 2012 Dolen Barhaol

      “…mwy o siaradwyr potensial ar y cyfan ar sail addysg Cymraeg, lot llai o gymunedau Cymraeg.”
      Dwi’m yn siwr os bydd na lot llai o gymunedau Cymraeg yn y Gogledd. Dibynu ar y diffiniad mae’n siwr. Os ti’n edrych ar Wardiau > 70%, dwi’m yn disgwyl i’r nifer ddisgyn llawer yng Ngwynedd / Mon. A dweud y gwir, dwi’n disgwyl i’r nifer sy’n siarad Cymraeg cynyddu yng Ngwynedd (fel y gwnaeth yn 2001 ymhlith pobl iau na 50).

  • Carl Morris 2:21 PM ar 30 September 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , marchnata, , ystadegau   

    Seminar (Caerdydd) ar ddefnydd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru 

    Mae gwahoddiad yn cael ei ddanfon heddiw i fynychu ein seminar brynhawn rhad ac am ddim ar 19fed o Hydref, sy’n trafod ein darganfyddiadau ymchwil newydd ar ddefnydd cyfryngau cymdeithasol defnyddwyr yng Nghymru. Hwn yw’r diweddaraf o seminarau Beaufort sydd wedi ei arwain gan ymchwil gwreiddiol ac yn canolbwyntio ar dueddiadau allweddol agweddau defnyddwyr yng Nghymru.

    Mae data diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos cynnydd nodedig mewn defnydd o gyfryngau cymdeithasol dros y flwyddyn diwethaf ar draws y DU. Yn 2011, am y tro cyntaf erioed, mae dros hanner o oedolion wedi bod ar wefan cyfrwng cymdeithasol, gan ddangos pwysigrwydd rhwydweithio cymdeithasol ym mywyd oedolion Prydeinwyr.

    Felly beth yw’r sefyllfa yng Nghymru? Gan ddefnyddio data perchnogol wedi ei gasglu drwy arolwg Omnibws Cymru Beaufort gyda sampl gynrychioladol o oedolion yng Nghymru, a’r ychwanegiad o dechnegau ansoddol sydd wedi ei cynllunio i ddeall yn well gymhelliant defnyddwyr, byddwn yn ateb cwestiynau megis:

    • pwy sy’n defnyddio gwefannau rhwydweithio yng Nghymru?
    • pam ydym yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol mwy a mwy?
    • pa rôl sydd gan rhwydweithio cymdeithasol ym mywyd pobl?
    • pwy yw’r defnyddwyr mwyaf rheolaidd o gyfryngau cymdeithasol yng Nghymru?
    • sut mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio gwefannau cyfryngau cymdeithasol?
    • sut mae Cymru’n wahanol i weddill y DU?

    mwy o fanylion / archebu dy le
    http://www.beaufortresearch.co.uk/index.php/site/news/social_media_use_in_wales_seminar_launched/

     
    • Rhodri ap Dyfrig 2:34 PM ar 30 Medi 2011 Dolen Barhaol

      Diolch am bostio’r ddolen. Swnio’n wych. Sdim llawer o ystadegau yn ôl iaith. Dyw Ofcom ddim yn cyhoeddi breakdown o’u ffigyrau adroddiadau marchnad yn ol iaith, er aparyntli eu bod yn eu casglu, sydd yn biti mawr.

  • Carl Morris 11:20 AM ar 7 July 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: Google Analytics, , ystadegau   

    Angen help gyda phrawf (Aled Roberts AM, Comisiwn Etholiadol a’r ‘dim hits’) 

    Mae hanes gwahardd Aled Roberts o’r Cynulliad wedi cymryd tro arall wrth i dystiolaeth ddod i’r amlwg sy’n awgrymu nad oedd wedi edrych ar ganllawiau Cymraeg y Comisiwn Etholiadol wedi’r cwbl.

    Heno daeth i’r amlwg fod cofnodion ar-lein y Comisiwn Etholiadol yn awgrymu nad oedd unrhyw un wedi cael mynediad i’r dudalen Gymraeg sydd wrth wraidd y ddadl yn ystod y cyfnod perthnasol.

    http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/43094-aled-roberts-tro-yn-y-gynffon

    Diolch i bawb am y sgwrs ar Twitter ar ôl CF99 neithiwr. (Dylai Betsan Powys ymuno!)

    Cwestiwn yw, sut wnaethon nhw edrych at yr ystadegau i ffeindio’r canlyniad ‘dim hits’?

    HELP!

    Dw i wedi lanlwytho 2 PDF i fod yn sicr am ein theori Google Translate. Cer i PDF 1 a PDF 2. Gwnaf i gyhoeddi’r ystadegau cyn hir.

    Plîs cer i PDF 1

    Plîs cer i PDF 2

    Rydyn ni angen ateb go iawn i’r cwestiwn uchod ond dw i eisiau profi Google Translate beth bynnag.

    ESBONIAD

    Nes i sylwi 2 peth neithiwr:

    1. Fel arfer gofynion y Comisiwn yw ffeiliau PDF (Adobe)
    (a ffurflenni yw ffeiliau DOC (Microsoft Word))
    Enghraifft

    2. Os ti’n edrych at y cod (View Source) maen nhw yn rhedeg Google Analytics, sy’n cynnig ystadegau ar sail sgript JavaScript. Dyw Google Analytics ddim yn rhedeg mewn PDF (neu DOC), dim ond mewn tudalennau HTML. Os ti’n dilyn dolen syth i’r PDF dylai fe osgoi unrhyw JavaScript. Ond os ti’n dilyn dolen o’r tudalen HTML i PDF efallai mae’n rhedeg y sgript.

    Fel y dwedodd Dafydd neithiwr yn hytrach na Google Analytics dylen nhw edrych at y logiau ar y gweinydd i fod yn sicr. Sut yn union wnaethon nhw edrych at yr ystadegau?

     
    • Carl Morris 11:35 AM ar 7 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Mae fy ffrind hyfryd newydd ymweld y dau gyda chyfrifiadur arall. Does dim byd ar yr ystadegau Google Translate…

    • Rhys 11:49 AM ar 7 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Wedi cesio ymweld, ond tydy fy mhorowr gwaith ddim yn hoffi PDF’s felly falle ni ddangosir fi oherwydd hynny.

      Mae sylw pwysig ar Golwg360.com gan y Com Ethol hefyd:

      Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol ar y rhaglen nad oedd eu hystadegau nhw yn awgrymu “nad oes yr un person wedi edrych ar y ddogfen. Mae’n bosib bod rhywun wedi edrych arno a fod hynny ddim wedi cofrestru.”

    • Dafydd Tomos 12:37 PM ar 7 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Mae yna lawer iawn o esboniadau am pan nad oes ceisiadau a dwi ddim yn meddwl mai JavaScript neu Google Analytics yw’r ateb, am fod y Comisiwn yn dweud fod 173 cais ar gyfer y ddogfen saesneg (sydd i’w weld yn uchel iawn i fi). Mae Vaughan Roderick yn dweud efallai fod awdurdodau lleol yn debygol o blocio JavaScript ond dyw hynny ddim yn arferol chwaith. Mae cyfrifiaduron ar rwydwaith awdurdod lleol neu lyfrgelloedd yn fwy tebygol o ddefnyddio ‘whitelist’ o wefannau i’w caniatau tra’n gwrthod y lleill.

      Mae llawer yn dibynnu yn union ar pa dudalen yr aeth Aled iddo. Os aeth e i dudalen HTML ar wefan y Comisiwn ac yna clicio’r PDF mi fyddai o leia un cais wedi gofnodi yn Google Analytics (os nad oedd problem yn llwytho sgript Analytics am unrhyw reswm). Os oedd e wedi dilyn dolen i’r PDF yn uniongyrchol, dim ond yn log y gweinydd fase hynny wedi cofnodi.

      (Os oes yna logs wrth gwrs, mi fasech chi’n synnu cyn lleied mae rhai gweinyddwr systemau yn talu sylw i osod a archifo logs yn gywir, er mai dyma y wybodaeth fwya trylwyr a dibynnadwy sydd i gael ar unrhyw wefan).

      Mae yna bosibiliadau eraill. Er enghraifft mae gan wefan y Comisiwn weinydd ‘cache’ wedi ei osod o’i flaen (mae’n rhedeg Squid). Pwrpas hwn yw lleihau y nifer o geisiadau i’r gweinydd go iawn ac osgoi gorlwytho y gweinydd. Ydi’r comisiwn yn defnyddio logs o’r gweinydd tu ôl y llenni neu o’r cache?

      Yn ola, dyw’r Comisiwn ddim yn dweud pa gyfnod mae’r ystadegau yn cyfeirio ato (diwrnod? wythnos?) ond mae’n eitha anhebygol fod dim un cais o gwbl wedi bod i’r PDF. Heblaw am gais gan ‘berson go iawn’ mi fyddai nifer o bots wedi ymweld a’r dogfennau.

      Dwi’n cynnal gwefan sydd a llawer iawn o ddogfennau PDF ar gael i’r cyhoedd. Mae yna lawer iawn o bots gwahanol yn crafu’r dogfennau hynny bob dydd, ac yn gyfrifol am tua 0.1% o’r traffig. Mae’r ystadegau yma yn dod o’r logs a ddim yn dibynnu ar unrhyw god JS.

    • Anne Baik 1:59 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Mae’r trafodaeth yma yn ddiddorol iawn iawn i mi, ond beth dydw i ddim yn deall yw pan nad yw Aled Roberts yn rhoi prawf o beth mae’n honi trwy ddangos ei hanes arlein ar y 24/3/11, sydd pryd mae’n dweud ei fod e wedi ymweld â gwefan Gymraeg y Comision Etholiadol? A pham nad oedd yr heddlu yn edrych ar hard drive ei gyfrifiaduron pan oedden nhw’n ymchwilio’r mater? Hyd yn oed os mae wedi cael gwared ar hanes ei ymweliadau mae’r hanes yn dal ar y hard drive, on’d yw e?

    • Dafydd Tomos 8:46 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Dyw’r ffaith fod technoleg yn gwneud hi’n bosib i olrhain pob math o bethau ddim yn golygu fod rhaid gwneud bob tro. Mewn achosion o drosedd difrifol lle mae unigolyn wedi niweidio rhywun arall, yn amlwg dylid defnyddio technoleg i drio fynd at y gwir, gan gofio nad yw hynny yn golygu fod rhywbeth yn 100% sicr.

      Yng nghyd-destun yr archwiliad penodol yma dwi’n anghyffyrddus gyda’r syniad yma o wneud archwiliad cyfrifiadurol fforensig yn unig er mwyn profi os oedd rhywun wedi edrych ar wefan neu beidio!

      Dychmygwch ein bod ni mewn oes cyn cyfrifiaduron a bod y Comisiwn Etholiadol wedi darparu dogfen Gymraeg a Saesneg iddo ar bapur – sut allech chi brofi ei fod wedi darllen y naill neu’r llall? Fe fasech chi’n dibynnu ar gymeriad ac enw da y diffynydd a fase dim angen meddwl am wario arian mawr ar unrhyw ddadansoddiad technegol.

      Fe dderbyniodd Aled Roberts ebost gyda’r ddolen i’r canllawiau yn Gymraeg yn gyntaf, a roedd y canllawiau hynny yn anghywir. Mae e’n dweud ei fod wedi dilyn y ddolen Gymraeg. Mae angen defnyddio ychydig o synnwyr cyffredin fan hyn gan ddibynnu ar dystiolaeth Mr Roberts (fel mae Gerard Elias yn wneud).

      Os oedd e wedi edrych ar y canllawiau saesneg cywir, fe fyddai wedi sylwi ei fod yn aelod o un o’r cyrff gwaharddedig. Os felly doedd dim rheswm o gwbl iddo barhau yn aelod o’r corff hynny – doedd dim mantais ariannol a dim mantais bersonol.

      Mae’r holl ddadleuon dros y wefan ac ati yn bethau dibwys iawn yng nghyd-destun y ‘cyhuddiad’ a’r gwleidyddion sydd yn chwarae gemau fan hyn am resymau pleidiol.

    • Carl Morris 9:03 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Yng nghyd-destun yr archwiliad penodol yma dwi’n anghyffyrddus gyda’r syniad yma o wneud archwiliad cyfrifiadurol fforensig yn unig er mwyn profi os oedd rhywun wedi edrych ar wefan neu beidio!

      Dw i ddim yn cynnig y prawf yma fel rhywbeth fforensig. Dydyn ni ddim yn gwybod digon am y stori. Dw i yn chwilfrydig am Google Analytics fel teclyn yn gyffredinol.

    • Dafydd Tomos 9:50 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Ie Carl, dwi ddim yn sôn am dy arbrawf di (ond does dim angen arbrawf, mae technegau i dracio ffeiliau gyda Google Analytics yn wybyddys.. mae rhaid defnyddio ‘onclick’ neu clymu’r ddolen i ‘event tracking’ yn Analytics.. Ni’n gwneud hyn i gwsmeriaid).

      Y pwynt dwi’n gwneud yw fod pobl (yn cynnwys gwleidyddion) yn llusgo’r stori yma ymlaen drwy godi pob math o gwestiynau ynglyn a edrych ar gyfrifiadur Aled Roberts, gweinyddion eu ISP, ystadegau gwefan y Comisiwn ayyb. Camau sydd ddim yn mynd i brofi unrhywbeth 100% a ddim yn cynnig atebion ‘gwell’ na tystiolaeth yr heddlu ac adroddiad Elias.

      Er fod hynny i gyd yn gwestiwn ‘diddorol’ yn dechnegol, does dim angen mynd i’r gost a’r drafferth (ni ddim yn son am lofruddiaeth fan hyn), ond fod yr adroddiad a’r dystiolaeth sydd wedi ei gyflwyno yn ddigon da. A mae’r bleidlais wedi cymryd lle, felly dyna ddiwedd hi.

    • Anne Baik 10:55 PM ar 8 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Diolch am eich ymateb. Beth rwy’n cynnig yw y ffordd orau o roi diwedd ar yr achos yma trwy ddangos hanes yr ymweliadau ar gyfrifiadur Aled Roberts ei hun. Mae’n rhwydd i’w wneud ac mae’n amhosib i ymyrryd â fe felly mae’n ‘proof positive’ fel petai. Pan mae’n llusgo ymlaen fel hyn mae’n gwneud niwed i’r iaith Gymraeg achos mae’n creu criw mawr o bobl sydd yn dechrau cwyno am yr arian sy’n cael ei wario ar wefannau ayyb yn Gymraeg sy ddim yn cael eu defnyddio gan neb. Ynghlyn â Roberts rwy’n meddwl dylai Dixon a Roberts cael yr un triniaeth achos yr un trosedd etholiadol wnaethon nhw.
      Y peth technegol sydd o ddiddordeb i mi yw y ffaith bod e’n bosibl ymweld yn uniongyrchol â ffeil PDF heb adael ôl ar Google Analytics. On’d yw’r peth yma yn wendid mawr yn y raglen – oes ‘na raglen arall sydd yn datrys y broblem ac yn cyfri yn gywirach?

    • Dafydd Tomos 12:35 AM ar 9 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Anne, mae’r achos wedi dod i ben am fod adroddiad Elias wedi derbyn tystiolaeth Aled Roberts a mae aelodau’r Cynulliad wedi pleidleisio i’w dderbyn.

      Fel dwi’n trio esbonio uchod, mae’n amhosib defnyddio technoleg i gael sicrwydd 100% fod Aled Roberts yn benodol wedi edrych ar y canllawiau Cymraeg. Doedd neb wedi gofyn am wneud hynny drwy’r holl ymchwiliad chwaith. Mae e yn sicr yn bosib i ‘ymyrryd’ a’r wybodaeth ar gyfrifiadur a mae e hefyd yn bosib iawn nad yw’r wybodaeth hynny ar gael bellach mewn ffordd dibynadwy. Felly does dim pwynt hyd yn oed trafod mynd lawr y llwybr hyn.

      Trafodaeth wahanol iawn yw pobl yn cwyno am gynnwys Cymraeg ar wefannau. Dwi’n amheus o’r ystadegau gan y Comisiwn beth bynnag a mae’n bosib nad ydyn nhw yn cofnodi ystadegau ar gyfer ffeiliau, dim ond tudalennau.

      Fel wnes i esbonio uchod hefyd, mae Google Analytics yn ddibynnol ar Javascript, felly yn gweithio ar dudalen HTML yn unig OS yw’r porwr yn rhedeg Javascript. Os oedd rhywun yn cysylltu i’r PDF yn uniongyrchol o ebost, yr UNIG le fase hynny yn cael ei gofnodi yw yn logs y gweinydd gwe. Ond does ddim sicrwydd 100% o hynny chwaith oherwydd y defnydd o caches gan system ar ochr y defnyddiwr AC ar ochr y wefan. Does dim ffordd ‘foolproof’ o gael ystadegau cywir o gwbl.

      Dwi’n gweithio fel gweinyddwr systemau i gwmni sy’n datblygu gwefannau, a dwi’n gweld y broblem yn aml. Mae’r cwsmer yn ffonio fyny ar ôl ceisio newid cynnwys ar ei gwefan ond ddim yn gweld y fersiwn newydd. I ddatrys y broblem mae’n bosib i ni ddilyn ceisiadau y defnyddiwr yn edrych ar y wefan tra eu bod nhw ar y ffôn (drwy edrych ar y log ‘byw’). Mae nhw’n clicio tudalen.. a does dim cofnod o hynny ar y gweinydd. Pam? Mae ganddyn nhw proxy lleol sy’n dal i ddangos copi o’r cache. Ni’n gofyn iddyn nhw wasgu Ctrl-F5 ac yn sydyn ni’n gweld eu cais nhw a mae nhw’n gweld y cynnwys cywir!

      Dyna un enghraifft allan o nifer – sut mae’n amhosib dibynnu ar y math yma o dechnoleg i roi ystdegau 100% cywir.

    • Anne Baik 9:51 AM ar 9 Gorffennaf 2011 Dolen Barhaol

      Esboniad grêt – dylai Elias wedi cynnwys yr un fath o esboniad mewn atodiad i’r AMs. Diolch yn fawr.

  • Carl Morris 3:24 AM ar 3 January 2011 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , ystadegau   

    Ystadegau blog Bethan Gwanas 

    http://bloggarddiobethan.wordpress.com/2011/01/02/blogio/

     
  • Carl Morris 1:55 AM ar 28 November 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , ystadegau   

    Trendio ar Twitter? Angen tweet tua bob 19 eiliad 

    Dydd Sadwrn cafodd y testun S4C ei chofrestru ar “Trending topics”, y gofrestr DU o bynciau poblogaidd ar Twitter. Ffactor pwysig oedd penderfyniad BBC i ddangos tennis yn lle rygbi felly roedd pobol yn cwyno ac awgrymu S4C fel sianel amgen i wylwyr BBC. Wrth gwrs mae pobol yn postio negeseuon gyda’r testun S4C trwy’r amser ond dyw’r niferoedd ddim wedi bod yn ddigon mawr am drendio hyd yn hyn.

    Beth yw “digon mawr”? Wel mae’r tweets dal ar gael trwy chwilio.

    Bydd rhaid i ni ddewis tweet i ddod cyntaf. Dyn ni’n gallu bod yn eitha sicr yma.

    Yn ôl trefn gronolegol, tweets gyda chyfeiriad i S4C:
    3:55PM http://twitter.com/theambassador61/statuses/8549435290165248
    4:58PM http://twitter.com/sgorio/statuses/8565365332254720
    4:59PM http://twitter.com/sgorio/statuses/8565520852848640
    5:05PM http://twitter.com/Flintaxe/statuses/8566995188453376

    Y tweet 5:05PM gan Flintaxe yw’r cyntaf gyda chyfeiriad i’r BBC ac S4C. Ac wedyn mae lot o dweets am y pwnc yn dilyn, gyda rhai S4C am bynciau eraill. Mae Twitter yn cyfrif unrhyw tweet gyda S4C, paid anghofio. Maen nhw i gyd yn cyfrannu at y pwnc sy’n trendio (sori).

    Pryd ddechreuodd y trend? Dw i ddim yn gwybod yn sicr ond mae’r cyfeiriad cyntaf i’r trend yn eitha deg – fel canllaw. Mae’n dibynnu ar y person cyntaf i dynnu sylw a phostio rhywbeth.

    5:43PM – y tri cyfeiriad cyntaf i’r trend

    How is S4C trending? Have Wales invaded Twitter?


    S4C IS TRENDING 😀 lml

    @Lucycake

    Lucy Overs


    Haha S4C yn trendio!

    @smileyrhi

    Rhi Davies

    Gwnes i gyfrif 121 tweet rhwng y ddau, yn ystod cyfnod 38 munud. Felly os mae unrhyw destun yn mwynhau 3.18 cyfeiriad bob munud am 38 munud, dylet ti ei ddisgwyl e ar y gofrestr. Neu tweet tua bob 19 eiliad am 38 munud.

    Rhaid i ni gymryd bod e’n ddiwrnod fel Dydd Sadwrn gyda nifer debyg o ddefnyddwyr a chystadleuaeth debyg.

    Cwestiynau: ydy Twitter yn cyfrif tweets gan cyfrifon ar gau? Beth am 2 tweet gan yr un cyfrif? Beth am RTs? Ydy’r enghraifft yma yn boblogaidd iawn iawn neu dim ond eitha poblogaidd yn y DU?

    Siwr o fod lot o bynciau mwyaf pwysig na trendio yn y DU yn bodoli. Fydd e ddim yn achub S4C ar ei ben ei hun(!). O’n i eisiau rhannu hwn am dy wybodaeth beth bynnag.

     
    • Dafydd Tomos 2:33 AM ar 28 Tachwedd 2010 Dolen Barhaol

      Diolch am y dadansoddiad! Mae’n eitha diddorol i ddyfalu beth yw’r algorithm. Os oedden nhw’n cyfri RTs dwi’n credu y bydde rhaid rhannu’r nifer gyda rhyw ffactor arall (y nifer o RTs unigryw arall sydd yn digwydd ar y pryd?). Er enghraifft os yw’r BBC, Broadcast neu y Guardian yn cyhoeddi stori am S4C, fe fydd nifer o bobl yn ei RTio, ond hefyd degau o bots a chyfrifon sbam. Mae’r cyfrifon yn gwneud hynny i storiau eraill hefyd, felly does dim trend yn codi – mae’ na broses de-duplication yn digwydd.

      Wrth fesur trend, mae’n rhai iddyn nhw anwybyddu set o eiriau cyffredin, a mae S4C yn enw unigryw fyddai’n cael ei gyfri. Os yw enw neu ymadrodd yn dechrau ymddangos yn aml, ydyn nhw wedyn yn cymharu pa mor wahanol yw’r trydar? Os ydyn nhw yn union yr un testun, mae nhw’n RTs neu bobl yn copio neges (neu cyfrifon sbam). Fe ddylai fod sgor uwch i’r negeseuon unigryw felly a llai i’r copiau.

      Dwi ddim yn edrych ar y rhestr trendio yn aml iawn ond o be dwi wedi weld, dyw e ddim yn adlewyrchu storiau newyddion neu rhyw sylw neu ddolen sy’n cael ei RTio filoedd o weithiau. Yn hytrach mae’n dibynnu ar nifer uchel o sylwadau unigryw a gwahanol ar yr un pwnc, sy’n dechrau mewn ffordd ‘organig’ efallai.

  • Rhodri ap Dyfrig 2:26 PM ar 30 January 2010 Dolen Barhaol
    Tagiau: , , Google Earth, , , ysgolion meithrin, ystadegau   

    Sesiwn Hywel Jones – Mapio’r Iaith ac Ysgolion 

    Blogio byw…wel, nodiadau byw

    • Gallu trososod map niferoedd siaradwyr Cymraeg (2001) wedyn dangos lle mae’r ysgolion, a chael eu manylion cyswllt wrth glicio ar y pin.
    • Dangos y maps rwan: edrych yn dda iawn. Wir werth ei weld.
    • Oes unrhyw raglennwyrr/dylunwyr allai wneud nhw’n fwy deniadol/defnyddiadwy eto?
    • Un broblem yw bod y ddata yn statig. Dim diweddaru byw.
    • Wedi eu rhoi mwn fformat KMZ(Google Eareth)  ar dudalen cyhoeddiadau BYIG
    • Wedi gorfod GeoCodio gwybodaeth am gylchoedd meithrin gan ddefnyddio http://batchgeocode.com a MapInfo Envisa. Problemau gyda chyfeiriadua Cym/Saes cymysg.
    • Camau: 1. dod o hyd i ddata: http://data.gov.uk; 2. Ail fformadu a mewnforio gan ddenfyddio MapInfo a GIS; 3. Allbynnu efo Google Earth
    • Pam defnyddio Google felly? Maps – pobol yn gyfarwydd a nhw; ddim yn dda os oes llawer o wrthrychau. Earth – da gyda llawer o wrthrychau, troshaenau tryloyw. Ond llai o bobol yn gyfarwydd a fo a gorfod lawrlwytho
    • Cyflwyno data o ddiddordeb i Hywel, sydd yn ystadegydd.
    • Cynulliad wedi creu categoriau llynedd. Hyn yn gyhoeddus, Cynyddu gwyb. i rieni wneud eu dewis.
    • doedd dim ‘ysgolion penodedig Gymraeg’: llawer o amrywiaeth
    • Oes  angen rhywbeth tebyg am ysgolion Cymraeg
    • Dangos stwnsh Lancashire school finder ar data.gov.uk
    • Diffyg cynnwys yn y Gymraeg
     
c
compose new post
j
next post/next comment
k
previous post/previous comment
r
reply
e
edit
o
show/hide comments
t
go to top
l
go to login
h
show/hide help
esc
cancel